Five Easy Pieces

Five Easy Pieces (Bob Rafelson, 1970). Un o’m hoff ffilmiau o’r adeg aur ffilm Americanaidd. Roedd y DVD braidd yn siomedig, gyda dim byd arno fe ond y ffilm a “Talent Bios” am Nicholson, Black a Rafelson.

Prynais i siaced newydd heddi, sy’n edrych fel yr un mae Nicholson yn gwisgo yn y ffilm.

Ydw, dw i yn mor drist â hynny.

Sgript gwreiddiol y ffilm sy’n rhoi llawer mwy o gefndir cymeriad Nicholson nag sydd yn y ffilm fel y mae.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Bande part


Bande part (Jean-Luc Godard, 1964). Tro cynta i mi weld ffilm Godard, am wn i. Dyna un o’r pethau gwych am ffilmiau, mae wastad rhywun mawr i’w ddanganfod am y tro cyntaf. Diolch i’r drefn am DVDs!

Mae’r ffilm yn fendigedig, wrth gwrs, gyda chymaint o golygfeydd clasurol ro’n i’n teimlo fy mod i’n nabod y ffilm er i mi fod yn siwr dw i erioed wedi ei gweld o’r blaen.

Mae DVD yn llawn o bethau ychwanegol da hefyd, gan gynnwys “A-Z of Bande part“, rhyw 50 o glipiau o’r ffilm gyda sylwadau rhyw foi, a chyfweliadau â phobl fel Anna Karina, Hal Hartley (a wnaeth ail-wneud yr olygfa enwog Madison, i gerddoriaeth Sonic Youth, yn ei ffilm Simple Men), a Quentin Tarantino (a wnaeth “benthyg” steil yr olygfa yn Pulp Fiction).

Dyma erthygl ar ddylanwad Bande Part o’r BFi. Llawer mwy yma.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Street-Porter yn Nant Gwrtheyrn

Street-Porter i ddysgu Cymraeg:

Yn ymuno â Ms Street-Porter ar gyfer wythnos o wersi y bydd yr actores Ruth Madoc; cyn-aelod o’r grwp pop One True Voice, Jamie Shaw; yr athletwraig Tanni Grey-Thompson; Steve Strange, aelod o’r band arloesol o’r 1980au, Visage; y gantores Amy Wadge a’r actor Bernard Latham o Hollyoaks.

Does dim lot o “chwilfrydedd angladdol” ’da fi, ond mae’n bosib bydd hyn yn werth gosod y fideo amdani.

Dolls

Dolls (Takeshi Kitano, 2002). Wedi bod yn aros am hon ers i mi ymuno â Movietrac. Ffilm fach od, ac annhebyg iawn i bethau Beat Takeshi eraill dw i wedi gweld. Mae’n bert ofnadwy, ac yn araf, ac yn drist, heb fod yn ddiflas o gwbl. Rhaid cytuno â phenderfyniad Kitano i beidio castio ei hunan fel yr hen Yakuza (gormod o baggage). Amser i mi ail-wylio mwy o’i ffilmiau.

Wyt ti’n lico ffilmiau Takeshi, Nwdls (dw i’n cymryd taw ti yw’r unig person sy’n darllen hyn).

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Vow Wactor

Dalais i ddarn o raglen Radio 4 ar y ffordd yn ôl o Aberteifi:

Germenglish

Michael Siebert, from Hanover, is concerned at the way the German language is using English in an effort to sound hip and cool but is ending up sounding daft.

Hmm.

Dave Graney

The Dave Graney Show – dw i newydd sgwennu (draw ar y blog newydd) am y gân gan Graney am Warren Oates. Ai fi yw’r person ola yn y byd i glywed am Dave Graney? Sdim ots ’da fi, mae’n wastad yn neis i ddarganfod rhywun newydd (hei! prynais i CDs Joss Stone a’r Kings of Leon ddoe. Dw i bron wedi dal i fyny â Terry Wogan!).

Mae MP3 ganddo ar waelod y dudalen hon. (Llawer mwy o MP3au ’na hefyd. Dw i’n lawrlwytho nawr.)

My Life Without Me

My Life Without Me (Isabel Coixet, 2003). O, wych, ffilm am ferch sy’n marw o canser. Just what the doctor ordered.

Na, roedd hon yn ffilm hyfryd, ddim yn maudlin o gwbl, actorion da i gyd, hyd yn oed y plant. Mae’r ferch ’na o Pulp Fiction a Henry and June braidd yn irritating, ond oedd hi’n chwarae rôl jôc yn hon, felly popeth yn iawn.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Dal: Yma/Nawr

Dal: Yma/Nawr (Marc Evans, 2003). Tro cyntaf i mi flogio ffilm sy ddim yng nghronfa ddata IMDb. Tro cyntaf i mi flogio Ffilm Gymraeg ei hiaith. Tro cyntaf i mi weld ffilm Gymraeg ei hiaith sy’n werth blogio amdani.

Ffilm wych. Cer i weld hi nawr. Mae T.Llew Jones ynddi.

A John Cale.

Ro’n i’n joio popeth amdani, o’r ffaith nad oedd yr un actor o Bobol y Cwm ynddi (wel, mae’n debyg bod Rhys Ifans wedi wneud, ond ti’n gwybod beth sydd ’da fi), i’r darn gyda Ioan Gruffudd a Matthews Rhys yn eistedd ar draeth rhywle yn America yn darllen geiriau Dafydd ap Gwilym, mwy camp na maes yr ieuenctid.

Oes trac sain ar gael?

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd