Crimson Gold

Talaye sorkh (Jafar Panahi, 2003). Rhaid mod i’n colli rhywbeth yma, achos ro’n i’n meddwl taw hon oedd y ffilm mwya diflas dw i wedi gweld ers sbel. Oedd cwpl o bethau da, fel yr olygfa pan oedd Hussain yn rhannu pizza gyda’r milwyr, a phan oedd e’n cerdded o gwmpas y fflat moethus, ond… Na, sori.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Ildiwch nawr!

Mae’r botwm ar y dde yn linc i gyfrif Paypal lle dyn ni’n trial codi arian tuag at argraffu 1000 o sticeri A3 gyda’r gair ILDIWCH arnynt. Debyg nad oes angen esbonio pam, ond wna i hynny yn yr iaith fain ar gyfer ein ffrindiau di-Gymraeg.

Trafodaeth ar maes-e am hyn.

The button on the right is a link to a Paypal donation page, raising money to print 1000 (or more, hopefully) A3 size stickers with the word ILDIWCH ["Give Way"] on them. I don’t know how obvious it is to what purpose these stickers will be put. If you can guess, and if you think that’s a good purpose, please chuck a couple of quid in the virtual bucket. Diolch yn fawr.

Nostalghia

Nostalghia (Andrei Tarkovsky, 1983). Ai hon yw’r ffilm mwya prydferth dw i wedi ei gweld erioed? Anhygoel. Amser i newid trefn fy rhestr ffilmiau gyda Movietrak a Lovefilm i gael gweld mwy o Tarkovsky cyn gynted â phosib – Solaris yw’r unig un dw i wedi gweld o’r blaen, a doedd honna ddim yn fy nharo cymaint â hon.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

In The Cut

In the Cut (Jane Campion, 2003). Ffilm gynta yng Ngwyl Ffilm Theatr Mwldan, ac un gref iawn i ddechrau. Ffilm ddewr iawn i Meg Ryan fod ynddi, gan ei bod hi’n dangos llawer mwy o’i hunan (mewn mwy nag un ystyr) nag ydyn ni’n disgwyl o seren ffilmie fel When Harry Met Sally a Sleepless in Seattle. Ffilm a fydd yn werth gweld eto. Ddim yn gallu dweud hynny am lawer o’r ffilmiau sy wedi’u wneud yn America yn ddiweddar.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Lovefilm

Dw i wedi ymuno â LOVEFiLM.com fel arbrawf, gan ddefnyddio cynnig arbennig oddi wrth Freeserve (mis am ddim). Mae eu rhestr nhw yn ehangach na’r un Movietrak, a’r wefan yn llawer haws i’w ddefnyddio, felly os ydy popeth arall yn iawn, tebyg y bydda i’n newid i hyn fel fy mhrif ffynhonell am dvds i’w rhentu.

Cockfighter

Cockfighter (Monte Hellman, 1974). Dyma tro cyntaf i mi weld hon ar y teledu. Prynais i’r dvd (wedi’i fewnforio o Sbaen) ar eBay y llynedd, a dw i weld ei gwylio ar y Macafal, ond mae’n llawer well ar sgrin mwy o seis.

Mae’n amlwg y bydd unrhyw ffilm ar bwnc mor ddadleuol yn peri amheuaeth yn y gwyliwr. Fyddai hon ddim yn cael ei wneud y dyddiau ’ma, a pheth da yw hynny. Ond wedi dweud dweud hynny, ac er y creulondeb sydd ynddi, dw i’n meddwl bod y ffilm ’ma y peth nesa i berffaith. Sy’n fy mhoeni i. Sut alla i fod mor hoff o ffilm am ladd anifeiliaid am hwyl? Anhebyg iawn fyddwn i’n moli ffilm am hela cadno â chwn, felly pam ydw i’n gallu canu clod ffilm am geiliogod talwrn?

Wn i ddim. Rhaid meddwl mwy am hyn.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Deddf 1993 i gael ei ymestyn

Mae Alun Pugh wedi datgan y bydd Llywodraeth Caerdydd yn ymestyn grym Deddf Iaith 1993 i gynnwys cwmniau “gwasanaethau cyhoeddus” fel Dwr Cymru. ‘Sai’r Ceidwadwyr ddim wedi preifateiddio’r cwmnïau yma yn ystod y 80/80au, wrth gwrs, bydden nhw’n dod o dan y Ddeddf fel y mae hi, ond rhaid cydnabod bod hyn yn Beth Da.

Z punktu widzenia nocnego portiera

Z punktu widzenia nocnego portiera (Krzysztof Kieslowski, 1978) – ffilm fer ar y DVD Ffilm Fach am Ladd. Yn ôl y IMDb, mae hon yn ffilm ddogfennol, ond sa i’n credu ‘ny. Oeraidd iawn. Y ffilm gynharaf gan Kieslowski dw i wedi ei gweld hyd yn hyn.

Mae DVD hwn yn llawer well yn nhermau pethau ychwanegol na’r rhai Dekalog. Mae cyflweliad â Slavomir Idziak, sinematograffwr ar Ffilm Fach.. yn werth ei weld.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd