Mae na’ bobl yn y byd gyda chymaint o amser sbâr ar eu dwylo eu bod nhw gallu neud lluniau fel hyn:

allan o giwbiau Rubic.
Mae angen mwy o bobl fel hyn yn byd.
Llai o waith, nawr!
Mae na’ bobl yn y byd gyda chymaint o amser sbâr ar eu dwylo eu bod nhw gallu neud lluniau fel hyn:

allan o giwbiau Rubic.
Mae angen mwy o bobl fel hyn yn byd.
Llai o waith, nawr!
Nis beth mae Cravos yn ei wneud, ond bag bach smart i dy benliniadur. Neis.
via boing boing
(Dw i’n jyst blogio ar gyfer fy hunan nawr – pethau sy’n edrych yn ddiddorol ond does gen i ddim amser i archwilio yn fanwl tra mod i yn y Steddfod.)
Posteri y 40au a 50au – merched del o’r Oes Aur y cylchgrawn girlie.
Cyweliad diweddar â Noam Chomsky. Mae’n sôn am bropaganda, a’i rôl yn Ryfel y Gylff Rhan II, sy’n ddigon cyfarwydd yn unrhywun sy wedi darllen Chomsky, ond hefyd mae’n sôn am Blaire, a rôl Prydain fel juniour partner yr Americanwyr.
Tony Blair is a good propaganda agent for the United States: He’s articulate, sentences fall together, apparently people like the way he looks. He’s following a position that Britain has taken, self-consciously, since the end of World War II. During World War II, Britain recognized—we have plenty of internal documents about it—what was obvious; Britain had been the world-dominant power and it was not going to be after World War II—the U.S. was going to be. Britain had to make a choice: Is it going to be just another country, or is it going to be what they called a junior partner of the United States? It accepted the role of junior partner. And that’s what it’s been since then. Britain has been kicked in the face over and over again in the most disgraceful way and they sit there quietly and take it and say, “Okay, we will be the junior partner. We will bring to what’s called the coalition our experience of centuries of brutalizing and murdering foreign people. We’re good at that.” That’s the British role. It’s disgraceful.
via Bratiaith Blog.
Dyma fi ym Meifod, lle mae’n uffarch o boeth, ac yn swnllyd (dw i ym mhabell yr ieienctid). Treuliais i’r dydd ddoe gyda phenmaenmawr ar ôl Parti Penblwydd maes-e – braf i gwrdd cymaint o bobl a rhoi wyneb i’r enwau.
Mae maeswyr ym mhobman (mae un yn eistedd drws nesa i mi nawr, siawns).
Jyst yn paratoi am fynd i’r Steddfod fory. Wedi cael wythnos anygoel o fishi, gan ddysgu ar gwrs Llambed – grwp bendigedig o ddechreuwyr rhonc, sy wedi dysgu mwy mewn wythnos nag dw i’n arfer dysgu mewn hanner tymor. Gwaith caled, ond yn werth ei wneud.
Gair bach ola am y Blogathon. Y cyfanswm terfynol oedd Ł542, sydd bron digon i dalu am un rali Cymdeithas yr Iaith. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth fy sbonsro, ac i bawb a ddaeth draw ar y dydd i ddweud helo. Gobeithio bydd mwy o flogwyr Cymraeg y flwyddyn nesa.
Fydd dim ypdêts am wythnos, oni bai mod i’n ffeindio rhywle ar faes yr Eisteddfod lle alla i bostio rhyw bwt bach.
Gwela i chi ym Meifod!