Tai a Chartrefi yng Nghymru yn ystod Oes yr Haearn – rhan o’r wefan godidog, Clasglu’r Tlysau.
Continue reading
Monthly Archives: Gorffennaf 2003
Cwtshes i Cat
Jyst rhag ofn nag wyt ti’n darllen y Saesneg tu ô i bob cofnod, ddylet ti ddim colli gwefan Frykitty. Cat Connor yw’r rheswm dyn ni gyd yn dechrau rwbio ein llygaid erbyn hyn, ond heb ei gweledigaeth hithau, fyddai dros $80,000 ddim wedi cael ei roi i achosion da rownd y byd. Ac mae ei blog yn werth ymweld â fe – mae hi’n blogio am amgueddfeydd ar-lein. Bydda i’n treulio llawer o amser yna, unwaith bod llawer o amser gyda fi.
Continue reading
Beth sydd ar y we am y Drenewydd?
Hen fapiau y Drenewydd – mapiau o Oes Fictoria.
Bywyd Robert Owen (Saesneg).
Fersiwn Cymraeg o wefan archifdy y Sir. Fersiwn Saesneg, neu default fel maen nhw’n galw fe.
Ti’n iawn Geraint, sdim lot am y Drenewydd ar y we. Dim ond 9 awr sydd ar ôl ’da fi. ![]()
Continue reading
Beth sydd ar y we am y Drenewydd?
Hen fapiau y Drenewydd – mapiau o Oes Fictoria.
Bywyd Robert Owen (Saesneg).
Fersiwn Cymraeg o wefan archifdy y Sir. Fersiwn Saesneg, neu default fel maen nhw’n galw fe.
Ti’n iawn Geraint, sdim lot am y Drenewydd ar y we. Dim ond 9 awr sydd ar ôl ’da fi. ![]()
Continue reading
Here comes that steamboat!
Amgueddfa Agerfadau – popeth ynglyn â’r gwestai arnofiedig o’r Unol Daleithiau.
Continue reading
Taith i’r paith
Ar y paith – popeth am fywyd ar beithiau gogledd America. Allwch chi adfer y peithiau?
Dyfyniadau gan un o broffwydi y peithiau, Aldo Leopold.
Acts of creation are ordinarily reserved for gods and poets, but humbler folk may circumvent this restriction if they know how. To plant a pine, for example, one need be neither god nor poet; one need only own a good shovel. By virtue of this curious loophole in the rules, any clodhopper may say: Let there be a tree–and there will be one.
Flame of God – traethawd.
Detholiad o PrairyErth, William Least Heat-Moon.
Continue reading
Gleision Genghis
Genghis Blues – ffim sy’n dweud stori Paul Pena, gitarydd a chanwr gwddwf o Americanwr, a’i deithiau ym Mongolia. Cafodd y ffilm ei henwebu am Oscar yn 2000 yn y catagori dogfennol. Dyma am Pena a’r ffilm. Mwy am Tuva, yr ardal lle ffilmiodd y stori.
Continue reading
Hoffet ti sos mintys gyda hynny?
MP3s DJ Lambchop. Falle bydd y rhain o ddiddordeb i Jon draw ar hiphopanonymous. Oedd Lambchop yn arfer hongian o gwmpas ar y maes, ond so ni wedi’i weld e ers sbel. Ble mae Lambchop wedi mynd?
Continue reading
Goodie, Goodie, miam, miam
Goodies Rule OK? Gwe-ffan swyddogol y Goodies.
Bill Oddie. Dyn neis?
Graeme Garden. Gwallgo?
Tim Brooke-Taylor. Ffan Derby County?
Continue reading
Siwper Ffyri Animals
Super Furry Logic – safle ffan numero uno i’r band gorau yn y byd. Llond sachaid o ddolennau anhygoel o flewog.
hanner ffordd trwy’r Blogathon, a hwn yw cofnod #1515. Dyn ni’n hoffi cydweddoldeb, er do’n i ddim yn gallu sillafu fe heb edrych yn y geiriadur.
Continue reading
Deffro, Dafis!
Dw i wedi bod llawr rhy ddiog ynglyn â fy nghyfrifoldebau fel aelod tîm cymedrolwyr They Might Be Monitors. Rhaid i mi shapo. Mae pwynt hanner ffordd ar y gorwel. Nid mod i’n galle gweld y gorwel.
Paid anghofio sieco allan gwefan y tîm arall: The Yellow Darts
Continue reading
Hud a lledrith Mynci
Fe wnes i flogio’r pennau desg Monkey draw ar y maes diwrnod o’r blaen, ond sa i’n credu mod i wedi sôn amdanyn nhw yma.
Continue reading
A fydda i ‘ma am 2.00 dydd Sul?
Wel, yn ôl y cwis ’ma…
A fyddi di’n goroesi’r Blogathon?
P’shaw!
Continue reading
Chrissy
Biniau, biniau, ym mhob man
Sbwriel! – diolch i Chris, sy’n dathlu ei ben-blwydd heno yng Nghaerdydd, dyma erthygl diddorol iawn ar Bins and the history of waste relations:
Despite their innocent appearance, dustbins occupy a critical position in any narrative of waste management. Being situated at the interface of private lives and household practices, on the one hand, and public health and environmental management on the other, dustbin technologies provide a revealing indicator of waste-relationships within society.
Awaye!
Awaye – Radio Brodorol Awstralia. Un o’r mil o bethau o’n i’n bwriadu wneud ar gyfer y Blogathon eleni, ond wedi methu, oedd trefnu sgwrs gyda fy ffrind Barbara yn Perth. Tro diwetha welais i hi, oedd hi’n sôn am radio “brodorol” Awstralia, a chyn-lleied o iaith “draddodiadol” (ei gair hi) sydd i’w chlywed arno. Dwedodd hi taw bob tro ti’n rhoi meic o flaen dyn croen du yn Awstralia mae e’n dechrau siarad Saesneg.
Diddorol, achos bod rhywbeth tebyg yn digwydd yma yng Nghymru.
Continue reading
Chwilio am bishyn?
Pishyn.com yw’r “unig wasanaeth canlyn Cymraeg yn y byd i gyd”. Cei di ymuno am ddim, fflyrto gyda’r Cymro/Cymraes o dy ddewis, hala e-gusannau atynt a wneud pob math o bethau na fyddai dy fam yn hapus amdanyn nhw.
Continue reading
Maffology
Dyma Maff, y blogwr mwya diog yn y byd. Mae Maff yn hoffi Metallica.com, basil a rhyw (nid ar yr un pryd, debyg). Mae ei arwyr yn cynwwys Esgob Caer Faddon a Wells a Kieffer Sutherland. Mae ei hoff fwyd yn hufen iâ o Gernyw, a’i hoff ddiod, bron â bod ei unig ddiod, yw cwrw go iawn. Mae e’n efengylwr Afal a, fel fi, mae’n diodde gyda’i gefn.
iawn, Maff? ![]()
Continue reading
Jude! Cheese!
Jyst rhag ofn i fy hen ffrind a noddwr Jude ddod yn ôl i sieco mod i wedi ffeindio rhywbeth am y Goodies, dyma Thonblogwr sy’n blogio am hoff bwnc Jude: caws.
Mark: Had no idea the Quran was so utterly cheeseless.
meringhetta: that’s why the fundamentalists are so intent on suicide. no cheese.
Mark: Makes sense. All this bombing and flying planes into buildings could be solved by some curdled milk.

