1. ‘Rargian mawr, mae’r boi yn dal i fynd! Llongyfarchiadau… erbyn pryd ydy’r peth yn dod i ben?

    Ymlaen Llanelli! Sori, wps, oedd hynny i fod i ddod allan fel ‘Ymlaen Nic!’ ‘Na ni, mae hynna’n well…;-)

  2. Dw i ‘ma tan 2.00 y prynhawn. Dwy awr a hanner i fynd felly. Digon o amser i bobl fy sbonsor. Dweud y gwir, ceith pobl fy sbonsro tan dydd Mawrth. Dweud wrth dy ffrindiau ;-)

  3. Morfuwch anhygoel, chwarae teg i chdi! Wel da iawn, ti bron wedi goroesi’r peth. Diawl, bydd rhaid i mi roi arian i’r Cymdeithas rwan…;-)

    Beth sydd gennyt ti ar y gweill am weddill y diwrnod? Wyt ti’n mynd yn syth i’th wely, neu wyt ti’n mynd i drio i aros yn effro tan heno ‘ma, er mwyn osgoi creu pattrwm jet-lag?

    pob hwyl,
    aran

  4. Cael cawod yn y man, wedyn i’r gwely ar Ùl i’r peth bennu, tan amser swper (6.00). Dw i’n dysgu yn Llambed fory, felly mae rhaid i mi gael noson “normal” o gwsg.

    Diolch am dy holl gefnogaeth.

  5. Iesu gwyn, ti’n dysgu yfory?! Mae angen meddyg arnat ti! Beth am brintio allan yr holl Blogathon ti ‘di sgwennu, a gorchymyn iddynt ei ddarllen tra fod ti’n dangos sut mae rhwyun heb gwsg yn edrych (hynny yw, cysgu!)?…

    Llongyfarchiadau i chdi – efallai na i ymuno yn yr hwyl blywddyn nesaf, os daw’r amser… cawn weld, ynde?!

    Hwyl, a nos da,
    Aran

  6. Dw i’n dysgu dechreuwyr rhonc, felly fydd hi ddim yn rhy annodd fory.

    “Sh’mae”

    “Bore da.”

    “Wela i chi fory.”

    Dyna i gyd.

    Byddai’n wych cael criw o Gymry sy’n blogio tro nesa. Ond dw i ddim am feddwl am hynny am sbel ;)