Solaris (1972)

Solyaris (Andrei Tarkovsky, 1972). Prynais i hon ar eBay, a doedd dim byd arall i’w wylio, felly dyma fi yn ail-wylio hon ar fy mhen-blwydd.

Hon oedd y ffilm gyntaf gan Tarkovsky i mi weld, nôl yn y haf y llynedd, felly oedd yn ddiddorol weld hi eto ar ôl gweld y rhan fwya o ffilmiau’r cyfarwyddwr yn y cyfamser. Am un peth, doedd y pacing, oedd wedi fy nharo yn araf dros ben y tro cyntaf i mi weld, ddim yn teimlo mor anarferol o araf y tro ’ma. Mewn cymhariaeth â phethau fel Stalker a Nostalgia, mae hyn yn thriller cyffrous.

Posted in Heb gategori | Tagged

Gormod o lyfrau, hefyd

Dw i’n teimlo’n debyg ynglyn â llyfrau. Mae mwy o lyfrau yn y ty ’ma na allwn i ddarllen mewn 5 mlynedd. Mae siwr o fod mwy yn y post. Dw i ddim wedi darllen Tristram Shandy, The Sot-Weed Factor, Town and the City, Hen Dy Ffarm, llyfrau newydd Mihangel Morgan, Owen Martell, Angharad Tomos. Falle dylwn i jyst stopo am sbel. Blwyddyn, dwed.

Ydy hynny yn realistig? I beidio prynu llyfrau newydd am flwyddyn? A recordiau? Treulio blwyddyn gron darllen a gwrando ar bethau sydd gyda fi yn barod.

Gawn ni weld. Mae’r cloc yn tician. Llai na blwyddyn i fynd.

Posted in Heb gategori | Tagged

Dim mwy, diolch

Dw i wedi penderfynnu bod digon o gerddoriaeth ’da fi am nawr, yn enwedig ar ôl i mi etifeddu casgliad mawr o recordiau clasurol oddi wrth fy mam-yng-nghyfraith. Mae bob noson yn llawn Mozart, Bach, Elgar, Haydn. Mae popeth arall yn swnio yn denau.

Dw i’n 37 oed, ers 10 munud yn ôl. Newydd sylweddoli. Penblwydd hapus i mi.

Lilja 4-ever

Lilja 4-ever (Lukas Moodysson, 2002). Ddim cystal â’i ffilm ddiwetha, Together. Roedd yr actorion i gyd yn dda, a’r stori yn bwerus, heb os, ond gyda thema mor dywyll mae angen bod yn ofalus wrth chwarae gyda elfennau o realaeth hudol, a dyw’r rhai yma ddim yn gweithio yn dda. Ydyn ni fod i fod yn falch bod Lilja a Volodya gyda’i gilydd ar y diwedd. Mae’r ddau ohonyn nhw wedi lladd eu hunain, wedi’r cwbl. Dydy hynny ddim yn arwydd o ddiweddglo hapus, fel arfer.

Posted in Heb gategori | Tagged

Meibion Gwrtheyrn

Heirs of Gwrtheyrn, erthygl anhygoel o gryf yn y Guardian ddydd Mawrth.

We may be proud to be Welsh, but we also close our eyes to the fact of Welsh linguistic decay, that G–tterd”mmerung of a whole culture, but one couched in Welsh diminuendo. Listen to our fatuous Welsh cultural establishment, and you might think that a great victory has been won. For the first time in census history there is an apparent advance on previous decline. Over 21% now claim to be Welsh-speaking. But look below the headline, and you will find that only 16% can read and write the language. That other 5% just do pidgin Welsh. This is simply the continuation of a century’s story of steady attrition.

Diolch i Nwdls am dynnu fy sylw at hyn.

Lerpwl a Gogledd Cymru

Pa mor Gymreig yw Lerpwl? Erthygl braidd yn unllygedig gan BBC Wales. Dim sôn o gwbl am effeithiau negyddol “the two-way relationship between the areas”, ac mae digwyddiad hanesyddol sy’n diffinio’r perthynas rhwng Cymru Gymraeg a “phrifddinas y Gogledd” ers y 60au (sef boddi Cwm Tryweryn) wedi’i anghofio’n llwyr.