Spoken Here, Mark Abley

Sôn am bapurau y Sais, dyma adolygiad yn y Telegraph o’r llyfr Spoken Here gan Mark Abley.

How can a minority language compete against the invasion of the Coca-Cola culture and the universal world of pop, available at the turn of a switch? Where such a language does survive, it’s often peppered with wisecracking scraps of English.

Adolygiadau eraill yn y Guardian a’r Observer.

Plant Yupik a’r profion Saesneg

Unwaith eto, mae polisiau ffederal yn America yn effeithio ar ymdrychion i gadw ieithoedd brodorol yn fyw ac yn iach, yn ôl stori hon o Alaska:

Some western Alaska schools that for decades have taught and helped preserve the Native Yupik language are in a quandary over meeting new federal testing requirements under the No Child Left Behind Act.

In the Lower Kuskokwim School District, third grade children taught almost exclusively in the Yupik language may be required to pass federal tests written in English.

Fy llygaid!

Dw i’n siwr bydd pawb yn siomedig i weld mod i wedi cael gwared o’r patrwm hyfryd William Morrisaidd sy wedi bod ’ma ers cyn y Dolig, ond dw i wedi dod ar draws cannoed a channoedd o gefndiroedd am ddim.

Bwhahaha!

Diolch i taz am y cefndiroedd, ac am ail-wampio cynllun plep, sy’n edrych yn smart iawn nawr.

Protest yn Aberystwyth

Mae myfyrwyr Aberystwyth wedi bod ati unwaith eto.

More than 100 members of Welsh language student union – UMCA – staged a sit down protest across the main entrance to University of Wales Aberystwyth, disrupting rush-hour traffic.

arwyddion sy'n dangos rhai o'r esgusodion sy wedi'u defnyddio gan y coleg

Yn fersiwn Cymraeg y stori BBC mae dyfyniad gan Jane Davidson sy’n dangos pa mor anghenrheidiol yw darparu addysg uwch ehangach trwy’r Gymraeg:

Eisoes mae Jane Davidson, Gweinidog Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi dweud fod Coleg Ffederal Cymraeg yn darged tymor-hir ac na fyddai un cyn 2010.

Hyd yn oed pe bai coleg ffederal yn flaenoriaeth, doedd dim digon o staff arbenigol ar gael, meddai.

(Fi sy biau’r duo.) Yn union, Jane! Ond sut mae creu’r staff arbenigol hynny heb estyn cyfundrefn addysg Gymraeg o’r Ysgol Feithrin reit trwy’r Brifysgol Cymru, a chefnu ar y rhai yn eich plaid eich hunan sy’n obsessed â myth “tocyn oes ar y trên grêfi” bondigrwybwyll.

Y ffaith bod angen i fyfyrwyr Cymru brotestio er mwyn ennill hawl i addysg yn eu hiaith eu hunain yn warth ar ein cenedl. Ych chi’n gallu dychmygu clywed stori o Wlad yr Iâ sy’n dweud bod myfyrwyr Reykjavik wedi gorfod bloco traffig achos eu bod am gael addysg yn Islandeg?

Sgersli bilîf!

Oriel lluniau o’r BBC.

Mwy o wybodaeth oddi ar wefan yr UMCA. (Fframiau! Ych y fi! Dewch ymlaen bois, 2004 yw hon. ;-)

Stori Dail y Post.

Weather Underground

The Weather Underground (Sam Green a Bill Siegel, 2002). Ffilm ddogfennol am y Weathermen, grwp chwyldroadol a dyfodd (a ddinistriodd, byddai rhai yn dadlau) allan o’r mudiad myfyrwyr Americanaidd, yr SDS, yn hwyr yn y 1960au. Ar ôl i dri o’r grwp gael eu lladd gan eu bom eu hunain yn Efrog Newydd ym Mawrth 1970, aeth y gweddill danddaear tan diwedd y 70au, gan blannu sawl bom arall, ond heb ladd unrhywun.

Roedd y footage fideo o’r adeg yn ddiddorol tu hwnt, ac hwnna, yn fwy na dim, oedd y peth gorau am y ffilm. Fel mae erthygl hon yn Salon yn dweud, dim ond Mark Rudd a Brian Flanagan sydd ag unrhyw amheuaeth ynglyn â modd o weithredu y dewiswyd gan y grwp.

Werth ei gweld, a bydd yn wneud dvd penigamp, yn enwedig os ydyn nhw’n cynnwys mwy o ddeunydd cefndirol.

Well ’da fi y Yippies, a dweud y gwir.

Posted in Heb gategori | Tagged

ø bout de souffle

ø bout de souffle (Jean-Luc Godard, 1960). Pan dwedais i, wythnos o’r blaen taw A Bande Apart oedd y ffilm gyntaf gan Godard i mi weld, ro’n i wedi anghofio am hyn. Dw i’n cofio gweld e rhyw 10 mlynedd yn l pan o’n i yng Nghaerdydd (yn Chapter falle, yntau ar y teledu).

Dyma ffilm gyntaf Godard, ac un a oedd yn anhygoel o wreiddiol yn ei arddull (y “jump-cuts“, y goleuo naturiol, y trac sain swnllyd, ac ati) a’r characterisation (dim geiriadur handi) o’r cwpl chwaraewyd gan Serberg a Belmondo, sy wedi eu hail-greu gan gyfarwyddwyr Americanaidd trwy gydol y 44 o flynyddoedd ers i hon cael ei wneud.

Mae dvd yn cynnwys ffilm fer wnaeth Godard gyda Belmondo yn yr un flwyddyn, Charlotte et son Jules.

Posted in Heb gategori | Tagged

Mae Bosnia yn ardderchog

Yn Ùl y sÙn mae geiriaduron t9 sydd ar rai ffoniau symudol wedi dechrau cael effaith ar slang Saesneg:

But, hereís the thing: cosmic, when entered into a t9 capable mobile phone, for the SMSing thereof, is not the first word to come out of the t9 dictionary. No: the first word you get when pressing 267642 isnít Cosmic at all, but Bosnia. If youíre not looking, you wonít select cosmic: youíll get bosnia and skip onto the next word.

A couple of puzzling sentences later, and with little effort and a no explanation whatsoever, it seems to have caught on. People, including my wife, continuously, oh-dear-lord-make-it-stop, are using the word ëbosniaí as a synonym for excellent. I say, Tarquin, this quiche is rather bosnia. Did you see the Rigaletto last year? The mezzo-soprano was totally bosnia.

Posted in Heb gategori | Tagged

Ffrwd brwd, frawd

Dyw’r sylwadau ddim yn gweithio ar flog Nwdls, felly dyma fi ateb ei bwynt

Dim yn gwybod o’r blaen fod gan Nic aggregator ar gyfer ei flog. Taclus.

Un o’r pethau da am Moveable Type. Mae’r ffrwd RSS yn cael ei greu yn awtomatig.

Aggregator yw gwefan sy’n cronni postings dwetha i gyd o flog rhywun o dan eu penawdau gan ddefnyddio RSS feed dwi’n meddwl…beth bynnag yw hynna!

Beth yw ffrwd RSS?

Does dim rhaid iddo fod yn wefan, gyda’r llaw. Mae gen i aggregator sy’n eistedd yn dock OSX fy mhenliniadur. Dw i’n gallu gweld penawdau’r BBC, storiau newydd Metafilter ac yn y blaen heb ddefnyddio fy mhorwr o gwbl.

Mae’n dweud arno Language:en ?! Dim opsiwn Cymraeg ma’n rhaid.

Wyt ti’n gallu newid y tag iaith sydd yn y ffeil rdf i ba bynnag iaith ti moyn. Yn achos Morfablog:

<dc:language>cy</dc:language>

Ond mae’n debyg nad ydy Blogroots ddim yn adnabod “cy” fel iaith. Chwarae teg, dydy llawer o’r bobl sy’n byw ’ma ddim yn gallach.

The Last Waltz

The Last Waltz (Martin Scorsese, 1978). Wedi hanner gweld hyn o’r blaen, wedi meddwi, tebyg. Ond nawr mod i’n fwy cyfarwydd â cherddoriaeth The Band, ac yn fwy sobr yn gyffredinol, roedd hyn yn ffilm wych. Llawer o uchafbwyntiau: o’r gwesteion ro’n i’n mwynhau Neil Young a Joni Mitchell mwya, dw i’n credu, ond y peth gorau oedd darganfod pa mor cwl oedd Levon Helm.

Posted in Heb gategori | Tagged