Die Charakterkpfe – cerfluniau gwych gan Franz Xavier Messerschmidt (1736-1783). Testun yn Almaeneg.

via Giornale Nuovo
Die Charakterkpfe – cerfluniau gwych gan Franz Xavier Messerschmidt (1736-1783). Testun yn Almaeneg.

via Giornale Nuovo
Jyst moyn blogo cwpl o bethau gadawais i yn y porwr arall:
FunJunkie, Coudal, Geegaw, Things, Portage, Bookfilter, Making Light, MF Distilled, Haeckel, Naoto Hattori, Gulnur Guvenc, Edgar Governo.
Cariwch ymlaen.
Cardiff City · Őslandi! – blog pel-droed gan ffan y Bluebirds o Wlad yr Iâ.
O’t ti’n gwybod bod gan Suw, sy’n rhedeg Clwb Malu Cachu, blog yn yr iaith fain o’r enw chocolate and vodka?
Do’n i ddim yn gwybod hynny.
Dyma OM – yn fwy zen na fi, mae’n debyg, gyda tudalennau sy’n arwain i nunlle, ond werth cadw llygaid arni, brawd.
via Rwdls Nwdls
Dw i’n trial darllen tipyn bach mwy, a threilio llai o amser ar y we. Y llyfr newydd heno yw Islandia gan Austin Tappan Wright, rhywbeth clywais i amdano ar Bookfilter.
sy’n ddigon drist i wneud y pethau dw i’n hoffi i’w wneud.
Fe ges i focs mawr llawn o gylchgronau Sight & Sound yn y post ddoe, a hoffwn i roi rhai o’r erthyglau ar-lein, felly dw i wedi dechrau blog bach newydd, jyst am erthyglau o’r wasg. Mae hyn yn ffordd i arbrofi gyda Moveable Type, hefyd.
Bydda i’n rhoi gwybod fan hyn os ydw i’n postio pethau newydd.
Struggling with Welsh – hanes un teulu o Bort Talbot, a gollodd ac ail-ennillodd yr iaith mewn tair cenedl.
via Maes E
Erthygl da yn y Scotsman am ddatganoli yng Nghymru.
Geiriau’r gegin – rhestr geiriau, Saesneg -> Cymraeg (a Chymraeg -> Saesneg), gan Dudley, cogydd S4C.
Gêm map – o’n i’n iawn gyda’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, ond yn anobeithiol gyda phopeth arall.
Rhaid, rhaid, rhaid i mi bennu’r trosiad Cymraeg i phpBB heddiw.
Wedyn, trosiad Cymraeg MT.
Posteri dros heddwch – cystadleuaeth i ddarlunio posteri wrth-ryfel.
Oes hen ddisgiau hyblyg ’da ti? Hoffet ti wneud model o’r USSS Enterprise ma’s ohonyn nhw?
Ynyr.com | Blog – blog newydd arall yn Gymraeg. Mae’r chwyldro wedi dechrau, gyfaill.
Life in the Freezer – blog/dyddiadur gan Gillian Hadley, sy’n gweithio ar yr adolygiad Antartig. Lluniau hydryd, llawer o forloi a pengwins.
ToThePolls.com – hidlo’r newyddion am yr etholiad yn yr Alban. Syniad da sy wedi’i weithredu mewn modd syml, hawdd i ddeall.
Wild Skye – blog natur gan grwp o bobl. Hoffwn i wneud rhywbeth fel hyn, jyst i ddweud pa blanhigion sy wedi blodeuo – dyn ni’n cerdded lawr y rhiw i Langrannog bob bore, ac ar hyn o bryd mae rhywbeth newydd bob dydd – ond dw i’n gwybod na fyddwn i’n cyrraedd diwedd yr wythnos gyntaf.
Ethnomusicology – ugeinau o ddolennau diddorol. Gormod i mi edrych arnyn nhw i gyd. Beth am roi gwybod yn y blwch sylwadau os wyt ti’n ffeindio rhywbeth arbennig yna?
ScotBlogs – gwegylch o blogwyr o’r Alban.