Mae’r Blogathon wedi lansio! Cei di fynd a fy noddi fi* os wyt ti moyn.
Bydda i’n lunio FAQ Cymraeg, wedi’i seilio ar yr un Saesneg sydd ar wefan y Blogathon yn y dyddiau nesa.
Mae Morfablog wedi ennill dros £130 i Cymdeithas yr Iaith yn barod, ac mae 27 dydd i fynd! A fydden ni’n cyrraedd £1000 erbyn y diwedd?
* Mae problem gyda nhw – dyw hi ddim yn bosib i wneud linc uniongyrchol at y tudalen i sbonser Morfablog ar hyn o bryd. Mae hwn yn mynd at rhestr o blogs wedi’u trefnu yn ôl faint o arian wedi’i addo: mae Morfablog yn y colofn ar y chwith hyd yn hyn.
Helo Nic,
nagyw http://www.blogathon.org/sponsorsignup.php?p=85 yn mynd syth at y dudalen perthnasol de?
ma nhw di newid e bach erbyn hyn i ddweud -
You have chosen to sponsor Morfablog who is blogging for Cymdeithas yr Iaith. To pledge, you need to have an account.
Mae lot yn well felly achos bod pawb yn gwbod o sicrwydd ei bod yn noddi’r person iawn.
Mae’r ysgrifen ger y linc Blogathon ar Maes E yn mynd o dan y llun!
Mae’r linc uniongyrchol yn achosi problemau i rai pobl, felly mae trefnwyr wedi gofyn i blogwyr i beidio defnyddio fe am nawr. (O’n nhw cael lot o ebyst cwyno nad oedd e’n gweithio ac mae digon ‘da nhw i wneud ar hyn o bryd.)
Dw i jyst am ddechrau cynllunio tudalen dwyieithog i roi yma a fydd yn wneud pethau yn haws i bobl sy eisiau noddi. Watch this space.
O, a diolch am ddweud am y linc ar maes-e – mae’n edrych yn iawn ym Mozilla, ond debyg bod IE yn ffyco fe lan. Mae ar y rhestr…