Heddi, bydda i’n dwgi fy nolenni oddi wrth Prentiss Riddle, ieithydd-flogwr o fri.
Geirfa yr iaith Elorathian (Fampireg, i ti a fi).
Arbed yr iaith Darma – erthygl sy’n dweud ei bod hi’n sôn am ymdrechion i adfer yr iaith fychan yma, ond sydd, mewn gwirionedd, yn sôn am ymdrechion i dynnu llun o’r cyn iddi hi farw am byth, fel mae Prentiss yn dweud.
Sut mae Ikea yn enwi eu celfi. (Ac oddi wrth Language Hat: gêm enwau Ikea. (Dw i erioed wedi bod i Ikea. Ai fi yw’r person ola yn y byd Gorllewinol sy’n gallu dweud hyn?)
(Un i Macsen a Nwdls): Sut i regi yn Elfeg.
Ymchwiliadur i Ieithyddwyr. Angen cofrestru, felly dw i ddim wedi’i drial fe eto.