Monthly Archives: Rhagfyr 2003
Oh Say Can You Hear?
Diolch i Metafilter, dw i wedi dod ar draws Star Spangled Banner (fersiwn Hendrix) ar y cello a diolch i Ask Metafilter dw i’n gallu gwrando arno fe. (Dw i wedi bod heb RealPlayer ers i mi symud i OSX llawn amser.)
Ladd dy eilunod
MmmmmP3au S¯nic Youth, gan gannwys sesiwn Peel o ailfersiwnau The Fall (un gan y Kinks, mewn gwirionedd, sbo). Papurau wal neis hefyd. Mwy o pethau prin gan yr Ieuentid Swnllyd ar Sonic Tooth, gwe-ffan Ffrangeg/Saesneg. Am rywbeth hollol wahanol, beth am Little Brother, criw hiphop o Durham, North Carolina?
Pync! Roc!
Cannoedd o MP3s gan Matador Records, gan gynnwys pethau gan Stephen Malkmus, Pavement, Mogwai, Interpol, The Soft Boys (The Soft Boys!), Fuck (am enw – mwy o MP3s ganddyn nhwthau yma) a llawer mwy dw i erioed wedi clywed amdanynt achos fy mod i mor hen a thew. Sôn am fod yn dew, mae crysiau-T [...]
Oumou Sangare
Un o’r anrhegion gorau’r Dolig oedd CD Oumou Sangare, wedi’i gopio oddi ar fy nhad. Cerddoriaeth hardd iawn o Mali. Gwybodaeth bywargraffig y gantores.
Sut wyt ti, Ficar?
Sais-ganologrwydd a moesgarwch ieithyddol – doeddwn i ddim yn gwybod bod y maes academaidd “linguistic politeness” yn bodoli. Mae dysg i’w chael o’r bedydd i’r bedd. Reciprocal first name seems often to be taken by British and Americans to indicate that the encounter with a stranger is proceeding well and that an equality of interaction [...]
The Empire Writes Back
The Empire Writes Back – llyfr ar lenyddiaethau ac ôl-wladychiaeth gan dri Athro o Awstralia. A ‘privileging norm’ was enthroned at the heart of the formation of English Studies as a template for the denial of the value of the ‘peripheral’, the ’marginal’, the ‘uncanonized’. Literature was made as central to the cultural enterprise of [...]
Cadw fe lan
BallDroppings – enw braidd yn anffodus, ond gêm/tegan bach neis.
Hanes America Ecs
American History X (Tony Kaye, 1998) – DVD o Ddewis. Eitha da, ond braidd yn siomedig yn y diwedd. Dweda i ragor nes ymlaen, ond dw i’n fishi trafnu fy nghylchgronau ar y funud.
Dwm, dwm dwm dwm, dwwwwm
Doom – comic wedi’i seilio ar y gêm cyfrifiadur (treisgar iawn, wrth reswm).
Croeso i’r Byd