Croeso i Weriniaeth Wiggington

Stori bach neis o’r Shropshire Star am fy hen fro.

Ian Pierce, accused of drink-driving, claims Oswestry Magistrates Court has no jurisdiction in his case because the alleged offence occurred in Weston Rhyn, a village he says is part of the ancient Lordship of Wiggington.

He said the ancient Marcher Lords had absolute authority to make laws in their areas and that the Lordship of Wiggington had never been included in the Active Union [sic] of 1535 [sic, eto] that would take it into the jurisdiction of England.

Subsequent laws including the Welsh Language Act of 1993 and the Local Government Act of 1972 also meant that this area was not included under normal English law.

Mr Pierce maintains, although the law painstaking lists scores of Lordships and annexes them to in either Welsh or English counties, nowhere within the Act of Union is mentioned the Lordship of Wiggington.

The case continues.

Prin iawn mae cydymdeimlad ’da fi gyda unrhywun sy’n yfed a gyrru (ie, dw i’n gwybod, “innocent until” – wyt ti wedi bod yn Weston Rhyn?) ond mae rhaid edmygu ceilliau’r boi.

Ym. Chi’n gwybod beth sy ’da fi.

Y rhan dw i’n ei leicio yw “the case continues”. Dyna’r peth mwya doniol dw i wedi gweld ar y we am wythnosau.

Posted in Heb gategori | Tagged

Tape

Tape (Richard Linklater, 2001). Addasiad o ddrama Stephen Belber. Ethan Hawke yw Vince, deliwr cyffyriau 28 oed, sy’n gweithio fel dyn tân rhan amser, dim ond achos ei fod e’n gwerthu dôp i bennaeth yr adran. Robert Sean Leonard yw Jon, ffrind gorau Vince o’u dyddiau ysgol uwchradd, ac yn gyfarwyddwr ffilm annibynnol. Mae’r ddau wedi dod i ddinas Lansing, Michigan, ar gyfer agoriad ffilm Jon, ond mae rheswm cudd ’da Vince am wneud y daith o Galiffornia. Helo, a chroeso Amy, sef Uma Thurman, heb gleddyf samurai ond yr un mor finiog. Amy oedd cariad cyntaf Vince, ond fe gysgodd hi â Jon jyst cyn iddyn nhw adael yr ysgol. Mae Vince yn credu y wnaeth Jon ei threisio.

Ac mae Amy yn byw yn Lansing, Michigan.

Nid Grosse Point Blank yw hon.

Fel fyddet ti’n disgwyl o Linklater, mae hi’n ffilm llawn siarad, ond am unwaith mae’r cyfarwyddwr yn cynilo ei ffocws i ganolbwyntio ar berthynas(au) rhwng y tri chymeriad yn unig. Gan saethu yn ddigidol, gall Linklater ddod llawer agosach at ei actorion nag ydyn ni’n arfer gweld, sy’n dwbli’r effaith clostrophobig o aros mewn un ystafell ac mewn “amser go iawn”. Mae hon yn ffilm sy ddim yn hawdd ei gwylio, ond amhosib i beidio gwylio chwaith. Nid ffilm dw i am weld eto mewn hast, ond un werth ei rhentu. Beth am wahodd dy hen gariad draw i wylio gyda ti?

Posted in Heb gategori | Tagged

Karen Black

Newydd sôn amdani yn y cofnod ar y ffilm Easy Riders, Raging Bulls, ond dyma fwy ar athrylith duwiol Karen Black. Peidiwch â cholli ei storiau, megis “How I got Five Easy Pieces”:

When I got to his office, Bob told me that he thought I was too intelligent for the part, and it worried him, to which I responded that the best art occurs when one chooses the behavior (in this case it would be low IQ behavior) rather than not being able to help how you seem to an audience. Which he already knew. I said, “Okay. I’ll simply stop thinking from the time to say action – to the time you say cut.”

ffilmiau erchyll Karen Black.

Do’n i ddim yn gwybod bod band o’r enw The Voluptuous Horror of Karen Black [DDIM YN SAFF I'R GWEITHLE, o bosib], ond mae’n wneud synnwyr perffaith nawr dw i’n meddwl amdano. Dyma mwy amdanyn nhwthau.

Cyfweliad neis â Karen Black, yr unig actores sy wedi ymddangos ar y llwyfan yn The Sound of Music a’r Vagina Monologues, siawns.

Mae hi wedi ysbydoli cynhyrchwyr ffilmiau hefyd: mae Karen Black Like Me yn “gay horror spoof” yn ôl y sôn.

Easy Riders, Raging Bulls

Easy Riders, Raging Bulls: How the Sex, Drugs and Rock ‘N’ Roll Generation Saved Hollywood (Kenneth Bowser, 2003). Ffilm ddogfennol, a fersiwn o’r llyfr o’r un enw. Mae’n sbel ers i mi ddarllen hwnna, ond mae’r ffilm yn diodde o un anfantais, sef nad oedd cymaint o bobl yn fodlon siarad â Bowser (am y ffilm) ag oedd wedi siarad â Biskind (am y llyfr), felly does dim cyfweliadau â Speilberg, Lucas, Coppola, na Scorcese, ond mae digon o hen “ffilmiau cartre” diddorol o’r rheiny i wneud i ti feddwl dy fod di wedi eu gweld.

Karen Black oedd seren y ffilm, i mi, ond oedd hi’n neis gweld Monte Hellman a Rudy Wurlitzer yn yr atodiadau.

Posted in Heb gategori | Tagged

Waking Life

[Unrhywun sy wedi dod yma o maes-e i gael ateb i'r cwestiwn "pa ffilm gwyliodd Nic y bore ma?" - cywilydd arnat ti!]

Waking Life (Richard Linklater, 2001). Diolch yn fawr i “Wile E. Coyote” am sôn am hyn yn y sylwadau i’r cofnod am weflog Wiley Wiggins – ac mae’n dangos pa mor dda yw wasanaeth Webflix mod i wedi gwylio hyn llai na 30 awr ar ôl iddo fe wneud hynny).

Ffilm wych os wyt ti â diddordeb mewn breuddwydion ac edrych ar ystyr bywyd bach yn fwy manwl nag arfer.

Gwe-ffan sy’n cynnwys yr holl sgript, mae’n debyg.

Cyfweliad â Linklater lle mae’n sôn am yr animeiddio yn y ffilm.

Cyfweliad arall, yn yr Onion.

Adolygiad da gan Roger Ebert.

Un o’r cymeriadau yn y ffilm yw Timothy “Speed” Levitch. Dyma gyfweliad â fe.

Trafodaeth diddorol yma.

Mae’n bosib bydda i’n ychwanegu mwy o ddolenni yn y man.

Posted in Heb gategori | Tagged

Identity

Identity (James Mangold, 2003). Iawn. Gwell na Gothika, ta beth. Fel DVD £2 o’r garej o’n i’n eitha fodlon – byddwn i wedi bod yn siomedig swn i wedi talu £5 i’w gweld yn y sinema, achos bod John Cusack ynddi.

Oes ’na ffilm gyda cymeriad gyda salwch meddwl sy ddim yn droseddwr, neu yn athrylith, dim ond person normal sydd ’ phroblem mewn un agwedd o’u bywyd?

Posted in Heb gategori | Tagged

Touching the Void

Touching the Void (Kevin Macdonald, 2003). Gwerth ei gweld, ond wnes i ddim mwynhau yn fawr iawn. Un broblem, i fi, oedd y ffaith nad oedd Joe Simpson yn hawdd i gydymdeimlo gyda fe – bron y geiriau cyntaf mae e’n dweud yn y ffilm yw rhywbeth fel “we didn’t care what anyone else thought”, sy’n agwedd eitha cyffredin ymysg y twpsinod hunan-fodlon sy’n wneud pethau peryglus a di-angen fel dringo mynyddoedd does neb arall wedi’u dringo.

Posted in Heb gategori | Tagged

Kinja

Mae Kinja yn syniad da. Yn syml iawn, ti’n creu rhestr o weflogiau ac mae Kinja yn cadw trac ohonyn nhw. Dw i wedi dechrau rhestr yma. Un broblem yw bod cofnodion y blog ti’n ychwanegu yn ola yn ymddangos uwchben popeth arall, yn lle cael eu trefnu ymysg pethau eraill.

Ddim yn siwr pa mor ddefnyddiol y bydd hyn, ond wna i chwarae gyda fe.