Monthly Archives: Mai 2004
Ossessione
Dal yma
Dechrau meddwl bydd rhaid i mi ffeindio rhywun arall i redeg maes-e cyn bo hir. Mae’n fwy o ben tost na phleser y dyddiau ’ma. Dw i’n treulio fy holl amser yna yn clirio i fyny ar ôl plant, a thaflir beth bynnag dw i’n trial i wella’r sefyllfa yn ôl yn fy wyneb. Dw i’n cael fy nghyhuddio o fod yn ddiflas yna trwy’r amser, ac dw i’n dechrau teimlo bod pwynt ’da nhw, ond dw i mewn sefyllfa Catch 22. Dw i’n teimlo yn gyfrifol am y lle, ond yn dechrau casau’r lle. Mae lot o bethau da yn digwydd yno, ond erbyn i mi bennu sorto mas y problemau sy’n cael eu hachosi gan yr aelodau ifancach does dim awydd ’da fi gyfrannu yn unrhywun o’r sgyrsiau diddorol.
Mae’r haf yn dod, dw i mewn siorts am y tro cynta eleni. Dyw e ddim yn gall i mi dreulio cymaint o oriau wneud rhywbeth dw i ddim yn mwynhau bellach.
Red River
Red River (Howard Hawks, 1948). John Wayne eto, ac yn gas iawn, eto. Do’n i ddim wedi sylweddoli bod Tom Cruise yn deadringer i’r Montgomery Clift ifanc. Braidd yn sbwci.
Revengers Tragedy
Revengers Tragedy (Alex Cox, 2002). Siomedig iawn, do’n i ddim yn gallu bennu fe. Mae’n edrych fel Brookside mewn gwisg ffansi.
Un coeur en hiver
Searchers, The
Trouble Every Day
Full Metal Jacket
Full Metal Jacket (Stanley Kubrick, 1987). Cynnig arbennig yn Choices, 3 am bris 2.
Ivan’s Childhood
Ffasgiaeth Seisnig, yn Gymraeg
BNP i wneud Darllediad Gwleidyddol yn Gymraeg:
THE British National Party has unveiled its new tactic to win the race-hate vote in Wales – party political broadcasts in Welsh.
The far right party’s leader Nick Griffin, who lives in Powys, will star in the English version of the video, but his 17-year-old daughter will front the Welsh language rant on deporting and repatriating non-whites from the UK.
Saturday Night and Sunday Morning
Cael brêc bach
Dw i wedi treulio llawer gormod o amser ar lein yn diweddar, felly dw i am gymryd brêc bach. Bydda i’n sieco fy ebost bob dydd fel arfer, ond fydd dim lot yn digwydd yma am sbel.
Throne of Blood
Eternal Sunshine ..
Eternal Sunshine of the Spotless Mind (Michel Gondry, 2004). Cei di gredu’r heip ar hyn.
Pam?
Hwrê! Cân newydd gan Allen Riley, sy’n nawr cynnwys tudalen ar ei “wefan” my welsh admirers.
Geriadur ar Brezhoneg
Cerddoriaeth o’r Pinc Mawr a thu hwnt
Gwefan o Norwy am The Band, sy’n cynnwys cannoedd o ffeiliau sain. Mae llawer iawn ohonyn nhw yn RealAudio a WAV, a dddim werth boddran gyda nhw, ond mae sawl gem o drac ar MP3, o bootlegs gan amlaf, os wyt ti’n ymchwilio amdanyn nhw. Sawl trac o’r boot gyda Dylan Paint the Daytime Black. Llawer o stwff diddorol ag aelodau o’r Band fel gwesteion (paid â cholli’r ddau drac o On The Beach, os dwyt ti ddim wedi clywed y clasur hwn gan Neil Young).
Gee Euros Bach
Forthright’s Phrontistery
Forthright’s Phrontistery, rhestrau o eiriau Saesneg o bob math – rhywbeth falle bydd Cornelious Biggins yn ei fwynhau.