Tafarnau Cymru

Welsh pubs for St. David’s Day, arolygiadau gan Americanwr (sy’n esbonio pam mae Gwyl Dewi ar y 26 CHwefror, falle). Dim ond dwy yn ei restr ydw i’n gyfarwydd â nhw, sef y Bryn Tyrch, Capel Curig a’r Cottage, Caerdydd. Wedi cerdded heibio’r Skirrid, ond oedd hi ar gau ar y pryd, yn anffodus.

Mae edefyn ar y maes am hoff dafarnau.

Erioed wedi clywed hyn o’r blaen: yng Nghymru dyfeisiwyd Guiness.

Shhhhhh!

Action Figure Llyfrgellydd. Deryn yw hi? Awyren yw hi? Nage, uwch-lyfrgellydd yw hi!

Sy’n atgoffa fi o un o’m hoff jôcs.

Dyn: Ga’ i Big Mac a milc-shêc, plîs?

Llyfrgellydd: Sori syr, ond llyfrgell yw hon.

Dyn (yn dawelach): O, mae’n flin ’da fi. Ga’i Big Mac a milcshêc, plîs?

Dw i fy lladd fy hun.

Posted in Heb gategori | Tagged

Mwy o luniau

Lluniau Inuit, 1899 – 1909. Dim ond detholiad bach.

Ffotograffwyr pobl Gr¯nland.

Cronfa ddata o luniau cynnar o’r un ynys, rhyngwyneb yn Daneg, felly bach yn anodd i bobl di-Ddaneg fel fi i ffeindio pethau, ond mae llwyth o stwff da ynddi. Wnes i drial ymchwilio am inuit ac mi ges i dros hanner cant o luniau bendigedig o gan mlynedd yn ôl. Triwch geiriau allweddol eraill fel inughuit, mÊnd, neu portrÊtter.

bachgen.jpg

Ieithoedd siwtsiadwy

Post ac edefyn am sgyrsiau dwyieithog ar kottke.org (sy’n enwog am resymau does neb yn eu deall). Dw i’n cofio clustfeinio ar sgwrs un o’m gyd-weithwyr yn siop Oriel, amser maith yn ôl, lle oedd hi’n siarad â’i mam ym Mhesda ac yn newid iaith hanner ffordd trwy bob yn ail frawddeg. Ar yr pryd, wrth gwrs, roedd fy Nghymraeg i’n denau iawn, felly oedd yr effaith yn od iawn, tipyn bach fel y sgets Fast Show gyda’r hen ddyn feddw.

via anil dash

Posted in Heb gategori | Tagged