MusÌme si pom·hat

Divided we fall Jan Hrebejk, 2000. Ffilm o Weriniaeth y Tsiec sy’n eitha da, yn sicr werth cael mas ar DVD.

Stori teulu Tsiec sy’n cuddio Iddew ifanc yn ystod yr Ail Ryfel Bydd, er gwaethaf y perygl mawr y bydd y Natsiaid yn ei ddarganfod. Wedi’i actio yn dda iawn, ond falle gormod o gyd-ddigwyddiadau yn y stori iddi hi fod yn gredadwy dros ben. Ro’n i’n hoffi’r effaith o arafu’r ffilm bob tro oedd y cymeriadau mewn perygl, ond erbyn y diwedd, gyda’r perygl yn cynyddu bob munud, oedd e’n dechrau bod yn ormodol, a fyddai’n waeth byth ar y sgrîn fawr, dw i’n amau.

Posted in Heb gategori | Tagged

Gaeleg yr Alban

Adroddiad Cyngres Ewrop: ymateb o’r Alban:

CÛig bliadhna as dÈidh do phýrlamaid na h-Alba a bhi air a stÈidheachadh chan eil e ach bochd gu bheil sinn a’ faighinn dealbh nas soillear air staid na Gýidhlig as an Roinn-EÚrpa seach an luchd-riaghlaidh againn fhÏn.

Five years after the establishment of the new Scottish parliament, it is a depressing fact that the clearest assessment of Gaelic provision comes from Europe rather than from our own rulers.

Ffantom Ffeils

MP3au i’w dadlwytho gan y pobl sy’n wneud y gwaith ail-ficsio ar Phantom Phorce y Super Furry Animals. Bydd trac o hwnna ar gael wythnos nesa.

Olwynion sgrolio? Pah!

Sidetrack – teclyn bach defnyddiol i’r rhai ohonon ni sy’n defnyddio OSX ar benliniadur heb lygoden go iawn. Mae’r rhaglen hon yn cystomeiddio tracpad dy iLyfr i wneud pob math o bethau defnyddiol, fel sgrolio i fyny ac i lawr a chlirio’r ffenestri o’r sgrîn (yn OSX 10.3). Handi iawn.

Gyrrwch yn y Gymraeg!

gyrrwchyngymraeg.jpg Mae Cell Penllyn Cymdeithas yr Iaith yn rhedeg ymgyrch i ddarbwyllo’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) i ddefnyddio’r hen iaith ym mhob rhan o’u gwaith. Mae’r Asiantaeth yn ddigon barod i dweud y dweud ond maent bach yn sigledig amser mae’n dod i neud y neud. Mae hynny yn golygu er taw’r agwedd cyhoeddus yw “mae’r ddwy iaith yn gyfartel”, yn ymarferol does dim yr un fath o adnoddau ar gael yn y Gymraeg i helpu darpar gyrrwyr, a dydy siaradwyr Cymraeg ddim yn sicr o gael arholwr Cymraeg ei iaith yn y prawf ei hunan.

deiseb_gwasanaeth_cyflawn_cymraeg_ir_rhai_syn_dysgu_gyrru.jpgMae’r Cell yn mynd ati i gasglu llofnodion ar ddeiseb, ac i lythyru’r Asiantaeth. Criw bach ydyn nhw, ac mae angen cymaint o help ag sy’n bosib arnyn nhw i fynd â’r maen i’r wal. Beth am helpu gan sgwennu at Asiantaeth Safonau Gyrru, a’ch cynrychiolwyr yn Ein Llywodraeth Gyntaf.

Os wyt ti wedi sefyll dy brawf gyrru yn diweddar, ac wedi cael profiad gwael ar ran yr iaith a ddefnyddiwyd, beth am rannu’r stori ar maes-e.com? Os dydy pobl ddim yn codi stŵr am hyn fydd dim byd yn newid.

Pwy yw’r Lladron?

English inside…

Y LladronChi gyd â chyfrifau unarddeg.com, ond ydych? Dych chi wedi lawrlwythio al bym Y Lladran eto? (Angen cyfrif i’r linc ’na weithio.) Llawn CD o MP3au sy’n ail-ficsio pawb o Edward H Dafis i MC Saizmundo. Rhai o’r uchafbwyntiau yw’r fersiwn techno o Yma o Hyd, Y Tystion yn erbyn Frank Sinatra ar Tystion’s Way, stori Huw a Nest yn Learn Welsh the Real Way… Beth ydw i’n wneud? Mae’r holl beth yn wych. Rhaid bod rhywbeth sy’n gallu wneud i fi joio gwrando ar Eminem (gyda Ffa Coffi Pawb) a’r Eagles (a’r Tystion) yn gampwaith godidog.
Continue reading

Bar offer Google, yn Gymraeg

Dw i ddim yn siwr os ydy hyn yn newyddion i chi (a dweud y gwir, dw ddim yn hollol siwr ei fod e’n newyddion i fi, ond dw i’n rhy ddiog i chwilio trwy’r archifau i weld os ydw i wedi blogo hyn o’r blaen), ond mae bar offer Google ar gael yn Gymraeg. Os wyt ti’n defnyddio Windows. Ac os wyt ti’n defnyddio Internet Explorer. Ac os wyt ti’n lico clytero i fyny dy borwr gyda pob teclyn sydd ar gael.

Hedd!