Mae’r Blogathon wedi lansio! Cei di fynd a fy noddi fi* os wyt ti moyn.
Bydda i’n lunio FAQ Cymraeg, wedi’i seilio ar yr un Saesneg sydd ar wefan y Blogathon yn y dyddiau nesa.
Mae Morfablog wedi ennill dros £130 i Cymdeithas yr Iaith yn barod, ac mae 27 dydd i fynd! A fydden ni’n cyrraedd £1000 erbyn y diwedd?
* Mae problem gyda nhw – dyw hi ddim yn bosib i wneud linc uniongyrchol at y tudalen i sbonser Morfablog ar hyn o bryd. Mae hwn yn mynd at rhestr o blogs wedi’u trefnu yn ôl faint o arian wedi’i addo: mae Morfablog yn y colofn ar y chwith hyd yn hyn.


