Merched y chwedegau – lluniau o gatalogau a chylchgronau Americanaidd, 1960-69.
Monthly Archives: Ebrill 2003
The Ring (Gore Verbinski, 2002) – newydd weld hon yn Theatr Mwldan. Am ffilm! Heb weld y fersiwn wreiddiol o Siapan eto, ond oedd hon yn wych. Yr unig peth oedd yn sbwylio pethau oedd y bastad plant yn y cefn yn siarad a chwerthin trwy’r holl peth. Sdim digon o blant yn cael eu gwthio lawr ffynonnau, dw i’n meddwl.
Seren – debyg bod Cylch yr Iaith wedi haco gwefan y BBC er mwyn creu y cymeriad hwn a’i Chymraeg street chwerthinllyd. Does dim lot o bobl yn gwybod bod Emyr Llew yn haxor o fri.
Arwyddion yn y caeau
Signs (M. Night Shyamalan, 2002) – welais i hon ar fideo o’r garej wythnos diwetha. Oedd yn weddol, ddim cystal â’r Sixth Sense gan yr un cyfarwyddwr, a tipyn bach rhy pat yn y diweddiad.Mae Joaquin Phoenix wastad yn ddiddorol, ond oedd e’n stryglo chwarae rôl brawd Mel Gibson (dyw hi ddim yn helpu bod bron 20 mlynedd rhwng y ddau actor). Ro’n i’n mwynhau perfformiad Cherry Jones fel plismones y dre fach, hefyd.
Pishyn.com – cwmni caru cyntaf Cymru?
Joe Meek will inherit the Earth
The Joe Meek Drinking Game – i ddathlu’r storfa bach o MP3au JM ffeindiais i ddoe.
Llyfryddiaeth Brautigan
The Brautigan Bibliography – adnoddau a gwybodaeth am y nofelydd barddonol Americanaidd. Mae’n llawn dop â phethau diddorol, a bydda i’n fishi ’ma am oriau, ond y gem yn y goron yw casgliad o recordiadau gan Brautigan. Mae hyn wedi wneud fy wythnos.
Sôn am Warren Oates
Orielau Ted Strong
Mae gan adran ddiddorol o deyrngedau i’w hoff actorion. Dw i’n credu mod i wedi blogo ei dudalen Warren Oates o’r blaen, ond mae lot mwy ’na i’w gweld – gweler y casgliad o luniau Jean Seberg sy ’da fe.
AM beth wyt ti’n sÙn, Wili?
Arnold & Willy – fersiwn Ffrangeg o Different Strokes. Gyda MP3 o’r thema. Croeso.
Trafferth ar y traeth
Pauline ý la plage (Eric Rohmer, 1982) – prynais i hon ar fideo yn siop Barnardos yn Aberteifi. Mae hi’n dweud stori tair merch a thri dyn, a’u carwiaethau un mis Medi yn y degawd anghofiwyd gan ffasiwn. Pauline yw’r unig cymeriad hoffus yn y ffilm – mae hi’n ferch 15 oed. Mae pawb arall yn ymdrin fel merched 15 oed. Mae ei chefnither, Marion, yn edrych fel Bonnie Tyler adeg Total Eclipse of the Heart ond mae hi’n fwy pryfoclyd na Bonnie Tyler a Bonnie Langford gyda’i gilydd, a llai deniadol na’r Bonnie arall, y ci oddi wrth Blue Peter. Mae Pierre, y dyn sy’n ei charu hi, yn fat drws pathetig, ac mae Henri, y dyn henach sy’n dwyn Marion oddi wrth Pierre yn fastad hunanol a phlentynaidd. Hyd yn oed Sylvain, y bachgen ifanc sy’n mynd mas â Pauline, yn actio fel twpsin erbyn diwedd y ffilm.
Wedi dweud hynny, ffilm dda, actio yn dda iawn (yn enwedig gan Amanda Langlet). Bach yn depressing i weld pa mor bathetig ac hunan-dwyllodrus mae oedolion, ond dim syrpreisys yna.
Gobeithio y bydda i’n ffeindio mwy o ffilmiau Rohmer yn siopau elesenol cyn bo hir.
Anhygoel
Mae blog iconomy
yn llawn stwff da. Anhygoel. Ble mae pobl yn ffeindio’r amser?
Dydd y Meirwon
Argraffiadau Jose Guadalupe Posada, artist y calaveras (sgerbydau). Mae mwy o’i luniau yma.
via Prentiss, eto
Cyfieithu Asterix – i Saesneg, nid i’r Gymraeg.
via Prentiss Riddle
Fel arfer mae stwff ar Fieldmethods yn mynd dros fy mhen, ond dw i’n joio chwarae gyda teclyn testun-i-siarad IBM. Os wyt ti’n ddyfeisgar gyda dy sillafu, ti’n gallu dweud pob math o bethau.
Cynllun newydd
Oedd y hen gynllun yn dechrau teimlo bach yn drwm. Mae’r cynllun newydd yn defnyddio patrymlun Blue Robot, a bydda i’n neud tipyn bach o newidiadau dros y dyddiau nesa.
Un peth: dydy hyn ddim yn gweithio yn IE i Mac am ry reswm – bydd rhaid i mi drwsio hynny. Dw i ddim wedi sieco ar y PC eto – os dydy hi ddim gweithio yno, does dim lot o bwynt ei gadw.
Cathod bach drwg
Dyma fi’n gwerthu hen gylchgronau ar eBay, pan des i ar draws hyn. Do’n i ddim yn gwybod yr oedd y llun ’ma yn y ty. Gobeithio fydd e ddim yma wythnos nesa.

Funeral Quest – gem chwarae rôl clyfar iawn. Fi yw “Jones the Death”.
Y gwanhaniaeth rhwng ni a nhw
Erthygl Guardian gan Arundhati Roy am ryfel, propanganda a chelwyddau:
So far the Iraqi army, with its hungry, ill-equipped soldiers, its old guns and ageing tanks, has somehow managed to temporarily confound and occasionally even outmanoeuvre the “Allies”. Faced with the richest, best-equipped, most powerful armed forces the world has ever seen, Iraq has shown spectacular courage and has even managed to put up what actually amounts to a defence. A defence which the Bush/Blair Pair have immediately denounced as deceitful and cowardly. (But then deceit is an old tradition with us natives. When we are invaded/ colonised/occupied and stripped of all dignity, we turn to guile and opportunism.)
Brut y Saeson
Anglo Saxon Chronicle – cyfieithiad 1823 o’r brutiau Hen Saesneg.
A.D. 607. This year Ceolwulf fought with the South-Saxons. And Ethelfrith led his army to Chester; where he slew an innumerable host of the Welsh; and so was fulfilled the prophecy of Augustine, wherein he saith “If the Welsh will not have peace with us, they shall perish at the hands of the Saxons.”
Chwarae teg i’r Saeson, maen nhw wastad yn hael iawn gyda’r dewisiadau.
via I hastigt mod, blog Swedeg/Saesneg gan Johan Anglemarks