Rhwng MÙn ac Arfon, stori fer gan Angharad Price, a’i sgwenwyd ar gyfer prosiect Scritture Giovani.
Between Môn and Arfon, a short story. Translated by its author, Angharad price.
Rhwng MÙn ac Arfon, stori fer gan Angharad Price, a’i sgwenwyd ar gyfer prosiect Scritture Giovani.
Between Môn and Arfon, a short story. Translated by its author, Angharad price.
Llên Cymru yn y byd mawr – gwefan uniaith Saesneg, er eu bod nhw’n dweud bod Mae fersiwn Gymraeg ar y gweill – pryd bydd pobl yn deall taw nid optional extra yw’r fersiwn Gymraeg?
Yn eironig ddigon, mae bwlet.net, gwefan sy’n ymwneud â chyfieithiadau Saesneg o lenyddiaeth Cymraeg, yn wneud job llawer gwell o ddwyieithogrwydd. Mae’n ddiddorol hefyd. Wnes i fwynhau’r trafodaeth ar syniadaeth cyfieithu:
Celtigiaeth
Oír cyfnod cynharaf hyd y presennol, bu tueddiad wrth gyfieithu i ymwrthod ’ chyswllt hanesyddol a gwleidyddol y deunydd drwy ei gyfleu fel gwaith a oedd yn bennaf yn Geltaidd, ac nad oedd ond yn digwydd bod yn Gymraeg. Mae nifer o agweddau ar yr arfer hon, ond maeín amlwg ei bod mewn rhai ffyrdd yn cynrychioli ìaralluî diwylliant yr iaith Gymraeg yn unol ’ír hyn a ddywedwyd gan Edward Said yn ei drafodaeth enwog ar Ddwyreinioldeb.
Celticism
From early times to the present, there has been a strain of translation that seeks to dehistoricise and depoliticise the material by representing it as being primarily Celtic, and only incidentally Welsh. There are many aspects to this practice, but it is obvious that in certain respects it represents the ìotheringî of Welsh language culture along the same exoticising lines as those identified by Edward Said in his famous discussion of Orientalism.
Ссылки – wedi blogio hyn o’r blaen, dw i’n credu, ond mae e wedi pesgi’n diweddar. Rhestr (mewn Rwsieg) o ddolenni i wefannau Cymreig a Chymraeg.
dagbÛk mÌn – blog amlieithog sydd gyda dolen i ni yma.
Dw i’n darllen Cryptnomicon gan Neal Stephenson, nofel fawr am gyfrifiaduron, mathemateg, a chryptoleg, wrth gwrs. Mae ei nofel newydd, Quicksilver yn rhan o gyfres o nofelau hanesyddol, sydd eto yn paradwys i nerdiaid y byd. Mae hi hyd yn oed yn sail i wiki. Amser i mi archebu honna, dw i’n credu.
MP3au gan Eliffant, band Geraint Griffiths.
Y Brython – cylchgawn o 1858-1863. Pob un ohonyn nhw.
Y Drych Digidol – trysorau o’r Llyfrgel Genedlaethol.
Mae hunangofiant Capt William Owen, smyglwr o Nanhyfer yn edrych yn arbennig o dda, ond mae sawl perl arall yma hefyd.
trwy plep @ metafilter
Caffi Fray Caerdydd – mae’r {fray} yn dod i’n prifddinas ni, y Caffi cyntaf ym Mhrydain. Ddim yn debyg i fod yn ddwyieithog iawn, oni bai eich bod chi’n mynnu dweud eich storiau eich hunain yn eich iaith eich hunain.
Among the Birds of the Yosemite – erthygl gan John Muir, o’r Atlantic, Tachwedd 1898.
filmwritten – cylchgrawn am ffilmiau gan rywun sy’n hoffi rhestrau.
Gweflogiau o Wlad yr Iâ – yn ôl hyn mae 4500 o weflogiau yn Islandeg, a 700 yn Llydaweg. Sgersli bilîf.
Cit adeiladu chwedlau hanesyddol. Defnyddio lluniau o dapestri Bayeaux i ddweud dy storiau dy hunan.
Carlisle, Pa, yw’r dre lle aeth fy nghyn-wraig i’r coleg. Do’n i ddim yn gwybod tan nawr taw honno yw’r dre lle lansiwyd y prosiect i ieithoedd brodorol America.
H–stsonaten (Ingmar Bergman, 1978). Pan ddechreuodd y ffilm oedd Philippa yn cerdded trwy’r lolfa a dwedodd hi “dyna un o fy hoff ddarnau o gerddoriaeth”. Arwydd dda. Ffilm fendigedig gan fy hoff gyfarwyddwr newydd. Nid bod Bergman yn newydd wrth gwrs, ond mae’n newydd i fi, a dim ond fi sy’n cyfrif. Fi, fi, fi.
A dyna stori’r ffilm, hefyd.
Dekalog, piec (Krzysztof Kieslowski, 1988). Dyma’r unig un o’r cyfres dw i wedi ei gweld o’r blaen, yn y fersiwn hwy Straeon Fer am Ladd. Yn fwy confensiynol yn ei naratif na’r ffilmiau eraill, gyda dwy hanner i’r stori: dyn ifanc yn lladd dyn henach; y dyn ifanc yn cael ei ladd gan y Gwladwriaeth wedyn. Diddorol bod y gyrrwr tacsi sy’n cael ei ladd yn y hanner gyntaf mor gas ynddo ei hunan â’r boi sy’n ei lofruddio.
Dekalog, cztery (Krzysztof Kieslowski, 1988). I’r ail ddisg o’r set cyntaf, a stori am fenyw ifanc sy’n byw gyda’i thad a beth sy’n digwydd ar ôl iddi ddanganfod nid ei thad yw e. Falle. Mae Kieslowski yn rheoli’r fesul elfennau a thensiynau yn y stori hon fel meistr.
(Diawl, dw i’n sgwennu sbwriel trite weithiau. Dyna beth dw i’n cael am ddechrau yfed am 9.00 y bore.)
Diolch i Steve draw ar languagehat am dynnu fy sylw at gasgliad anhygoel o lawysgrifau Cymraeg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Nid jyst unrhyw lawysgrifau, ond pethau fel Llyfr Coch Hergest, a fersiwn o ambyti 1400 o gyfraith Hywel Dda.
Mae safon y sganiadau yn anhygoel, hefyd.
Gawn ni nhw yn ôl nawr, plîs?
Stand Up And Swear (mp3) – sleisen bach o bync gan fand o Gaerdydd, Sammo Hung.
Mae Ron Davies wedi ymosod ar agwedd ei blaid tuag at yr iaith a’i siaradwyr.
On the Welsh language, he argued: “Consensus is starting to break up and you hear views within the Labour party that are frankly unacceptable – terms of abuse about people who speak Welsh, about the language.”
He said this included “very senior” figures within the party.