Guardian ar y bêl, eto

Mewn erthygl ddoe, dwedwyd gan y Guardian:

We also have our linguistic differences. In Wales, many of the people speak Welsh in preference to English, and, of these, some 30,000- 40,000 speak only Welsh.

Ar beth maen nhw’n edrych, Cyfrifiad 1901?

5 thoughts on “Guardian ar y bêl, eto

  1. Gret! Efallai os fysai mwy o hacks yn y byd newyddiaduiraeth mi fysai gan Cymru ei deddf iaith erbyn hyn. Mi fysai’n dipyn o fraw i’r llywodaraeth ddarganfod, wth ddarllen ei papura newydd yn y bore, bod 97% o bobl Cymru yn siarad cymraeg, a’r lleiafrif o 27% yr elfeg.

  2. Rhyw 500,000 o siaradwyr Cymrag sydd – a beth yw 30,000-40,000? Sha 7% nag yn nhw’n wilia Saesneg? Cofia fod wnna’n cynnws plant ifainc ac ein hen frotyr a wiorydd yn yr hwn sy’n weddill o’r Fro Gymrag. Bydd gynnyn nhw rywfaint o Saesneg, falla yn ei darllen yn rhwydd, ond nag yn nhw ddim yn ei wilia’n hyderus nac yn rhugl. A phwy warth sydd yn hynny o beth? Rwy inna’n cial iffach o drafferth acha diwrnod gwael.

  3. ” In 1993 parliament declared Welsh a “language of equal status” with English (though not an “official language”). ”

    Sioc oedd ffeindio allan nad yw Cymraeg yn ‘iaith swyddogol’ yng Nghymru, ac hefyd yn sioc taw cyn ddiweddar a 1993 oedd y Gymraeg yn cael ei adnabod yn swyddogol fel iaith gyda statws hafal.

    Dwi’n credu fod be wedodd y newyddiadurwr yn itha teg, ac yn syndod wrth feddwl i’r Guardian y mae’n gweithio.

  4. Dyw Saesneg ddim yn “iaith swyddogol” chwaith. Mae Prydain yn wlad wedi ei ffurfio o draddodiad a diwylliant. Does dim cyfansoddiad sy’n rhoi statws cyfreithiol ‘swyddogol’ i unrhyw iaith. Mae deddf 1993 yn cynnig cyfartaledd cyfreithiol i’r Gymraeg ym Mhrydain ar gyfer pwrpasau penodol yn unig. (e.e. deddfwriaeth, addysg, gwasanaethau cyhoeddus, llysoedd)