Mae Metafilter wedi darganfod y Tlysau, ac mae llawer o stwff newydd yna.
Ffotograffau o Gapel Celyn (Tryweryn), 1957-65.
Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Bont Trefechan, Aberystwyth, 7 Ionawr 1963
Oedd iaith y stryd yn Lloegr Elisabeth y Gyntaf yn waeth nag iaith fryntaf heddi, yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Warwick.
Massive overuse inevitably weakened the impact of ‘whore’ as a term of abuse, but speakers were able to draw on a rich lexicon of synonyms, such as jade, quean, baggage, harlot, drab, filth, flirt, gill, trull, dirtyheels, draggletail, flap, naughty-pack, slut, squirt, and strumpet, generally heightened by adjectives such as arrant, base, brazenfaced, or scurvy.
Dzika Cherry – ail fersiynau o glasuron Zeppelin, a stwff gwreiddiol gan fand o Wlad y Pwyl. Annwyl iawn.
Victor Jara – MP3au o bethau prin. Rhaid i mi gyfaddau dw i erioed wedi clywed Jara, a dw i heb lawr lwytho’r stwff yma eto, felly dw i ddim yn gwybod pa mor dda ydyw, ond mae cân Dafydd Iwan amdano yw un o’r caneuon D.I. dw i’n gallu gwrando arno.
Adnoddau cerddoriaeth brodorol yr Amerig – llawer o ddolenni. Dim amser ’da fi archwilio nawr.
GeekMaids. Siwr o fod yr unig wasanaeth morwyn sy’n dod lan ar ymchiliadau Google am opensource personal.library.
Llawer mwy o bethau diddorol ar y safle Alaskool.org:

Lluniau o’r llyfr Men of the Tundra, am bobl frodorol Alaska a weinyddodd yn myddin yr UDA yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Y diweddaraf ar yr achos “peidiwch siarad Sbaeneg” yn swydd Sarpy, Nebraska (gweler…).
Reagan said his decision was in no way culturally biased, as some have charged.
“I told him specifically he could teach her Spanish, her cultural, ethnic values. I’d encourage it,” said Reagan.
Reagan said his ruling has been taken out of context, resulting in negative media attention. He hopes the incident will force people to look at the way they treat others. “Probably we should all look at that from time to time and make sure our own actions don’t offend people.”
A phwy yw’r “we” yma? Pobl sy’n siarad eu hiaith eu hunain gyda eu plant eu hunain, neu’r awdurdodau sy’n dweud wrthynt i beidio? Dw i’n gwybod pa un sy’n edrych yn fwy sarhaus i mi.
Mae stori hon am yr angen, yn ôl llywodraeth Indonesia, feithrin iaith swyddogoly wlad er mwyn “uno” y wlad yn dangos pa mor beryglus yw’r ddadl hon.
As Minister Abdul Malik Fadjar said, “Since the cause of rebellion is a lack of nationalism, the teaching of Bahasa Indonesia can boost the sense of nationalism and thus overcome rebellion.” It sounds simplistic, but it has some truth.
Dyw hynny ddim yn unig yn simplistic, mae’n hefyd yn fascistic.
Mae dros 300 o ieithoedd yn cael eu siarad yn Indonesia.
Yn Nhwrci, mae awdurdodau wedi cau dosbarthiadau Cwrdeg achos dyw’r drysiau ddim yn ddigon llydan. Wir yr.
During a preliminary inspection at the centre in Batman city in mainly Kurdish southeastern Turkey this week, inspectors established that the doors of its six classrooms were 85cm wide, whereas the rules said they had to measure 90cm.
(Dim jôcs am enw dinas Batman, da chi.)
Gan gofio nad oedd gan yr iaith Cwrdeg unrhyw statws nes i Dwrci trial ymuno â’r EU, dydy hi ddim yn syndod bod yr awdurdodau ddim yn gefnogol iawn i ymdrechion dysgu’r iaith, sbo.
Les Triplettes de Belleville (Sylvain Chomet, 2003) – welais hon mwy neu lai ar hap yn yr UGC, dro diwetha o’n i yng Nghaerdydd. Dewis rhwng hon a Spirited Away ydoedd, ac oedd llai o blantos Sadwrn a’u mamau blin yn mynd i hon, felly bant â fi i fyd swynol ac afreal Sylvain Chomet. Ro’n i’n mwynhau cymaint o bethau am y ffilm hon (y cerddoriaeth, y mathau gwahanol o amineiddio, y cymeriadau deniadol ond tywyll) wnes i ddim sylwi tan tua’r diwedd nad oedd unrhyw dialog i sôn amdani yn yr holl ffilm.
Hoff olygfa: pysgota a choginio gyda un o’r chwiorydd.
101 Reykjavk (Baltasar Kormkur, 2000) – y ffilm gyntaf i mi gael o glwb ffilmiau y Guardian, ac yn ddechreuad da iawn. Mae Hilmir Snr Gunason, yr actor sy’n chwarae’r prif rôl yn spitting image i Gruff Rhys y Super Furry Animals.
Persona (Bergman, 1966) – rhan o fil dwbl o’r Guardian, ac yn well hyd yn oed na’r Seventh Seal. Un o’r ffilmiau ’na sy’n fel cael dy fwrw i lawr gan lori llawn o’ch ofnau a neuroses. Ddim llawer o hwyl, ‘te, ond ffilm wych.
Det Sjunde Inseglet (Ingmar Bergman, 1957) – The Seventh Seal i chi. Ydy e’n bosib mod i ddim wedi gweld hon cyn nawr? Wel, ydy, ond mae rhyw frith gof ’da fi amdani, felly mae’n eitha posib mod i wedi gweld e. Mae’n hollol wallgo, a bendigedig. Ces i hon o’r Guardian.
Metropolis (Tar Rin, 2001) – DVD o’r llyfrgell. Dyma’r anime cyntaf i mi weld ers Akira, a joiais i mas draw. Falle dylwn i fod wedi’i gwylio yn Siapaneg gyda is-deithlau, ond es i am y fersiwn Saesneg, oedd wedi’i wneud yn llawer well nag o’n i’n disgwyl.
Welais i hon heno, ond y gweddill o’r cofnodion dw i am wneud nawr yw am ffilmiau dw i wedi eu gweld yn yr wythnosau diwetha ond heb nodi yma. Dw i ddim yn gallu cofio pryd welais i nhw, a does dim ots ’da neb ta beth, felly dw i jyst am eu rhestru nhw, er mwyn cofio pa ffilmiau dw i wedi eu gweld.
Noson “cerdd a chawl” yn caffi’r Emlyn, Tanygroes heno. Da iawn, hefyd.
Dw i ddim yn cofio darllen yr adolygiad hwn o Two-Lane Blacktop o’r blaen.
Twmpath wedi’i drefnu gan Cyd Llambed heno yn y Llew Du, Llambed. Do’n i ddim yn bwriadu dawnsio, ond wnes i graco erbyn y ail ddawns. Damo chi, Hen Speckled Hen!
Dw i wedi gweld eisiau blog Pat ers iddo gymryd hoe oddi wrtho. Nawr dw i’n ffeindio ei fod e wedi bod yn malu awyr ar flog livejournal. Y fastad.
A beth digwyddodd i’r blog Cymraeg?