Kr€tki film o zabijaniu (Krzysztof Kieslowski, 1988). Bosib bod hyn yn gabledd, ond mae’n well ’da fi y fersiwn sydd yn y Dekalog, mewn sawl ffordd. Y peth mwya oedd y ffordd mae Jacek (y llofrudd) a Piotr (y cyfreithwr) yn cael eu gweld yn yr un caffi jyst cyn i Jacek fynd yn y tacsi. Yn y fersiwn teledu mae Jacek yn taflu hufen o’i goffi at y ddwy ferch sy’n chwarae tu mas i’r caffi, ac yn gwenu arnyn nhw fel angel. Hwnna oedd un o’r eiliadau mwya pwerus yn y ffilm. Yn y fersiwn hirach, yn syth ar ôl iddo fe wneud, dyn ni’n cael araith oddi wrth Piotr am ryddid, a sut mae dyn yn rhydd i ddewis ei lwybr ei hun ac yn y blaen, ac yn y blaen. Oedd enghraifft arall lle oedd Kieslowski wedi dangos mwy o ffydd yn ei gynulleidfa yn y Dekalog nag oedd e yn y fersiwn sinema, ond dw i’n rhy flinedig i’w gofio nawr.
Monthly Archives: Ionawr 2004
Fel Ewyn Ton a Dyr ar Draethell Unig
Eleni yw canmlwyddiant Waldo Williams.
Fersiwn Chris Grooms o “Cofio” Waldo.
Pa beth yw dyn? (gyda chyfieithiad Tony Conran)

Preseli (pdf, 120k) gyda sylwadau gan Menna Elfyn a chyfieithiad Tony Conran.
Back Nets gan Thomas Rain Crowe — “after Waldo Williams”.
Aneurin
Jeremy Hooker
Jeremy Hooker, MP3au o’r bardd darllen ei waith.
Y Llyfr Ffôn
Dilyn y Sgwarnog
Mae sgwarnog.org yn sustem ebost ar y we yn y Gymraeg. Does dim angen ebost ar y we arna i, ond dw i am drial hon jyst i gael gweld sut mae’n gweithio.
Wedi’i sgwennu yn y sêr
Cynhyrchydd seryddol – sgwennu neges yng ngofod.
Wyt ti’n siarad ASCII?
Cynhyrchydd ASCII – teipio testun i mewn a chael fersiwn ASCII yn ôl:
Yr wyf yn dy garu
Le mur des je t’aime – wal yn Ffrainc sy wedi ei beintio gyda’r geiriau holl bwysig ym mhob iaith dan yr haul, gan gynnwys “Gallic”.

The Animatrix
Animatrix, The (sawl un, 2003) – yr unig bennod a oedd yn dal fy niddordeb oedd yr un cyntaf, Final Flight of the Osiris, a hwnna oedd yr unig un o’n i wedi gweld yn y sinema. Siomedig iawn.
Bangkok Haunted
Bangkok Haunted (Oxide Pang Chun & Pisut Praesangeam, 2001) – wnes i ddim gwylio’r holl peth. Oedd cwpl o bethau diddorol, ond do’n i ddim yn barod i daflu fy hunan i mewn i’r storiau (mae’n ffilm o dri hanner), felly wnes i bigo trwyddi, heb llawer o ddiddordeb.
Full Frontal
Full Frontal (Steven Soderbergh, 2002). Ffilm “myfyriwr” Soderbergh. Hoffwn i weld eto, achos (unwaith eto) do’n i ddim mewn hwyliau da pan welais i hi. Y peth gorau amdani oedd rhaid o’r cyfweliadau â’r actorion yn eu roliau, Julie Roberts, yn enwedig. Llawer o pethau ychwanegol da ar y DVD.
Clay Pigeons
Clay Pigeons (David Dobkin, 1998). Ffilm do’n i ddim yn gwybod dim byd amdani cyn ei gwylio. Ddim yn gyfarwydd â’r cyfarwyddwr (chwarae teg, hon oedd ei ffilm gyntaf). Mae’n ffilm llawn o berfformiadau dros ben llestri (yn enwedig Vince Vaughan fel yr ail-psycho o’i yrfa; ond Georgina Cates fel y tart heb unrhyw sôn am heart) ond sawl un tawel, falle yn fwy diddorol: Joaquin Phoenix yng nghanol pethau, ond hefyd Janeane Garofalo (enw newydd arall). Tipyn bach gormod o castiau camerau fflachlyd, di-angen, ond werth ei rhentu, yn bendant.
Croeso i Amwythig
Arwyddion dwyieithog – yn Lloegr. Stori o’r Shropshire Star:
Shropshire railway stations could display bilingual signs in the future after the new company running Wales’ trains was urged to use both Welsh and English.
Arriva Trains Wales took over the franchise on December 7 and currently uses bilingual signs and announcements at all its Welsh stations.
But language campaigners are now hoping the same policy will extend across the entire Wales and Borders franchise, taking in Shrewsbury and Ludlow stations.
Cariad@iaith
Cariad@Iaith â “celebs”. Mae’n debyg bod S4C am gopio syniad o deledu Seisnig (sgersli bilîf!) gan wneud cyfres newydd o’u sioe “Big Brother yn dysgu Cymraeg” ond y tro hwn gyda “enwogion” y byd adloniant. Dw i heb glywed o’r un ohonyn nhw, ond dw i ddim â fy mys ar byls adloniant poblogaidd, mae’n amlwg.
Ffwlbri llwyr
Mae gweflog ddwyieithog gan Gwydion Gruffudd yn dilyn ei baratoiadau ar gyfer Marathon Llundain 2004. Mae e’n rhedeg er mwyn codi arian i CRY a chewch chi ei sbonsro fan hyn.
Croeso i’r Byd, Cymry
Mae’n debyg y caiff Y Byd, papur dyddiol Cymraeg, ei lansio erbyn diwedd y flwyddyn hon, neu’n gynnar yn 2005. Cewch chi ymuno a’u Clwb Cefnogwyr gan dalu Ł25 nawr (a chael gostyngiad o Ł30 o’ch ffî tanysgrifio am y flwyddyn gyntaf).
Mae Kyffin Williams wedi rhoi’r llun isod i’r cwmni i’w werthu er lles Y Byd.

Hopefully, the first Welsh language daily newspaper will be launched later this year or early in 2005. Details here. The above picture has been donated by the artist Kyffin Williams to help raise money for the project.
Mate
Abergwaed gan MC Oerfel – ddim yn gwybod dim am hyn, des i ar ei draws mewn llofnod rhywun ar maes-e.
T.F.Powys
Theodore Powys, portread o’r New Statesman, Rhagfyr 2001.
Dilyn yn ei olion gan fynd am dro yn East Chaldon.








