The Necessary Group – criw sy’n ymgyrchu dros ddatganoli yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae ganddyn nhw faner yn barod, chwarae teg.
Byddai’n hawdd iawn i fod yn sinicaidd neu’n gas am hyn (neu i ofyn allen ni gael ein dŵr yn ôl, plîs?), ond wedi meddwl, dw i’n credu bod hyn yn syniad wych. Nid yn unig i bobl y rhanbarth ei hun, ond am y sgil-effeithiau gall hyn cael arnon ni yng Nghymru fach. Gyda rhai eithriadau anrhydeddus, mae ysgogiad ar gyfer datganoli yng Nghymru wedi dod o’r cenedlaetholwyr, ac mae’r broses wedi’i arafu fel canlyniad. Faint o amser sy wedi ei wastraffu dadlau nad ydyn ni “casau y Saeson” neu “casau Lloegr”? A fydd rhaid i’r grwp ’ma amddiffyn eu hunain rhag gyhuddiadau o fod yn “wrth-Lundain” neu “wrth-Brymi”? Dw i’n amau’n fawr.
Os oes mantais i fyw yn Lloegr, dyna un ohonyn nhw: mae’n bosib bod yn ddatganolwr heb fod yn genedlaetholwr. Byddwn i’n dadlau bod cenedlaetholdeb Cymru â mwy yng ngyffredin â “chenedlaetholdeb” y bobl yma (y “Northwesterners”) na chyda “cenedlaetholwyr Lloegr”, sydd, yn rhy aml, dim byd mwy na Toris sy ddim yn lico Cymru a’r Alban </jôc>
Mae’r bobl ’ma â syniadau gwych am ddeunyddau ymgyrchu, hefyd. Campwaith oedd ennill cefnogaeth cynllunydd byd-enwog fel Peter Saville (y boi wnaeth cloriau New Order a Joy Division). A chan bod nhw’n dechrau o’r dechrau, mewn byd sy’n tra wahanol i’r un a welodd dechreuad mudiadau tebyg yng Nghymru, mae eu defnyddio o offer ymgyrchu cyfoesol yn edrych yn fwy sicr – dw i ddim yn siwr os ydw i’n bod yn glir yma; beth sy ’da fi yw’r ffaith eu bod nhw annog pobl i ddechrau gweflogiau i ledu’r gair am ddatganoli, tra bod ni yng Nghymru ddim yn gwybod beth yw gweflog (dyn ni ddim yn gallu cytuno pa gair y dylen ni ddefnyddio i’w disgrifio, heb sôn am gynnal mwy na hanner dwsin o’r blydi pethau rhwng y 500,000 ohonon ni sy’n medru’r iaith).
Ta beth, dw i’n meddwl bod hyn yn tuedd i’w chefnogi yn ein cymdogion, felly dw i’n falch i ymddangos y logo isod.
ypdêt (3/5/04) this entry has been translated by marnanel – diolch yn fawr i ti!
Pingback: marnanel