Fy enw i yw Scott

Sbel yn ôl, draw ar y Maes, ro’n i’n trafod gwisgo bathodynau sy’n dangos eich bod yn gallu siarad Cymraeg. Oedd rhai pobl yn erbyn y syniad, yn teimlo oedd e’n rhwystro eu hawliau dynol neu rhywbeth. Ro’n i’n meddwl bod unrhywbeth dyn ni’n gallu wneud sy ddim yn wneud pethau yn waeth, yn werth ei wneud. Dyna pam dw i’n lico gwefan Scott.

My goal in life is to be friendly to everyone in order to break down walls of social trepidation, thus spreading the fulfillment and sheer joy that can be found through interpersonal interaction. There are endless opportunities to meet new people and strike up conversations; we just need to take the first step!

  1. Newydd darganfod dy blog di wrth archwilio gwefannau am genedlaetholdeb Gymraeg. Ar y matter yma o rhyw fath o arwydd (megis bathodyn) i ddangos i bobl eraill dy fod yn medru siarad Cymraeg, dw’i ddim yn hoff iawn o’r syniad – fe all e edrych i’r rhai sy’n methu siarad yr iaith fel petai chi’n meddwl eich bod chi’n “special” mewn rhyw ffordd.
    Ffordd gwell o ledu ymwybodaeth o’ch gallu i siarad yr iaith yw i ddefnyddio’r Gymraeg cyn Saesneg pob tro’r ydych yn mynd i’r meddyg, neu i’r siop lleol, neu’r banc (ac yn y blaen) – os yw’r person tu ol i’r cownter yn methu’ch deall, gallwch ni newid ar unwaith i’r saesneg; ond y’ch o leiaf yn rhoi’r cyfle i nhw siarad cymraeg a chi os ma nhw’n gallu.

  2. Dw i yn defnyddio’r Gymraeg yn gyntaf bob tro, oni bai mod i’n gwybod bod y person yn y siop neu beth bynnag yn ffaelu deall Cymraeg. Hyd yn oed wedyn dwi’n trial defnyddio tipyn bach o Gymraeg.

    Os ydw i’n gwisgo crys-T Cymraeg, fydd hynny yn edrych fel mod i’n meddwl mod i’n special, hefyd? Pan mor dda dylwn i guddio ffaith fy nwyieithrwydd? ;-)

  3. Wel, ie, mae crys-t Cymraeg yn ffordd gwych o adael pobl wybod dy fod ti’n medru siarad yr iaith. Ond mae rhoi arwydd o Gymreictod yn peth hollol wahanol i ddarparu bathodyn unffurdd i’r holl siaradwyr Cymraeg. Mae’n creu delwedd o siaradwyr Cymraeg fel ryw fath o sect, neu clwb. Delwedd sy’n hollol groes i’r gwir – sef mai iaith i bawb yw hi, nid rhyw gimic at ddefnydd y lleiafrif Yn Lloegr, lle rwy’n mynychu’r prifysgol, dyma’r dewledd sydd gan nifer o’r iaith – fel rhyw “novelty” sy’n cael ei arddangos er mwyn plesio twristiaid a mynd ar nerfau’r Saeson. Dyw hwn ddim yn wir, wrth gwrs – peth pob dydd, naturiol yw’r iaith, yn yr un modd a’r iaith Saesneg (ond ar raddfa llai, er gwaetha’r modd) – a dyna sut dylai hi gael ei lledu, a’i gwarchod.

    Wrth gwrs, gellir dadlau mai’r unig fford i ledu a gwarchod yr iaith fel peth cymdeithasol pob-dydd yw trwy dangos i pobl dy fod ti’n ei siarad – os na, sut mae pobl yn mynd i wybod dy fod to’mn ei siarad? Dyna pam rwy’n credu mai syniad arbennig yw RHYW FATH o arwydd PERSONOL (rwy’n flin am y lythrennau mawr yma, rwy’n methu ffeindio’r botwm “italics”), gan fyddai bathodynnau unffyrdd yn creu delwedd o’r iaith fel clwb ac yn cryfhau delwedd ffals estroniaid, rwy’n teimlo, o’r iaith fel peth di-werth sydd ddim yn cael ei ddefnyddio tu hwnt i’r Eisteddfod.

    Pwynt arall yw bod bathodyn unffurdd ddim yn helpu’r delwedd sydd gan nifer o Saeson bod yr iaith Gymraeg yn iaith sydd wedi hen farw. Trwy arddangos dy ddwyieithrwydd trwy crys-t neu rhyw arwydd PERSONOL arall, gellir creu’r delwedd o’r iaith fel iaith byw, iach at ddefnydd ymhob cornel o bywyd cymdeithasol a proffessiynol, heb ymddangos yn awyddus i geyfleu’r iaith fel rhywbeth i lleiafrif. Rwy’n gwybod nid dyna’r delwedd yr wyt ti am ei gyfleu, ond i nifer, delwedd elitist byddai’n cael ei gyfleu gan llu o siaradwyr gyda bathodynnau UNFFURDD.

    Rwy’n ymddiheirio os wnes i’ch camddeall. Y syniad o bathodyn “unffurdd” yw’r un rwy’n gwrthod, nid y syniad o arwydd o’ch dwyieithrwydd.