Mewn cwmwl tystion #2

Co-evolution of neocortex size, group size and language in humans – erthygl sy’n dal bod ’na derfyn i seis unrhyw cymuned dynol sy’n cael ei osod gan ein gallu o gadw cysylltiadau ystyrlon rhwng grwp eitha cyfwng o bobl. 148 ohonyn nhw, i fod yn fanwl.

Dw i ddim wedi cael siawns i ddarllen hon i gyd, felly dalen nodyn i fi yw hwn. Ond byddwn i’n gwerthfawrogi ’sai un o’m darllenwyr clyfar yn gallu cael cip arni a rhannu barn.

Posted in Heb gategori | Tagged

Pethau tristaf y byd, #3947

Un o’r gwersi caletaf dysgais i fel plentyn oedd hyn: dw i byth yn mynd i weld ungorn.

Och.

Ie, dw i’n gwrando ar Junior Hits, fy record cyntaf erioed (nid fy nghopi gwreiddiol yn anffodus – diolch byth am sêl cist car Tanygroes), yr un pinc gyda’r eliffant arno fe. Mae annwyd arna i, ocê?

Ond, dych chi’n gwybod beth? Mae’r record ’ma yn fendigedig.

Up, up, and away!

Hapusrwydd y Katakuriaid

Katakuri-ke no kÙfuku (Takashi Miike, 2001), dvd gan movietrack. Nid tan ar ôl y ffilm wnes i sylweddoli taw Takashi Miike yw’r un cyfarwyddwr a wnaeth Audition, y ffilm mwya dychrynllyd dw i wedi gweld, erioed. A hon yw un o’r ffilmiau mwya od dw i wedi gweld, fath o groes rhwng Sound of Music a Day of the Dead.

Dw i wedi rhentu Eraserhead o’r llyfrgell. Sa i’n credu y bydda i’n ei gwylio heno.

Cyfweliad â Miike Takeshi.

Portread yn y Guardian.

Posted in Heb gategori | Tagged

Narc

Narc (Joe Carnahan, 2002), o’r garej. “Police procedural” eitha hen ffasiynol, ond yn fwriadol felly, fel homage i glasuron fel y French Connection (oedd cyfweliad dros ben llestri â Freidkin ar y dvd). Ray Liotta a Jason Patric yn dda iawn. Diweddglo bach yn amlwg, ond ddim digon amlwg i sboilo’r ffilm.

Teitl ofnadwy.

Posted in Heb gategori | Tagged

Ymryson Talgarreg

Ymryson yn nhafarn Glan yr Afon, Talgarreg, dan ofal Dic Jones. Fel arfer, mae’r rhan fwya o’r cerddi yn mynd heibio yn rhy glou i mi gael gafael arnyn nhw, ond mwynheuais i beth o’n i’n gallu deall.

Llyfrgell Fawr Yr Amason

Newyddion da, (gan Languagehat eto: mae Amazon wedi dechrau mynegeio holl destun miloedd o lyfrau. Yn yr erthygl The Great Library of Amazonia mae cylchgrawn Wired yn edrych ar goblygiadau:

….books have remained a dark region in the universe of information. We want books to be as accessible and searchable as the Web. On the other hand, we still want them to be books.

Mae hyn yn anhygoel. Dw i newydd archwilio am enw John Cowper Powys, ac ar ôl y rhestr arferol o lyfrau JCP, mae rhestr llawer mwy cynhwysfawr a chatholig o lyfrau sy’n sôn am ddewin y bwthyn Blaenau. Ymysg y llyfrau sy’n cyfeirio at John Cowper mae pethau y byddech chi’n disgwyl fel Henry Miller a Colin Wilson ond digon o bethau annisgwyledig fel Pulp Friction: Uncovering the Golden Age of Gay Male Pulps a rhywbeth gan Dale Carnegie.

Am declyn handi! Dw i’n gaeth iddo fe yn barod.

Sangschaw, Hugh MacDiarmid

Sangschaw gan Hugh MacDiarmid. Astudiaeth ar Lyfrgell Barddoniaeth Yr Alban. Bathwyd y gair Albaneg sangschaw gan MacDiarmid ei hun:

‘Sangschaw’ offers a variety of meanings: firstly, a show of strength, a display of the ‘weapons in the armoury’ of the Scots language, its actual and potential range of effects, and in this sense, in 1925, a revolutionary ‘call to arms’ in keeping with the recent violent revolutions in Russia (successful) and Germany (unsuccessful). But ‘schaw’ is a wood, giving ‘wood of songs’, creating a sense of primeval or pagan mystery and ritual: not everything in the revolution is derived from the rationalism of the Enlightenment. Taking it a step further, the word ‘schawe’, to sow, gives a sense of these poems being seeds for a new type of song, and of these songs growing, of being cultivated to produce a new poetry or more generally a new culture – a renaissance.

Dyfyniadau o’r gerdd gan Languagehat.
MacDiarmid a Dadeni Diwylliannol Yr Alban.

Facing the Chair – cerdd Saesneg.

Coffeb Hugh MacDiarmid.

Scotland Small?