Ar y llaw arall
Erthygl ar yr un pwnc yn Times Llundain, ond yn llawer mwy cefnogol. Diddorol i glywed hyn gan bapur Murdoch. Mae’n ateb un o’r pwyntiau gwallus yr erthygl NYT, ynglyn â’r posiblrwydd y bydd Saesneg yn esgor ar sawl is-iaith newydd, fel wnaeth Lladin:
Unlike other, earlier world languages, modern English will never split off into distinct parallel forms, as the Romance languages evolved from Latin. For a new language to emerge requires a degree of cultural isolation, or at least independence, that has become impossible. The world is simply too interconnected, by global technology and a global economy, to think in new words. Intrusive, restless English has made cultural privacy a thing of the past.
Daeth hyn, a’r stori flaenorol, o’r Maes, mewn edefyn gan ddysgwr Cymraeg sy’n byw ym Mosgo. Felly, mae gobaith.
Fading Species and Dying Tongues: When the Two Part Ways - traethawd yn y New York Times. Cywilydd arnyn nhw.
How, really, are the panda and Ubykh equivalent? The panda, once gone, is gone forever. If the information and political will are present, Ubykh can be revived 500 years from now. Hebrew, after all, was brought back from ancient texts into daily use after 2,000 years. Ubykh, a language of Turkey, is a human creation. The panda is not; it is our neighbor, not our invention.
Mae hyn mor lawn o dwyllau mae’n annodd gwybod lle i ddechrau. Does neb yn dweud bod anifeiliaid ac ieithoedd yn gyfystyr. Dydy’r iaith Hebraeg sy’n cael ei siarad nawr ddim yr un iaith (er bod hi’n ddefnyddio llawer o’r un geirfa) ’’r un oedd yn cael ei siarad yn amser Crist - a wnaeth yr iaith honno ddim “marw” 2000 mlynedd yn Ùl.
Ac yn y blaen.
Ieithoedd Jac Codi Baw
Erthygl am ieithoedd o grym megis Saesneg, Sbaeneg ac Indoneseg, sy’n dinistrio ieithoedd bychain y byd. Dim byd newydd, dweud y gwir.
Y Prifardd a’r tipis
Mae’r Prifardd Dic Jones wedi arall-gyfeirio ar ei fferm ym Mlaenannerch gan ddechrau gwersyll tipi.
Swn y Traws
MP3au gan y Trawsfynnydd LoFi Liberation Ffrynt - i’r rhai sy ddim wedi eu clywed, mae’r Ffrynt tipyn bach fel y Carpenters Cymraeg, llawn toniau melys, backing harmonies melysach a chaneuon am fod mewn cariad â dy chwaer anorecsig achos ei bod hi’n edrych mor ffycin boeth tu ôl i’r dryms.
Afanc!
Mi oedd Bob Delyn yn wych. Mae si y bydd CD newydd ‘da nhw cyn bo hir. Rhaid bod hi’n 7 mlynedd ers yr un diwetha. Dewch ymlaen hogia.
Mae pawb yn gwasgu dwylo’n dynn
Dal gyda Bob Delyn, yn yr erthygl hon gan Meic Llewellyn, mae’r awdur yn defnyddio “Seans Watcyn Wynn” fel enghraifft o’r ffyrdd mae cerddorion Cymraeg modern yn “ail-ddyfeisio” traddodiad er mwyn creu eu negeseuon cyfoesol. (Rhyw brith gof ‘da fi mod i wedi blogo hyn o’r blaen. Sdim ots, mae’n sdwff da.)
So dense is this work, both in language and musical structure, as well as in the range and variety of its allusions and references, that an approach to it in the space available here is bound to be no more than a scratching of the surface; but however incomplete the analysis, I print the lyrics and a translation in full below, to enable some of its richness and flow to be appreciated. Even to non-Welsh speakers, the linguistic and metrical complexity and exactness of the third verse, for example, must be striking; there are three feminine rhymes, followed by five masculine (the letter ëyí in Welsh, when at the end of a word, makes a sound very close to ëuí - both could be rendered into English as ëeeí). The wandering, bell-like patterns of double and triple internal alliteration, assonance and half-assonance, known in Welsh literature as cynghanedd, are in Twmís own words ëimmensely difficult to learn, but once youíve mastered them, they give you such freedom…í (interview with the author on videotape ëRockiní a Small Boatí, undistributed, 1996).
Dw i’n mynd i weld Bob Delyn heno.
Swn y Gynghanedd
Erthygl Saesneg ar y Gynghanedd a barddoniaeth Cymraeg sy’n defnyddio cân Bob Delyn “Y Sŵn” i esbonio y mathau gwahanol o gynghaneddu. (Dw i’n mynd i weld Bob Delyn mewn cwpl o oriau.) Mae’r erthygl yn cynnwys un o’r “ffeithiau cyfareddol” dw i’n hoffi rhannu gyda gwesteion o Loegr sy’n aros ‘ma:
Accompanying the huge surge in national consciousness and action came a renewal of interest in the traditional poetic forms; it is claimed that more poets in Wales today practise the strict metres than at any point in the past. Barddas, the bi-monthly magazine of the strict-metre poetry society, has the second greatest circulation of any poetry magazine in Britain (and that for a ëminorityí art-form in a minority tongue, with a possible circulation of less than one percent of that of English-language journals in Britain).
Ffiniau’r llwythau
Roedd Tindale yn anthropolegwr ac ieithydd a astudiodd a gweithio gyda phobl brodorol Awstralia. Yn ôl archif Tindale Amgueddfa De Awstralia fe, yn anad neb, yw’r dyn gwyn a wnaeth y mwya i ddatblygu’r syniad bod hawliau dros holl tir Awstralia gan y llwythau brodorol.
Breizhe - y peth go iawn!
Dyma syniad. Yn lle rhoi pwys ar fusnesau Eingl-Americanaidd i ddefnyddio’n hiaith ni, beth am greu cynhyrchiadau ein hunan, fel mae Llydawyr yn ei wneud?
Politics is just part of Breizh Cola’s appeal: Older shoppers like it for its regional identity. In fiercely independent Brittany, militants fight for language, culture and political autonomy.
“By consuming Breton products, people feel that they are safeguarding the futures of their children and their loved ones,” said Claude Chapelle, director of Produits en Bretagne, an association for manufacturers of local products.
Nôl i’r diwan
Erthygl yn y Globe and Mail am “Lydawyr o ddewis”, sy’n cynnwys pethau twp ( In England, the Welsh and Scots are enjoying their own parliaments and official recognition of their independence.) ond pethau diddorol hefyd:
Emmanuel Roy was born in the suburbs of Paris, and was raised, as he says, “completely French in every way.”
Yet the 32-year-old videographer spends his afternoons in a classroom tucked inside an old stone building in the northwestern French city of Rennes, struggling to turn himself into something else entirely. Inside the class, his smooth Parisian French disappears. At the teacher’s orders, he stands up and begins uttering strange-sounding sentences in a guttural Celtic dialect, a tongue that hasn’t been spoken in his family for almost a century.
Mr. Roy is known as a “neo-Breton” — a Frenchman who has moved back to Brittany to recover the language and culture of his distant roots. In his case, his maternal grandmother was the last person in his family to utter a word of Breton. Until quite recently, the teaching of this near-dead tongue was impossible and, in some circumstances, illegal. So within the thick walls of the diwan — Breton for school — there is a mood of happy subversion.
In my Liverpool home
Sut i wneud lobsgows. Yn anffodus, nid yw’r rysait yn Sgowseg ond dw i’n siwr byddai Delia Smith yn lico’r cyngor am flasuso’r saig:
Serve piping hot with red cabbage, beetroot, pickled onions and crusty bread. You may add Ketchup and HP for flavouring.
O’r gorau, tipyn bach mwy o’r blog
Dw i wedi cael wythnos bant o syrffo’r we, a dw i wedi joio’r toriad, ond mae rhaid i mi ddechrau meddwl am Blogathon 2003.
I’r rhai sydd heb syniad am beth ydw i’n sôn, ffordd i godi arian i achosion da yw’r Blogathon, gan aros ar lein am 24 awr a blogo bob hanner awr o leia. Y llynedd nes i godi rhwy £200 i CYD, ac eleni dw i’n bwriadu codi tipyn bach mwy i Cymdeithas yr Iaith.
Eleni, hoffwn i wneud tipyn bach mwy i hybu’r Blogathon, yn enwedig ymysg “Cymry y Byd”. Dw i wedi dechrau trafodaeth ar maes-e.com am un syniad, ond hoffwn i glywed unrhyw syniadau eraill.
Dreigiau ym Mwlgaria gan Renee Glosses.
Llai o’r blog, mwy o’r Morfa
Y dyddiau ‘ma, bob tro dw i’n treulio mwy na hanner awr o flaen sgrin y penliniadur dw i’n dechrau teimlo yn sâl. Dw i wedi hala o leia y trydedd rhan o’m oriau ar ddihun ar y we ers i mi brynu’r iBook, ac er mod i wedi joio, mae’n amser i mi dorri i lawr ar y syrffo. (Nid fi yw’r unig un, debyg.)
Felly, am gwpl o wythnosau o leia, dw i’n mynd i angofio am y we byd eang, a chanolbwyntio ar y byd bach hwn. Cerdded mwy, darllen mwy, coginio mwy, a wneud mwy o’r fath o bethau dw i ddim am rannu gyda chi.
Dreamcatcher (2003) - nes i bron anghofio am hon. Gwelais i hi yn y myltiplecs yng Nghaerdydd wythnos o’r blaen. Addasiad eitha da o lyfr gan Steven King.
Magdalene Sisters
Magdalene Sisters (Peter Mullen, 2002) - ffilm arall welais i yn y Mwldan yr wythnos ‘ma. Nid ffilm hawdd ei gwylio, ond yn bwerus iawn, gyda pherfformiadau da iawn gan Geraldine McEwan a’r pedair merch yng nghanol y stori.
Confessions of a Dangerous Mind
Confessions of a Dangerous Mind (George Clooney, 2002) - welais i hon fel hanner o fil dwbl Clooney yn y Mwldan neithiwr (gweler isod). Dw i’n dechrau casau y bastad Clooney ‘ma. Golygus, actor go dda, ac yn nawr yn gyfarwyddwr da hefyd.
Gwerth ei gweld. Mae Sam Rockwell yn wych. Do’n i ddim yn adnabod e fel yr un dyn oedd yn The Green Mile.
Solaris
Dw i ddim wedi bod yn postio lot yma yn diweddar. Mae Maes E yn cymryd mwy a mwy o’m hamser, a dw i’n eitha hapus gyda hynny. Hefyd, dw i wedi bod yn wneud mwy o waith yn yr ardd ac ati, a cholli pwysau’n glouach nag anorecsic yn yr H-block. Er hynny, mae ffordd hir i fynd nes i’m pen-ôl fod mor bert â’r un George Clonney yn Solaris (Steven Soderburgh, 2002).
Gwelais i hon (y ffilm, nid jyst y pen-ôl) yn y Mwldan neithiwr. Ro’n i’n pryderu braidd ar ôl i mi weld fersion Tarkovski dros y Pasg, a meddwl y byddai’r fersiwn Soderburgh yn rhy Hollywood.
Wel, oedd yn sicr yn fwy sgleiniog na’r glasur o Undeb y Sofiet, ond oedd yn ffilm fendigedig ta beth. Os dwyt ti ddim wedi ei gweld eto, tria ddal hi mewn sinema, achos dyma un ffilm sy wir angen y sgrin llydan go iawn, a sustem swn arbennig.
Mae’r robot ‘ma yn bwyta llyfrau
Mae llyfrgell Stanford wedi prynu robot i sganio eu casgliad o 8 miliwn o lyfrau. Mae’r peiriant yn gallu sganio 1000 tudalen yr awr.
Next Page »