Ro’n i’n meddwl oedd y Blogathon wedi stopo derbyn noddwyr newydd, ond debyg dydyn nhw ddim eto, achos mod i newydd dderbyn un newydd.

Diolch yn fawr i Branwen!

Y Post Ola

Dyma ni, Blogathon 2003 yn barod am ei gwely. Dw i wedi cael lot o hwyl, wedi codi £500 i Gymdeithas (a gobeithio cael mwy ‘to), wedi gweld llawer o wefannau gwych dw i am gadw llygad arnynt yn y dyfodol, wedi cael gweld y golau cyntaf y gwawr uwchben Llangrannog am 4.15yb, ac mae gen i un ffrind newydd yn fy nheclyn negesydd Yahoo, sef merch o’r enw “filthy_cumslut“.
Continue reading

Prosiectau Difyr

Un o’r pethau gwych am y Blogathon yw dy fod di’n gallu mwynhau eu ffrwythau am wythnos a misoedd ar ôl diwedd y digwyddiad. Mae llwyth o broosiectau diddorol dw i ddim wedi edrych arnyn nhw eto achos diffyg amser, ond dros yr wythnosau sy’n dod bydda i’n casglu perlau o’r rhestr ’na, a’r un gan y grwp cymedrolwyr arall. Mae’r Blogathon yn parhau am byth!
Continue reading

Yr Awr Ola

Dyma ni yn yr awr ola. Dw i wedi ffeindio y Blogathon eleni yn lot haws na’r llynedd, er mod i wedi bod yn fwy bishi, i fod. Dweud y gwir (a fydda i ddim yn cyfieithu hyn ;-) , dw i ddim yn teimlo fel mod i wedi wneud job da o gwbl fel cymedrolwr. Dw i’n cael digon o helpu a chymorthwyo pobl ar maes-e a dwi ddim yn naturiol o gydymdeimladol gyda pobl dw i ddim yn nabod o gwbl, a fydda i ddim yn draws ar eu draws eto.

Mae yn deimlad braidd yn od bod yn rhan o rywbeth sydd bron yn gyfan gwbl uniaith Saesneg – dw i ddim yn difaru mod i wedi cyfieithu fy nghofnodion fy hun, ond ’swn i’n wneud ‘to, fyddwn i ddim yn wneud yn ddwyieithog: ond byddwn i’n trial darbwyllo un neu ddau o’n gydflogwyr Cymraeg i ymuno yn y Thon. Beth amdano am y flwyddyn nesa, bois?
Continue reading

Annedd y Cynghanedd

Annedd y cynganeddwyr – nid y wefan mwya modern ei naws yn y byd, ond lle ardderchog i ymarfer eich crefft fel darpar-fardd, ffermwr-prydydd neu gyrrwr bws-limerigwr. Ti byth yn gwybod beth ti’n mynd i ffeindio ’na, fel yr englyn ’ma gan Mei Mac oedd yn yr oriel.

Gwaeth na’r sÍr at ein fferau, – llawer gwaeth
    na’r lloer gwyn yn ddarnau.
  Gwaeth na phrofedigaethau
  yw’r Cwps, Y CWPS wedi cau!!

Continue reading

Posted in Heb gategori | Tagged

Pastai erotig o’r Eidal

Sut i wneud minni di virgini (tethi’r Morwyn), a’r stori tu ôl iddyn nhw.

The most common of these erotic mouthfuls is the minni di virgini, or Nipples of the Virgin, a custards filled pastry shaped like a woman’s breast and topped with an aroused cherry nipple. Also sold-sans niple-as genovesi. The story behind this delicious pastry, however is less than appetizing.: the pastry commemorated the martrydom of St. Agatha, who had her breasts cut off by Roman pagans for refusing to renounce Christ. This story, however, is thought to be simply a Christianiztion of of an ancient Egyptian rite in which priests carried about a golden breast-supposedly of Osiris-and poured milk libations for the devout.

diolch i Making Light
Continue reading

Smoke like a fish on the water

Morfa Bychan