Dead or Alive: Hanzaisha (Takashi Miike, 1999), Movietrak. Roedd cwpl mwy o ffilmie Takashi Miike yn fy rhestr Movietrack, a dw i wedi symud nhw i lawr y lein tipyn bach. Nid mod i ddim am eu gwylio, ond dw i ddim am eu gweld nhw eto. Ar ôl gweld un o’i ffilmie ti’n teimlo fel dy fod di wedi bod yn chwarae gêm cyfrifiadur ultraviolent am chwech awr, wrth yfed Redbull a fodca a gwrando ar Motorhead, yn fyw, yn dy lolfa, jyst fel yn The Young Ones.