Mae Cell Penllyn Cymdeithas yr Iaith yn rhedeg ymgyrch i ddarbwyllo’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) i ddefnyddio’r hen iaith ym mhob rhan o’u gwaith. Mae’r Asiantaeth yn ddigon barod i dweud y dweud ond maent bach yn sigledig amser mae’n dod i neud y neud. Mae hynny yn golygu er taw’r agwedd cyhoeddus yw “mae’r ddwy iaith yn gyfartel”, yn ymarferol does dim yr un fath o adnoddau ar gael yn y Gymraeg i helpu darpar gyrrwyr, a dydy siaradwyr Cymraeg ddim yn sicr o gael arholwr Cymraeg ei iaith yn y prawf ei hunan.
Mae’r Cell yn mynd ati i gasglu llofnodion ar ddeiseb, ac i lythyru’r Asiantaeth. Criw bach ydyn nhw, ac mae angen cymaint o help ag sy’n bosib arnyn nhw i fynd â’r maen i’r wal. Beth am helpu gan sgwennu at Asiantaeth Safonau Gyrru, a’ch cynrychiolwyr yn Ein Llywodraeth Gyntaf.
Os wyt ti wedi sefyll dy brawf gyrru yn diweddar, ac wedi cael profiad gwael ar ran yr iaith a ddefnyddiwyd, beth am rannu’r stori ar maes-e.com? Os dydy pobl ddim yn codi stŵr am hyn fydd dim byd yn newid.