I can’t drown, I’m from South Africa

Mae Spalding Gray wedi marw. Meistr y monolog, cyfarwydd o’r hen ysgol, miniaturist godidog. Fel mae traethawd Davis Sweet yn ein hatgoffa, doedd dim llawer o bobl a oedd yn gallu wneud ymadrodd a fyddai’n cael gafael yn y dychymyg:

(Of Pol Pot’s revolution in Swimming to Cambodia, he says, “Children were torn apart like fresh bread,” and that line will be with you forever.)

Swimming to Cambodia oedd y ffilm gyntaf i mi weld y tro cyntaf es i America.

Posted in Heb gategori | Tagged

Gwyliau yn eich iaith eich hunan

Gwyliau Cymraeg – syniad gwych gan Fenter Iaith Conwy. Gobeithio y bydd y Mentrau eraill yn codi hyn a chawn ni rhwydwaith ar draws Cymru. Dw i am archebu 50 o’o taflenni i ddosbarthu i’r dysgwyr yn nosbarthiadau Aberteifi.

Byddai’n neis cael bach mwy o wybodaeth am y llety ar y wefan, a chyfeiriadau ebost os yn bosib, ond mae hyn yn ddatblygiad gwych.

Ai Menter Conwy a ddaeth lan â’r syniad am roi CDau Cymraeg i bob caffi a thafarn â jiwc bocs yn eu hardal? Syniad gwych arall.

Peiriant Bybls

bubblegum machine – does dim esgus i mi beidio clywed am hyn o’r blaen. Gwerth 70 wythnos o MP3s gan fandiau “bubblegum”. The Knack! The Runaways! The Sonics! Ac yn y blaen!

Dim ond wythnos 10 dw i wedi cyrraedd (Merle Haggard a Jonathon Richman!) ond dw i’n gweld yn barod bydd rhaid i mi brynu mwy o CDRs yr wythnos ’ma.

Stray Dog

Nora inu (Akira Kurosawa, 1949). Y ffilm gyntaf dw i wedi gweld gan Kurosawa sy ddim yn stori samurai. Cymerai ToshirÙ Mifune a Takashi Shimura rolau fel heddweision ifanc ac henach, fformiwla sy wedi ei gopio cannoedd o weithiau dros y flynyddoedd — meddwl ydw i am Colors, Se7en, a’r ffilmiau Lethal Weapon, yn enwedig yr un ola, sy’n copio’r olygfa lle mae cop ifanc yn mynd i dy yr un henach a chwrdd â’i deulu.

Ta waeth am hynny, ffilm arddechog.

Dyma detholiad o lyfr Kurosawa lle mae’n trafod y ffilm.

Posted in Heb gategori | Tagged

Mwy o flogiau ffilmiau

O GreenCine eto, cwpl mwy o blogs ffilmie cyn i mi fynd i’r gwaith: A Girl and a Gun a Film Brain.

Dw i’n cyrraedd y pwynt lle mae na gymaint o stwff da i ddarllen am ffilmiau (a phopeth arall sydd angen ei wneud), does dim digon o amser i wylio’r ffilmiau sy gyda fi. Mae Stray Dog ’da fi ers tridiau,heb ei gweld, ac dw i dal heb wylio Sonatine, DVD ces i i fy mhen-blwydd. Wna i drial dal i fyny yr wythnos hon.

Wyddor Deleuze

L’Abecedaire de Gilles Deleuze – yn Saesneg. Darllenais i peth o lyfr ambyti Deleuze yn Llyfrgell Caerdydd ddoe. Edrych yn ddiddorol.

Ar hyn o bryd, dw i’n darllen erthygl hir gan Peter Yoonsuk Paik – nid yr un ’na, un ar Tarkovsky a Deleuze – a ffeindiais i drwy cyfrif fy mhartner ar lyfrgell ar lein y Brifysgol Agored. Mae’n llawn o syniadau sy’n hollol newydd i fi, sy’n wastad yn beth braf.

Posted in Heb gategori | Tagged

Dal Yma Nawr o hyd

Hafanddalen Dal Yma Nawr. Mae’r ffilm wych ’ma ar daith trwy Gymru ar hyn o bryd, a dylet ti wneud beth bynnag sy angen i ti wneud er mwyn ei gweld. Syniad da i wneud papurau wal gyda dyddiadau y daith arnynt, ond beth am wneud rhai gyda’r cerddi hefyd? (A fersiwn Mac o’r arbedwr sgrîn, os gwelwch chi’n dda.)

Fel mae Nwdls yn dweud, mae angen DVD o hyn cyn gynted â phosib, ond yn y cyfamser oes ’na gynllun i ryddhau CD o’r gerddoriaeth?

(Ydy’r clipiau sain yn gweithio ar Windows? Dw i’n cael dim byd ar y Macafal.)

Croeso i’r Iseldiroedd (os dych chi’n groenwyn)

Where’s the incentive to integrate? – nid jyst ym Mhrydain Fawr mae llywodraethau yn dilyn polisi o “integreiddiwch, yntau beidiwch dod ’ma”, mae’n debyg.

But interestingly, people from the US, Canada, Australia, New Zealand and Japan are exempted from having to complete an integration course in their home country because their national governments have signed treaties with Dutch authorities.

Ydy hyn yn wir ym Mhrydain hefyd?

Yr hawl i siarad Gwyddeleg yn Iwerddon

Sparks fly over Irish in courts – erthygl yn y Belfast Telegraph am alwadau i hawliau ieithyddol yn llysoedd Gogledd Iwerddon. Datblygiad diddorol. Does gan yr Unionists llawer o sawl i’w dadlau, nag oes? Dw i’n synnu nad ydy hyn o ddadl wedi codi ei phen cyn nawr, yn enwedig ar ôl i ni yng Nghymru enill yr hawl i ddefnyddio ein hiaith ein hunain yn ein llysoedd ein hunain.