Canwio Hywel

CanwioHywel – gweflog Gymraeg ei hiaith am ganwio.

Mae gan Hywel hafanddalen hen yskol hefyd, gyda chysylltiadau i safleoedd canwio, ond fel mae’n dweud “gwaetha’r modd, mae bron y cyfan ohonynt yn uniaith Saesneg.”

Wedi’i ychwanegu i’r rhithfro. Oes ’na weflogiau Cymraeg eraill dw i wedi eu colli? Rho wybod yn y bocs sylwadau os wyt ti’n gwybod am flog Cymraeg sy ddim yn y rhestr eto.

Serpico

Serpico (Sidney Lumet, 1973). Yr ail ffilm Lumet/Pacino dw i wedi gwylio’n diweddar, ond ro’n i’n eitha cyfarwydd â hon. Pacino, unwaith eto, yn profi pa mor dda mae’n gallu bod, a sut ddaeth e yn un o’r actorion mwya ei genhedlaeth.

Ffasiynau gwych hefyd. Al Pacino mewn barf a chrys lliain caws, yn gweiddi “I expect a house clean when I get home from work!” yn dweud mwy am y seithdegau na channoedd o raglenni gwael BBC2 am faint o’n ni’n caru y degawd.

Dyma lun o’r Frank Serpico go iawn, sy’n gweithio fel actor a gweithredwr gwleidyddol y dyddiau hyn. Mae’n dal i edrych fel Al Pacino (neu, mae Al yn dal i edrych fel Frank), ac yn dal i swnio fel dyn diddorol.

Posted in Heb gategori | Tagged

Y Grwp Anghenrheidiol

The Necessary Group – criw sy’n ymgyrchu dros ddatganoli yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae ganddyn nhw faner yn barod, chwarae teg.

Byddai’n hawdd iawn i fod yn sinicaidd neu’n gas am hyn (neu i ofyn allen ni gael ein dŵr yn ôl, plîs?), ond wedi meddwl, dw i’n credu bod hyn yn syniad wych. Nid yn unig i bobl y rhanbarth ei hun, ond am y sgil-effeithiau gall hyn cael arnon ni yng Nghymru fach. Gyda rhai eithriadau anrhydeddus, mae ysgogiad ar gyfer datganoli yng Nghymru wedi dod o’r cenedlaetholwyr, ac mae’r broses wedi’i arafu fel canlyniad. Faint o amser sy wedi ei wastraffu dadlau nad ydyn ni “casau y Saeson” neu “casau Lloegr”? A fydd rhaid i’r grwp ’ma amddiffyn eu hunain rhag gyhuddiadau o fod yn “wrth-Lundain” neu “wrth-Brymi”? Dw i’n amau’n fawr.

Os oes mantais i fyw yn Lloegr, dyna un ohonyn nhw: mae’n bosib bod yn ddatganolwr heb fod yn genedlaetholwr. Byddwn i’n dadlau bod cenedlaetholdeb Cymru â mwy yng ngyffredin â “chenedlaetholdeb” y bobl yma (y “Northwesterners”) na chyda “cenedlaetholwyr Lloegr”, sydd, yn rhy aml, dim byd mwy na Toris sy ddim yn lico Cymru a’r Alban </jôc>

Mae’r bobl ’ma â syniadau gwych am ddeunyddau ymgyrchu, hefyd. Campwaith oedd ennill cefnogaeth cynllunydd byd-enwog fel Peter Saville (y boi wnaeth cloriau New Order a Joy Division). A chan bod nhw’n dechrau o’r dechrau, mewn byd sy’n tra wahanol i’r un a welodd dechreuad mudiadau tebyg yng Nghymru, mae eu defnyddio o offer ymgyrchu cyfoesol yn edrych yn fwy sicr – dw i ddim yn siwr os ydw i’n bod yn glir yma; beth sy ’da fi yw’r ffaith eu bod nhw annog pobl i ddechrau gweflogiau i ledu’r gair am ddatganoli, tra bod ni yng Nghymru ddim yn gwybod beth yw gweflog (dyn ni ddim yn gallu cytuno pa gair y dylen ni ddefnyddio i’w disgrifio, heb sôn am gynnal mwy na hanner dwsin o’r blydi pethau rhwng y 500,000 ohonon ni sy’n medru’r iaith).

Ta beth, dw i’n meddwl bod hyn yn tuedd i’w chefnogi yn ein cymdogion, felly dw i’n falch i ymddangos y logo isod.


ypdêt (3/5/04) this entry has been translated by marnanel – diolch yn fawr i ti!

Prawf yw hwn

Dw i wedi newid sawl peth yng nghynllun y blog, ond dw i’n cael trafferth ail-adeiladu’r safle, felly dw i ddim yn gwybod os ydy’r newidiadau yn gweithio neu beidio. Gawn ni weld gyda hyn.