Dechrau meddwl bydd rhaid i mi ffeindio rhywun arall i redeg maes-e cyn bo hir. Mae’n fwy o ben tost na phleser y dyddiau ’ma. Dw i’n treulio fy holl amser yna yn clirio i fyny ar ôl plant, a thaflir beth bynnag dw i’n trial i wella’r sefyllfa yn ôl yn fy wyneb. Dw i’n cael fy nghyhuddio o fod yn ddiflas yna trwy’r amser, ac dw i’n dechrau teimlo bod pwynt ’da nhw, ond dw i mewn sefyllfa Catch 22. Dw i’n teimlo yn gyfrifol am y lle, ond yn dechrau casau’r lle. Mae lot o bethau da yn digwydd yno, ond erbyn i mi bennu sorto mas y problemau sy’n cael eu hachosi gan yr aelodau ifancach does dim awydd ’da fi gyfrannu yn unrhywun o’r sgyrsiau diddorol.
Mae’r haf yn dod, dw i mewn siorts am y tro cynta eleni. Dyw e ddim yn gall i mi dreulio cymaint o oriau wneud rhywbeth dw i ddim yn mwynhau bellach.
Efallai mae’r unig ffordd i hybu twf fforymau cymraeg newydd tu allan i Maes-E fysa i gau’r safle am ychydig fisoedd. Yr ateb arall yw i greu mwy o gymeradolwyr/weinyddwyr a gadael nhw iw pethau. Rwyt ti wedi gwneud hyn i ryw raddau gyda’r grwp llywio, ond pur anaml mae Barbarella, Aran a Cardi Bach yn ymweld a’r Maes dyddiau hyn. Tydw i ddim yn gweld y broblem gyda’r plant bach yn gwella chwaith wrth i’r ysgol orffen. Os nad wyt ti’n mwynhau rhedeg y Maes does dim pwrpas i ti wneud. Mi wyt ti wedi rhoi mwy na dy siar o waith mewn i hybu defnydd y gymraeg ar y we, ac wedi llwyddo’n aruthrol.
Nic,
mae’n drist iawn gen i weld dy sylwadau uchod, ond rwy’n cytuno ’ thi am y rwtsh a’r nonsens sydd wedi ymddangos yn ddiweddar.
Yr unig beth calonogol alla’i ddweud yw bod y drafodaeth yma wedi codi o fewn maes-e hefyd ymysg llawer iawn o’r aelodau ‘aeddfed’, ac mae pethau’n dechrau gwella!
Os yw’r plant methu bihafio, yna cau cyfrifon yw’r peth i’w wneud – tydi o ddim fel ein bod am golli eu sylwadau ffraeth a chwaethus, nacdi!!
Dy benderfyniad di ydi o yn y pen draw gan mai dy wefan DI ydi maes-e – yr unig bethh alaf i ddweud y DIOLCH YN FAWR am ei sefydlu yn y lle cyntaf.
Eiliaf y sylwadau uchod, ag eithrio yr un am fod Babs, Cardi a fi ddim yn ymweld ’’r wefan yn aml. Byddaf yn pigo i mewn pedair, pum waith y dydd gan amlaf, mae Babs o gwmpas yn aml iawn hefyd (ac wedi bod yn frysur iawn wrth sgwennu gwelliannau cÙd i’r Maes), ac mae Cardi yn dod i mewn mor aml ag erioed hyd y gwn i, er ei fod yn eithaf prysur y tu allan i’r RhithFro ar y funud.
fydda i ddim yn postio cymaint ag o’n i ers talwm oherwydd dau beth – mae ‘na awyrgylch bach yn ymosodol o fewn Materion Cymru ar y funud gyda’r holl ffraeo yng Ngheredigion, a fan’na fel arfer ‘swn i’n cyfrannu mwyaf – cyfrannu rwan oherwydd fy mod i’n teimlo bod rhaid, nid am ei fod yn bleser…
ac yn ail, rhywbeth tebyg ar raddfa llawer llai i beth mae Nic wedi mynegi – wedi hyn a hyn o amser ateb negeseuon preifat sydd gan amlaf ddim yn dy ddiolch am benderfyniad gweinyddu yn rhywle, mae’r awch i gyfrannu’n cael ei glastwreiddio…
yndw, dwi’n teimlo’n euog wedi darllen neges Nic, i feddwl bod ‘na fwy o bethe y medran ni gwneud i helpu efallai, ond dw i’n eithaf hyderus hefyd bod Nic yn gwybod bod modd pasio pethe ymlaen os ydy am wneud hynny – hyd yn oed gyda gweinyddwyr eraill ar gael, yn aml iawn bydd pobl yn mynd am Nic oherwydd fo ydy tad y wefan – anodd cwtogi ar hynna…
Trist yw gweld bod Nic yn anhapus, ond fedrai weld pam!
Syniad sydd gen i yw i adael i Nic gael gwyliau bach oddi ar y maes. Rhyw bythefnos bach tawel (oes modd cau ei gyfrif am ychydig i arbed y negeseuon preifat?) a gadael i’r grwp lliwio redeg y maes. Dwi’n hyderus bydd Nic yn dychwelyd wedi gwyliau bach – wn yw ei blentyn!
Sori Aran am ddweud nad wyt ti yn dod i’r Maes yn aml. Heb eich gweld yn cyfrannu lot yn ddiweddar oeddwn i- sori am gymeryd hyn i feddwl nad oeddech chi’n cadw golwg ar y lle. (Oes posib rhoi gwenoglun ‘wps’ mewn fanyn? Bydd rhaid i chi ddefnyddio’ch dychymyg.)
Dim problem boi…;-) Dw i’n gweld bod rhai wedi bod yn slacio ar Straeon.com, gyda llaw, a dau gyfraniad newydd wedi bod yn aros i gael eu cymeradwyo…;-)
Syndod i mi! Mi wnesi edrych neithiwr i weld os oedd cyfraniad newydd… Ers pryd yr oeddynt wedi bod yn aros?! Falle bo fi’n edrych yn y lle anghywir. (Gwenoglun arall wps, os yn bosib). (@_@;)
Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac am y syniadau sy wedi ymddangos ar y maes. Fel dw i wedi fan’na, ar hyn o bryd fy mlaenoriaeth yw treulio llai o amser ar lein bob dydd. Os oes problemau dw i ddim yn gallu datrys mewn awr, bydd rhaid iddyn nhw aros tan y fory.
Ac dw i ar 55 munud nawr gyda sawl peth i’w neud, felly….
Mae dy hunanreolaeth yn siampl i ni gyd…;-)
Fel un a fu’n ymweld yn achlysurol ’ maes-e, mae’n eitha amlwg i mi bod rhai o’r seiatau’n denu llawer mwy o gyfraniadau di-sylwedd a di-sens nac eraill. Pe byddai llai o seiatau, a rheini’n ymwneud ’ phynciau swmpus, ni fyddai maes-e mor atyniadol i’r rheini sy’n camddefnyddio’r wefan efallai. A byddai llai o waith i’w wneud i’w gweinyddu hefyd. Dim ond awgrym…