The horror, mae’n hyfryd

Annie Dillard: The Force That Drives the Flower. Mae llyfr Annie Dillard, Pilgrim at Tinker Creek, un o’m hoff lyfrau am natur. Dyw Dillard ddim ag ofn edrych ar y byd yn fanwl iawn, nes iddo ddangos ei ddannedd. Dyma hi’n gwylio broga yn cael ei fwyta yn fyw gan pryfed dwr:

Downstream at the island’s tip where the giant water bug clasped and ate the living frog, I sat and sucked at my own dry knuckles. It was the way that frog’s eyes crumpled. His mouth was a gash of terror; the shining skin of his breast and shoulder shivered once and sagged, reduced to an empty purse; but oh those two snuffed eyes! They crinkled, the comprehension poured out of them as if sense and life had been a mere incidental addition to the idea of eyes, a filling like any jam in a jar that is soon and easily emptied; they flattened, lightless, opaque, and sank.

Ond trwy’r llyfr i gyd, yr elfen mwya yw’r teimlad o ryfeddod, ein bod ni’n byw mewn breuddwyd Boschaidd o fyd, ac i gyd sydd angen yw cadw ein llygaid ar agor.

Och, dw i ddim yn gwybod. Dw i’n ddigalon achos bod maes-e yn cymryd mwy a mwy o’m hamser, ac yn rhoi llai a llai o bleser i mi. Dyw e ddim yn bosib i drafod unrhywbeth yno heb denu dirmyg o rywle. Mae’n amser i mi ddilyn llwybr Dillard am sbel, neu gwrando ar gyngor Wncl Walt.

Dekalog 1

Dekalog, jeden (Krzysztof Kieslowski, 1988) – DVD Movietrack. Y cyntaf yn y cyfres o ddeg ffilm fer gan Kieslowski ar y 10 Gorchymyn. Yn y ffilm hon mae athro mewn prifysgol yn colli ei fab achos bod gormod o ffydd gyda fe yn y byd rhesymegol a chyfrifiaduron. Unwaith mae’n amlwg beth sy’n mynd i ddigwydd mae’r ffilm yn anodd iawn i’w gwylio, ond mae Kieslowski’n feistr o amseri elfennau’r stori.

Anhygoel o drist.

Posted in Heb gategori | Tagged

Nukey Pikes

Llawer o hwyl Flash o Siapan ar blogjam. Dydy e ddim yn wneud unrhyw sens i mi (sy ddim yn deall y cyfeiriadau diwylliannol, na’r iaith, wrth reswm) ond galla i edrych ar bethau fel hyn a hyn trwy’r dydd.

Posted in Heb gategori | Tagged