Newydd sylweddoli bod dau ddydd Mawrth mewn wythnos Morfablog. Duh. Pwy wnaeth y cyfieithiad ’ma, ta beth?

McViking

Sa i’n cofio’r tro diwethaf i mi ddod ar draws blog dw i heb weld o’r blaen ac eisiau darllen yr archifau i gyd, ond mae’n bosib y bydd McViking.org yn ffito’r disgrifiad hwnna. A dim ond Ebrill eleni dw i wedi cyrraedd. Dyma fe wrando ar Hank Williams am y tro cyntaf achos ei fod wedi ffurfio band alt-country heb wybod dim am y cerddoriaeth:

As for Hank — well, what can I say? He sings, he plays, he yodels. He soaks himself in whiskey, loves Jesus, and plays guitar, all at the same time. These are good things. Whatever world Hank is from, it’s one that I’m willing to share for a while.

Dw i newydd fod ar raglen radio Steffan Cravos, sôn am y Blogathon. Os ydy unrhywun yn gallu helpu casglu eitemau o enwogion i ni werthu mewn arwerthiant eBay yn ystod wythnos ola y Blogathon, cewch chi adael neges yma (rhowch glec ar Sylwadau isod) neu fy ebostio. Diolch.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Linux Portaloo – gweflog arall (wel, mwy o ddyddiadur a dweud y gwir) yn y Gymraeg. Dw i wedi blogio hyn o’r blaen, ond dim ond nawr dw i wedi rhoi fe yn y rhestr o gweflogiau Cymraeg. Diolch i Jim am fy atgoffa, ac os gawn ni cwpl mwy o gofnodion fel hwn bydda i’n rhoi ei flog e ’na hefyd.

Ydy hi jyst fi, neu ydy’r prosiect Grym Amddiffyn Lloegr yn dweud mwy o Gymru nag yw e am Balesteina.

The EDF states that ìAberystwyth is a known centre of dangerous Welsh militancy, the leaders of which must be assassinated to show an example to the rest of the population of the disputed territories of Wales. As soon as these people are identified, EDF Special Forces- our elite death squads- will assassinate them, for the security of the state of England. There will be no legal hearings first, these take much to long.î

ìWe will continue with this operation until Aberystwyth is secure and we have surrounded it with a high security wall, guard posts, and an electrified fence that will completely cut it off from the rest of Wales and the worldî said the spokesperson.

The EDF Spokesperson also thanked the more moderate English speaking population of Wales for their continued support for English rule in Wales over the last 700 years.

Swnio fel polisi swyddogol y Ceidwadwyr yn yr 80au i mi.

A, syrpreis syrpreis, dyma rent-a-gob:

The action has been criticised by leader of the Welsh Tories Nick Bourne, who branded it “anti-English” and said the campaigners should grow up.”

Summer of Sam (Spike Lee, 1999) – un arall o’r car bwt. Dw i ddim yn cynnwys hon yn y categori Ffilmiau ’03, achos nes i ddim cyrraedd y diwedd. Ffilm wael iawn, oni bai mod i’n colli rhywbeth rhy subtle i’m sonar. Pam yn y byd oedd cymeriad Adrien Brody yn siarad gyda’r acen chwerthinllyd Cockernee Sparrer? A gyda poster The Who ar wal ei stafell (yn ’77? c’mon!).

Oedd yr holl beth fel croes rhwng Saturday Night Fever a’r Great Rock n Roll Swindle, ond fel dwedais i, wnes i ddim ei bennu. Falle oedd rhywbeth ynddi o’n i wedi colli. Wnai drial ‘to os ydy unrhywun am esbonio pam y dylwn i.

High Fidelity (Stephen Frears, 2000) – un o bedwar fideo prynais i yng nghar-bwt Tanygroes yr wythnos diwetha. Wastad yn hoffi John Cusack, ac o’n i wedi joio’r llyfr, ond doedd hyn ddim yn arbennig. Pethau da oedd y ddau ddyn trist oedd yn gweithio yn y siop, y cameo gan Tim Robbins, a phermormiaid Cusack, ond oedd bach yn annodd i gredu mewn Rob, cymeriad Cusack. Pam mor blentynaidd? Dw i’n gwybod dyma arbenigrwydd Nick Hornby, ond falle oedd hi’n gamgymeriad rhoi’r rhan i Cusack. Wedi dweud hynny, oedd e’n wych fel y pypedwr loser yn Being John Malkovich – jyst ddim cweit yn taro deuddeg yma.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Crime and Punishment in Suburbia (Rob Schmidt
, 2000)
– rhan o’r dwbl-bil ges i o’r garej neithiwr. Iawn, sbo, tipyn bach gormod o aesthetic MTV (oedd y blyrb ar y bocs yn dweud One of the best soundtacks of the year! – heb sôn am y ffilm o gwbl). Oedd y stori yn rhy tebyg i American Beauty, gyda darnau o Pump Up The Volume a Heathers (a dim cymaint o Dostoyevsky – oedd cymeriad y boi Vincent yn llawer rhy denau i ddal y cymhariaeth).

Oedd fersiwn o gân y Pixies, Monkey Gone To Heaven a oedd yn arafach na’r fersiwn gwreiddiol – ydy’r un araf ar gael rhywle? (Cyd-ddigwyddiad bach: oedd cân Black Francis ar drac sain Pump Up The Volume hefyd.)

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Wedi bod yn ddiog wrth gadw trac o’r ffiliau dw i wedi eu gweld, feely dyma fi geisio dal i fyny. Neithiwr, ar fideo o’r garej: Fast and the Furious (Rob Cohen, 2001) – ddim yn ffôl am fflic genre, ond oedd y stori yn llungopi o’r un Point Break (a doedd honno ddim yn Shakespearean chwaith) – mae Paul Walker yn hyd yn oed copio llais Keanu. Od iawn.

Dyma tro cyntaf i mi weld Vin Diesel, sy’n seren mawr yn ôl bob sôn. Pwy yn byd oedd yn meddwl y byddai “Dominic” yn wneud enw da am arwr macho? Nes i rhywun ei alw gan ei enw llawn, o’n i’n meddwl taw “Dum” oedd ei enw, wedi’i enwi ar ôl y boi yn Clockwork Orange falle?

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd