Clirio bach o faw o’r ffynnon

Picedu Stryd Street-Porter: adroddiad gan Aran Jones.

ac yng nghanol Hawick, mae ’na cerflun efo sgrifen arni – ‘Ter y bras ye ter y odin’ – mae pobl Hawick yn galw eu hunain yn ‘Teris’ oherwydd hynna. Hen Gymraeg ydy’r peth – tir bras yw tir Odin…

a chi’n sylweddoli bod chi wedi bod yn cerdded trwy fynwent yr iaith Gymraeg. chi ‘di gweld pa beth yw marwolaeth yr iaith. atsain yn yr enwau, ambell hen sgrifen, a neb cyffredinol hyd yn oed yn gwybod bod y ffasiwn peth wedi bodoli.

a chi’n dreifio adref yn gwybod bod chi wedi gweld dyfodol Cymru – os na wnawn ni ennill.

Mae sylwadau ar gau