Dechrau bwyta yn well

Ddoe, fe benderfynais i fod angen colli pwysau arna i. Dw i wedi bod yn dweud hyn am 20 mlynedd wrth gwrs, ond nawr mae rheswm arall ’da fi, ar wahan i edrych fel Bryn Terfel (yn steddfod Llanelli, wnaeth rhywun fy nghymryd am Bryn). Dw i’n poeni bod arthritis ’da fi yn fy mhenliniau. Mae hanes o arthritis yn y teulu, felly dw i’n cymryd hyn o ddifri, er mod i ddim yn colli cwsg drosto fe. Y peth cyntaf i fi wneud, yw lleihau’r pwys sydd ar fy esgyrn druan gan ddechrau bwyta yn well.

Prif broblem i ynglyn â bwyd yw mod i’n hoff iawn o fwyta, ond dw i ddim yn cymryd yr amser i goginio fel arfer. Dw i’n rhannu y gwaith coginio gyda fy mhartner, ond mae hi’n rhy fishi i goginio bob yn ail noson, a dw i’n rhy ddiog. Ond dw i’n gwybod bydda i’n colli pwysau dim ond os ydw i’n dechrau bwyta yn fwy rheolaidd, hynny yw, tri phryd o fwyd go iawn, yn lle pori ar fara a beth bynnag arall sydd yn y ty ac sy’n haws i baratoi.

Problem arall yw, er mod i’n gallu coginio rhyw hanner dwsin o bethau sylfeinol, dw i erioed wedi bod yn arbrofiadol iawn yn y gegin, a siwr o fod ddim wedi dysgu rysait newydd ers deng mlynedd. Felly dw i’n mynd ati i ffeindio ryseitiau newydd ac i’w wneud, o leia un peth newydd bob wythnos.

Achos mod i’n llysieuwr pan ddysgais i fy repertoire bach yn y gegin, dw i erioed wedi coginio lot o gig. Felly, heno dw i’n mynd i geisio Cyw Iar Mahdzoon, sef un o’r
ryseitiau o Armenia ffeindiais y bore ’ma.

Sbam scari

Ers i mi symud i’r fersiwn newydd o Mozilla dw i ddim yn gweld lot o sbam; mae e’n cael ei hidlo wrth gyrraedd. Ond y bore ’ma, wnaeth un darn osgoi’r hidl gan fod e mor od

Has Your Life been ruined by Evil?

Hello,

Have you really, really, really been hurt to the point where your live is a living hell?

~ Has somebody or something drastically altered your life? ~
~ Would you give anything to take back your stolen life? ~
~ What if there was a way to undo all done to you for $100,000? ~

What I am referring to is something which is well covered up from the general public!
I have access to the way, and need just one single person to work with.

Who I pick will be determined on the severity of their situation.
This is your one and only chance to live life over, and take control over what was stolen from you. Mentally stable open minded individuals a must! Someone close to the Boston area is preferred.

If you want your life back and would like for me to consider you, email a brief description of your situation to me at
powercrystals@firemail.de

Wel, rhaid bod unrhywun sy’n ymateb i ebost fel ’na yn open minded os nad yw yn mentally stable iawn.

Dreuni nad oes $100,000, achos dw i’n siwr byddai’r boi ’ma yn gallu datrys fy mhroblemau i gyd.

Lludw – Emyr Davies

O’r Talwrn:

Lludw
Gwirionais ar Langrannog:
Ochrau’i gwm dan glychau’r gog,
Swn ei ewyn, derfyn dydd,
A’i wylanod aflonydd.
Y mae teid o Gwmtydu’n
Rhwygo’i ddarn o’r garreg ddu
Ond fe’i caf pan af yn Ùl
Yn wraig wddyn dragwyddol.
Ar y graig, mae erw grin -
Ail draeth o flodau’r eithin
A dawnsia’r pryfed unsain
Yn y mwg drwg rhwng y drain.
A haf o wres dan y fron
A’i gwrych yn cuddio gwreichion
Mae rhyw fatsien yn ennyn
Y gwair yn rhubanau gwyn.
Daw y dydd pan dderfydd haf
¬ hiraeth Medi araf
A bydd y pentref hefyd
Yn gweld y creithiau i gyd.
Hollta dail drwy’r lludw du
Yn iach eilwaith o’r chwalu
Ac ar hyn, bydd Llangrannog,
A’i erw noeth yn Dir Na Nog,
Ei swn ewyn derfyn dydd
A’i wylanod aflonydd.

Emyr Davies

Posted in Heb gategori | Tagged

Dim Gair, diolch

We Can Put an End to Word Attachments – dw i wedi derbyn chwe Word doc yr wythnos ’ma. Mae Mac ’da fi. Does dim copi o MS Office ’da fi. Mae’n costi £300.

£300.

Dw i ddim yn mynd i wario £300 ar feddalwedd sy ddim cystal (dw i’n gwybod o brofiad hir) â’r sdwff sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Tan nawr, dw i wedi ymdopi â’r Word docs di-derfyn dw i’n cael gan anfon nhw ymlaen at cyfrifiadur fy mhartner, sef fy hen PC sy’n dal i ddefnyddio Word, ag sy ddim yn crasho mwy nag unwaith neu ddwywaith y dydd. Ond dw i wedi cael digon. O hyn ymlaen, bydda i’n gwrthod derbyn unrhyw ffeil sydd mewn ffurf perchenogol. A bydda i’n anfon yr URL hwn at y person i esbonio pam nad yw anfon Word doc mewn atodiadau yn syniad da.

Dw i wedi bod yn fishi am wythnos neu ddwy, trial gwerthu hen rwtsh ar eBay. Dw i hefyd yn prynu pethau weithiau, a dw i’n cael ebost bob dyd sy’n dweud wrtha i am unrhywbeth gyda’r geiriau “welsh language” ynddo. Dyna sut dw i’n gwybod bod rhywun yn gwerthu copi o Golwg o 1999 am £15.

Jyst pan o’n i’n meddwl pwy fyddai yn ddigon twp i dalu hwnna, sylweddolais i bod rhywun wedi cynnig dros £50 am gylchgrawn Good Housekeeping o 1995, falle am fod beauty tips Anne Robinson ynddo.

Mae ’na boblach od yn y byd. Ac mae lot ’da fi i ddysgu am werthu ar eBay.

Carreg Lafar yr Alban

‘Stone Voices’: Who Are the Scots? – adolygiad yn y New York Times o lyfr newydd Neil Ascherson.

Mae wedi bod dadlau (ffyrnig, fel arfer) ynglyn â hunaniaeth Cymreig a Phrydeinig ar y Maes yn diweddar, ond mae NYT yn honni bod hunaniaeth pobl Cymru yn even vaguer – yr un pryd maen nhw’n difynnu geiriau Gwyn Alf Williams:

”Wales is an artifact which the Welsh produce. If they want to.”

Dysgu mewn tandem

Mae hyn yn swnio fel syniad da -eTandem.

Wyt ti moyn dysgu iaith arall, a rhywle yn y byd mae rhywun sy’n siarad yr iaith honna ac sy eisiau dysgu dy iaith di. Dych chi’n sgwennu ebyst at eich gilydd, yn y ddwy iaith.

Dyna fe.

Bydda hyn yn osgoi’r broblem (os mai problem yw hi) lle mae trafodaeth rhwng “dysgwyr” a “tiwtoriaid”. Dw i’n gwybod mod i ddim yn cyfrannu cymaint ag o’n i’n arfer at fforymau i ddysgwyr, achos mod i’n cael digon o helpu dysgwyr Cymraeg yn fy ngwaith bob dydd. ‘Swn i am ddysgu iaith newydd, byddwn i’n trio sustem ’ma, dw i’n credu.

Unrhywun gyda phrofiad ohono?

Posted in Heb gategori | Tagged