Sais-ganologrwydd a moesgarwch ieithyddol – doeddwn i ddim yn gwybod bod y maes academaidd “linguistic politeness” yn bodoli. Mae dysg i’w chael o’r bedydd i’r bedd.
Reciprocal first name seems often to be taken by British and Americans to indicate that the encounter with a stranger is proceeding well and that an equality of interaction has been established. However, for many foreign speakers of English, this strategy of first name use produces a certain embarrassment caused by seeming overfamiliarity. Because involvement strategies and seeming egalitarianism in general are viewed by Americans and British as self-evidently better than the hierarchical and deferent alternatives which are often preferred by certain other language groups in such encounters [..] very often the foreign language user is corrected by the native speaker if she or he uses a more ‘distancing’ strategy.
Ochr arall y ceiniog hwn yw’r trafferth mae dysgwyr Cymraeg yn cael gyda’r busnes ti/chi. Dw i wedi sylwi (mwy yn ddiweddar?) sawl dysgwr profiadol yn defnyddio’r “ti” gyda rhywun dyn nhw ddim yn ei nabod yn dda, ac, wrth gwrs, dw i wedi wneud hyn fy hunan. A ydw i’n trosglwyddo fy ngham-ddealltwriaeth o’r busnes ’ma i’r to nesaf o ddysgwyr? Pan wnes i ddysgu’r iaith, ar gwrs Wlpan Chris Rees yng Nghaerdydd nôl yn 1995, doedd dim sôn am “ti” o gwbl – dim ond “chi” oedden ni’n defnyddio yn y dosbarth, tan diwedd y cwrs. Dw i’n cofio siarad â Rhisiart Lewis (un o’r tiwtoriaid) mewn cyfarfod CYD yng Ngwesty Parc y Rhâth, gan ei alw’n “chi”. Gofynodd e i mi ddefnyddio’r ffurf “ti” ond do’n i ddim yn gallu – doedd y geirfa ddim gyda fi, er mod i’n gallu cael sgwrs eitha cyfawn erbyn hynny. Gyda’r cwrs dw i’n dysgu nawr, mae dysgwyr yn cael y ti a’r chi reit o’r cychwyn cyntaf, ac mae rhaid iddyn nhw benderfynnu p’un i’w ddefnyddio ar ôl yr angen: un peth arall i’w boeni amdano.
Tydi athrawon ddim yn cywiro plant y dyddiau yma. Heb fod yn ben fawr, dwi’n meddwl na fi ydi’r unig un sydd yn cyfeirio at athraw fel ‘chi’.
Y rheswm dwi fel yma yw fod fy mam wedi mynnu fy mod yn cyfeirio ati fel chi, pawb hynach na mi a phobl diarth.
Mae hyn yn ddiddorol iawn i fi, wedi fy magu yn uniaith Saesneg. Wyt ti’n meddwl, er enghraifft, bod natur dy berthynas di â dy rieni yn wahanol achos y ffordd wyt ti’n cyfeirio atyn nhw, neu wyt ti’n cyfeirio atyn nhw fel ‘na achos natur y perthynas?
(Wedi ail-ddarllen dy sylw, yr ail sy’n wir, mae’n debyg, gan fod dy fam wedi mynnu.)
Fy nealltwriaeth I o’r cwestiwn yma (mamiaith Gymraeg ydw i) yw hyn – ti’n defnyddio “chi” tuag at rhywun hyn neu o safon uwch, a ti tuag at rhywun o’r un oed, safon neu iau ac is-safonol. So en enghraifft mi ddylia plismon ddefnyddio “chi” pan y delio a’r cyhoedd, mi ddylia dyn 30 oed ddefnyddio “chi” efo dyn 50 oed neu ei fos, ond “ti” efo dyn o’r un oed. Mae’r agwedd safonol yn bwysicach na’r oed, wedyn defyddio “ti” efo cyd-weithiwr o’r un safon hyd yn oed os ydy o neu hi yn gryn hynnach. Mae parch i oedran yn ffactor fwy blaenorol yn y diwylliant Gymraeg nac ydy o drwy’r Saesneg, a mi all galw person o oedran sylweddol fwy na chi’ch hun – hyd yn oed os ydy nhw yn is-safonol – yn gallu achosi pechod.
Diddorol yw’r gwahaniaethau diwylliannol’ma. Dwi’n byw yn Saudi Arabia, ac yn wahanol i’r neges yn yr erthygl, mae’r pobl local yma yn defnyddio enwau cyntaf yn fwy na enw llawn. Os da chi’n galw nhw’n “Mr Abdul” – arwydd o barch yn ein diwylliant ni – mae nhw’n meddwl eich bod eisiau bod yn fwriadol formal efo nhw, h.y. ddim eisiau bod yn cyfeillgar. Ym mysg eu gilydd, ar achlysuron ddifrifol swyddogol yn unig mae nhw’n defnyddio’r enw llawn.
Diolch Blewyn. Dyn ni wedi bod yn trafod hyn eto yn ein tŷ ni’n diweddar, a dw i wedi bod yn sylwi arno mwy, mae’n debyg.
Un peth dwedodd ffrind o Gymraes wrthon ni oedd bod hi’n anodd iawn i newid unwaith ti’n dechrau galw rhywun yn “chi” – bod hi wedi bod mewn grŵp lle oedd hi’n defnyddio “ti” gyda phawb ond y ferch oedd hi’n nabod yn dda, ac yn ffrindiau mawr gyda hi, achos “chi” o’n nhw’n defnyddio erioed.