Mae Mellow-Drama
yn blogio hen yskol – hynny yw llawer o ddolennau, nid jyst “Oh, wow, I’m tired already”. Rhywbeth i sieco eto unwaith bod gyda fi digon o amser i ddilyn y dolennau.
Continue reading
Monthly Archives: Gorffennaf 2003
Matchimanito
Matchimanito – stori fer gan Louise Erdrich.
We started dying before the snow, and, like the snow, we continued to fall. We were surprised that so many of us were left to die. For those who survived the spotted sickness from the south and our long fight west to Dakota land, where we signed the treaty, and then a wind from the east, bringing exile in a storm of government papers, what descended from the north in 1914 seemed terrible, and unjust.
500!
Diolch i Nwdls dyn ni wedi cyrraedd 500! Hanner mil o bunnoedd! Neis wan bois.
Reit, beth am fynd am y fil? ![]()
Continue reading
Multiple Intelligences
Mae Gwyn, sef tad y merched, wedi gofyn i mi flogio am y theori o aml-ddeallusrwydd. Yn fras iawn, dyma’r theori sy’n dweud bod gan pawb sawl math o ddeallusrwydd ynddynt , a bod y profion traddodiadol dyn ni’n defnyddio i fesuro deallusrwydd yn tueddu canolbwyntio ar un neu ddau ohonynt (geiriol, rhesymegol ac weithiau gofodol) ar draul rhai o’r eraill (cerddoral a rhyngbersonol er enghraifft)
Datblygwyd y theori gan Howard Gardner, sy’n gweithio ar Prosiect Sero yn Harvard.
Mwy o erthyglau, gan gynnwys un gan Bruce Campbell! O, nid yr un oedd yn yr Evil Dead.
Continue reading
Paradwys? Rhyl?!
Mae Hedd Gwynfor yn dweud does dim byd ar y we am Rhyl Football Club / Clwb Pêl Droed Y Rhyl (oni bai am eu gwefan swyddogol, wrth gwrs
Beth am y safle ffan yma? Neu’r un ’ma, am hynny?
Mae gan UEFA tudalen amdanyn nhw. Ac mae modd i ddarllen tipyn o’u hanes yn Almaeneg, os wyt ti moyn.
Safle ffan arall (sdim lot ’na).
Digon am nawr?
(Dyma cofnod #1500 i Morfablog! Dw i’n cehrau teimlo yn hen.)
Continue reading
James Michael Starr
Ddim yn cofio ble clywais i am hyn, ond mae gwaith James Michael Starr yn arbennig o dda. Gludweithiau, bocsys, croesau, popeth.

The Spectrum and
the Light
Continue reading
Sbonsor newydd!
Diolch i Osian!
490!
Bywyd mewn bws
Rolling Homes – lluniau o hen lyfr am cartrefi symudol. Oedd gen i ffantasi am fyw fel hyn amser maith yn ôl, ond sa i’n credu byddai fe wedi fy siwto fi.

Continue reading
Arglwydd!
Mae Neil wedi gofyn i mi flogio rhywbeth am Lord of the Rings. Beth am LOTR mewn Lego? Neu wefan sy’n dweud lle allwch brynu’r deunydd i wneud mantell fel eich hoff gymeriad? Nid lluniau “slash” hoyw (sy ddim yn saff i’r gweithle, wrth gwrs) siwr o fod, ond beth am gêm ar-lein?
Falle gawn ni ffeindio mwy o stwff LOTR i fwydo obsesiwn Neil nes ymlaen, ond mae’n amser swper nawr, a dw i’n teimlo braidd yn hobbitaidd fy hun.
Continue reading
Fel y mamau y ceir y plant
Sdim rhyfedd bod Carys ac Iona mor dalentog gyda mam fel Helen. Dyma llun dyfrlliw ganddi o un o’r wniwns mas o’n gardd ni. Rho glec ar y dolennau i gael sgrinlun i ddod â dagrau i’th lygaid.

800×640 | 1024×768
Continue reading
MP3 Edward Furlong ar gael drws nesa
MP3au i’w lawrlwytho ar malbela.com, ein cymdogion ar y cylchwe
Continue reading
Yozaah!
Ebost newydd ddod i mewn:
Gruff has just sponsored you for a total of 30!
Diolch yn fawr Gruff!
Continue reading
Clangers!
Ar hafan y Clangers mi gei di batrymau i wneud dy Glangers dy hun.
Diolch yn fawr i Mike Greenwood am ddweud am hyn. Mike yw un o’r dysgwyr o’r dosbarth Wlpan sy wedi fy sbonsro. Mae e’n ffan y Clangers hefyd.

Mwy am y Clangers:
- Gwefan y BBC gyda clipiau fideo
- Magnedau Oergell y bobl bach pinc
- Miniatur Pwdin Llinyn Glas
Amser coffi, dw i’n meddwl.
Continue reading
Llun o’n Cegin gan Iona
Dw i’n credu bod rhywun wedi bod yn ymarfer ei sgiliau artistig. Mae hwn yn arbennig. Dyma llun o’n cegin, gan Iona, chwaer Carys. Y fath o beth fyddai wedi wneud i ti ddweud “Diawl, mae hynny’n dda am ddeg oed, chwarae teg” wrth wylio rhaglen Tony Hart.

“Yn Y Gegin” gan Iona
Continue reading
Cerys, Cerys
gwefan Cerys Matthews – mae na lwyth o stwff da yn yr adran “Downloads”. Drueni fod yr holl safle yn Saesneg.
Llun hyfred gan Iona yn y man.
Continue reading
Medi gan Carys
Dyma lun ardderchog o’n cath ni Medi, gan ein gwestai arbennig, Carys Angharad Jones, 7 oed, o’r Wyddgrug. Rhowch glec ar y llun i weld y cath fawr.

“Medi” gan Carys
Diolch Carys!
Continue reading
Amgueddfa Ffalwsyddiaeth
Un o’r manteision bod yn gymedrolwr yw bydda i’n gallu dwyn dolennau diddorol o’r safleoedd dw i’n i fod i gadw llygad arnyn nhw. Dyma un oddi wrth more miserable musings: Amgueddfa Ffalwsyddiaeth Gwlad yr Iâ (dw i newydd fathu’r gair ffalwsyddiaeth, iawn?)
The Icelandic Phallological Museum is probably the only museum in the world to contain a collection of phallic specimens belonging to all the various types of mammal found in a single country.
Bishi, bishi, bishi
Wedi dechrau fy ngwaith fel cymedrolwr, felly dw i’n mynd i fod yn fishi am awr neu fwy.
Cwpl o ddolennau ‘te.
Dyma un a’i ymgrymodd gan Alys, o’r maes:
Star Dudes – fersiynau Flash o’r ffilmiau Star Wars. Bendigedig! Joia’r parti heno Alys.
Continue reading
Bant â ni!
Mae Iona a Carys yma i helpu gan greu lluniau arbennig i mi droi’n bapurau wal i’ch cyfrifiaduron chwi, annwyl ddarllenwyr, felly dyn ni’n barod i fynd, dw i’n credu. 24 awr o flogio yn ddi-stop. Yikes.
Peidiwch bod ag ofn y botwm sbonsro nawr – byddwch chi’n gallu wneud eich ernes tan 2.00 prynhawn dydd Llun.
Continue reading
450!
Dyn ni wedi cyrraedd 451.40 diolch i rywun annwyl iawn sy wedi rhoi 40. Diolch yn fawr iawn person annwyl iawn!
Continue reading