Tocher

Tocher
(gwaddol, yn Albaneg, o’r Aeleg tochradh). Cylchgrawn o astudiaethau gwerin Yr Alban. Popeth o ryseitiau (“Caws napcyn”? Miam miam.) i storiau am fragu’n anghyfreithlon:

This old neighbour of mine, he had a small pot of his own and the pot was leaking, and here comes this day an exciseman, and he would pay any man that would show him where a still pot was and this man says to him, “Well, I could show it to you, but I’m afraid – I don’t like to do it. ” “Well, ” he says, “you show me the pot and I’ll smash the pot and I don’t ask who the pot belonged to.” “So, ” he says, “I went with him and I showed him my own pot that was leaking and he told me to smash the pot and so I did, and he gave me £5 for my work. That got me a new pot and a few pounds in my pocket. ” That’s the way he had him deceived and he was none the wiser.

Posted in Heb gategori | Tagged

Campwaith dewin hynod

‘History of the British Bards’, Iolo Morganwg – 71 tudalen o lawysgrif Iolo. Blasus!

Mae’r llawysgrif hon yn cynnwys nodiadau gan Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) ar gyfer llyfr y bwriadai ei gyhoeddi o’r enw ‘The History of the British Bards’. Fel llawer o’i gyfoeswyr, credai Iolo mai’r beirdd Cymraeg oedd etifeddion dysg a thraddodiadau Derwyddon yr hen fyd. Haerodd Iolo fod Derwyddiaeth wedi goroesi, yn ei ffurf buraf, ym Morgannwg, ei fro enedigol. Creodd gorff enfawr o athrawiaethau a ffugiadau llenyddol i gyfiawnhau’r haeriad hwnnw.

Posted in Heb gategori | Tagged

Fyl’na weden i

Darlith yn Neuadd Talgarreg heno gan Huw Evans a Marian Davies, a sgwennodd y cyfrol Fyl’na weden i, ta beth yng nghyfres Llyfrau Llafar Gwlad. Darlith am dafodiaith canol Ceredigion oedd hi, a phleser ydoedd i’w chlywed yn ei holl ogoniant.

Pleser hefyd, ac yn fwy anarferol, oedd clywed Huw Evans bod yn ddigon gonest i ddweud bod “iaith y dysgwr” yn gallu taro clystiau brodorol fel rhywbeth braidd yn bigog a lletchwith. Dwedodd e fod “gwell iaith Alun Cilie nag Alun Michael”, sy’n ddigon teg.

Ond faint o bobl sy’n symud i gefn gwlad Cymru sy’n llwyddo dysgu Cymraeg cystal ag Alun Michael? 1% ohonynt? Go brin.

Mwy o dlysau

Mae Casglu’r Tlysau mor dda, sa i’n credu bydd angen i mi flogio unrhywbeth arall am sbel. Mae sawl blogwr wedi codi’r bêl ers iddo ymddangos ar Metefilter yn gynnar yr wythnos ’ma, ac mae pawb yn ffeindio pethau diddorol. Dyma rhai a ddewiswyd gan mirabilis, gweflog o Ganada:

Cerrig Coffa Cynnar (dyw teitl y tudalen yna ddim wedi’i gyfieithu – drueni, achos mae safon y cyfieithu ar y wefan yn eitha uchel ar y cyfan).

Llawer o bethau yn yr adran coginio: bergwn, stamp bara Rhufeinig.

A dyma dyddiadur Edward Roberts, Llanrug (cefnder i John Morris Jones), a allfudodd i Awstralia yn 1886. 89 tudalen, sganiadau safon uchel, ond yn well byth, adysgrifiadau hawdd i’w darllen (ac i’w copïo). Daw yr isod o ddechrau y dyddiadur:

Mai 16eg 1886

Cychwynais o Panthafodlas haner awr wedi pump nos Sul, Mai yr unfed ar bymtheg gan adael Tad a Mam a Chwaer. Teimlo fy hun yn bur ddigalon wrth feddwl am y daith sydd o fy mlaen, ac hefyd ymadael a fy nghartref hwyrach yn colli fy ngolwg arno am y tro diweddaf ac etto mewn gobaith y gallwn gyfarfod cin hir, ond yr oedd riw hiraeth ynof am gael gweled fy mrawd John yr hwn sydd wedi ymadael ers sai[th] mlynedd, riwbeth tebig i hyna oedd ar fy meddwl pan y cychwyn. Byddaf yn cofio tra byddaf buw am y llwybr a gymerais i gychwyn, heibio talcan y ty gwair, ac i’r mynudd wrth gefn y ty yna i gae talcan tyuchaf ac heibi[o] ty Canol i lawr i’r ffordd, yno yr oedd amriw yn fy nghyfarfod a bu raid [f]farwelio. Aethym i lawr i Carnarvon gydag amryw gyfeillion …

Posted in Heb gategori | Tagged

Cysgu a dysgu

Mae ymchwilwyr yn Chicago wedi darganfod cysylltiad rhwng cysgu a dysgu iaith:

Scientists at the University have demonstrated that sleep has an important impact on improving the ability to learn language. The researchers found that sleep improved the ability of students to retain knowledge about speech produced by a computer, even when the students seemed to forget some of what they had learned during the day before a nightís sleep.

Henry Jones

Amgueddfa Syr Henry Jones, Llangernyw.

Roedd Henryín athronydd ac yn athro disglair, y dylanwadwyd ar ei waith yn fawr gan weithdyír crydd a bywyd yn ei bentref genedigol. Nid anghofiodd ei dras werinol fyth a gweithiodd yn galed i wellaír system addysg yng Nghymru.

Posted in Heb gategori | Tagged

WWOOF

Mae gwefan WWOOF wedi’i hail-wampio. Prif welliant yw’r llun ohonof innau yn y gif wedi’i animeiddio ar y ffrynt, a’r lluniau o ein lle ni tu mewn.

Dweud y gwir, dyn ni’n meddwl am adael WWOOF gan nad yw amser ’da ni i gymryd gwirfoddolwyr, a phrin iawn yw’r gwirfoddolwyr sy gyda diddordeb yn yr iaith Gymraeg.

Welsh Not

‘Welsh Not’ o Ysgol y Garth, Bangor a’r un o Ysgol Llangernyw.

Llyfr log o Ysgol Brydeinig Towyn:

Mae’r Llyfr Log hwn yn cynnwys sawl cyfeiriad at ymgais y prifathro, Mr Edwin Jones, i rwystro’r plant rhag siarad Cymraeg yn yr ysgol. Ar y tudalen a ddangosir yma (14 Awst 1863), ysgrifennodd: ‘I feel at a loss to know the best method to adopt in order to prevent the children generally from speaking Welsh.’ Esbonia ei fod wedi penderfynu defnyddio ‘Welsh stick’ neu ‘Welsh Not’ er mwyn cosbi’r plant sy’n siarad Cymraeg.

Diolch i Chris