EMLIT

Prosiect EMLIT – llenyddiaethau lleiafrifol wedi’u cyfieithu. Ffeiliau PDF ac MP3, gyda deunydd gan Iwan Llwyd* yn cynrychioli’r Gymraeg.

* Ddim yn gwybod beth sy’n digwydd ’na, ond Twm Morys sydd ar yr MP3, nid Iwan Llwyd.

[diolch i languagehat - a phob lwc yn y tŷ newydd!]

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Y Brawd Mawr

Cyfweliad â Houdini o 1904.

“Where do you receive the best treatment? What people are the most cordial?”

“Oh, the world is alike. When they are pleased they laugh and are pleasant and when they think they are being cheated and are displeased then they scowl and jeer and hiss. They do this, you know, whether they are French, German, Russian or English, for after all they are all human beings and governed by the same impulses. I make the most money, I think, in Russia and Paris, for the people of those countries are so willing to be amused, so eager to see something new and out of the ordinary.”

Casgliad Houdini yn Llyfrgell y Gyngres.

Great Houdini Meic Stevens (mp3, 3.9 MB) – sy wedi bod yn sownd yn fy mhen ers bore ddoe.

The sun don’t shine in the coal mine
Better send for a bottle of whisky.
We’ve got cash, but the coal gas
Makes smoking kind of risky.

Clasur.

dolenni trwy dublog

[Gol. 19/10/08.]

Newydd sylwi bod un o flogiau WIRED wedi rhoi dolen i’r cofnod hwn, nôl yn 2006, a bod pobl yn ymweld â fe o hyd. Wna i agor y sylwadau, felly.

Geiriadura

Y geiriadur gorau? Mae’r erthygl yn sôn am eiriaduron Saesneg, ond beth yw’ch geiriadur Cymraeg o ddewis? Nawr mod i’n sgwennu mwy yn Gymraeg nag ydw i’n darllen, dw i’n tueddu bod â Bruce gerllaw trwy’r amser (o’ch chi’n gwybod bod fersiwn ar-lein arbrofiadol ar gael?), ac mae Geiriadur Prifysgol Cymru o fewn cyrraedd os bydd angen. Beth hoffwn i wybod yw beth yw’r geiriadur Cymraeg, un cyfrol, gorau? Oes ’na unrhywbeth sy’n gallu curo’r hen Eiriadur Mawr. Mae’n copi ni o hwnna bron ar ben ei daith, felly byddwn ni yn y farchnad cyn bo hir.

[languagehat.com]

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Talwrn y Gynecolegwyr

Mi es i i’r Talwrn neithiwr, i gefnogi fy nghariad a oedd yn cystadlu (yn nhîm Tanygroes) am y tro cyntaf.

Dw i ddim am roi unrhywbeth i ffwrdd (fydd y rhaglenni yn cael eu darlledu yn y flwyddyn newydd) ond roedd y Taeogion ar dân neithiwr. A mwynheuais i un o’r profiadau mwya afreal ers i mi ddechrau wneud “pethe” Cymraeg, pan wnaeth y Meuryn ddechrau malu awyr am perinewriwm Caryl Parry Jones. Nid rhywbeth ti’n clywed bob dydd, yn enwedig mewn capel yn Nhregaron, tybiwn i.

Tŷ Crwn Brithdir Mawr

Sa i wedi blogio’r tŷ crwn am sbel, a dw i’n credu bod lluniau newydd ’da nhw. Mae’n edrych hyd yn oed yn fwy hyfryd na’r tro diwetha i mi ei weld.

Wnes i feddwl amdano ar ôl gweld hwn ar yr ‘hidl. Tŷ arall, sy’n hyfryd, ac yn anarferol, ond y tro ’ma sy’n costio $5 miliwn.

Costiodd tŷ Tony a Jane 3,000.

Meic Stevens – Outlander

3am – cyfweliad â Meic Stevens.

Cyrhaeddodd fy nghopi o Outlander y bore ’ma, ac mae’n wych, chwarae teg. Dim ond 2500 copi mae Rhino wedi gwasgu, a rhif #2354 yw fy un fi. Well i ti brysio.

Mae’r cd yn dod mewn pecyn cardbwrdd swmpas, gyda llyfryn llawn lluniau a thraethawd bach ar ddilanwad Meic:

In the popular music of Wales, Meic Stevens is the defining folk and rock singer of the past 35 years. He is as important there as is a Dylan or a Springsteen in the United States, a Lundell in Sweden, a Veloso in Brazil, a Gainsbourg in France, or a Prince Jazzbo in Jamaica.

Mae hunangofiant Meic Stevens, Brawd Houdini, newydd ei lansio, ac mae ar gael o wefan y Lolfa (dim modd i gysylltu â’r tudalen perthnasol yn uniongyrchol – ymchwiliwch am “houdini” o’r tudalen ffrynt). Mi ges i copi adolygu (sgil effaith bod yn olygydd y papur bro, bwahaha) ac mae’n edrych yn fendipsychedelig.

Mae fy rheithgor mewnol dal yn dadlau am Meic, ar ôl iddo wneud y perfformiad mwya amhroffesiynol dw i erioed wedi gweld, yn Steddfod Maldwyn (tair cân a “ffyc this, dw i’n off”). Ches i mo fy magu gyda ei ganeuon, fel fy nhyfoedion ymysyg y Cymry Cymraeg, felly dwi ddim cweit mor barod i’w esgusodi am fod yn prima donna hunanol gan ddweud “wel, dyna Meic”.

Ta beth.

Meic Stevens - Outlander