Riwbob, riwbob, riwbob

Bob blwyddyn y planhigyn sy’n edrych y gorau yn ein gardd yw’r riwbob; dau neu dri planhigyn gyda eu dail bendigedig (ond gwenwynllyd, cofia). A bob blwyddyn, dyn ni’n rhoi yr holl gnwd i ffrindiau achos dyn ni ddim yn bwyta’r blydi sdwff.

Ond eleni, dyn ni’n mynd i fwya fe, o ydyn. Dw i wedi ffeindio gwefan riwbob sy’n dweud popeth sydd i’w wybod am y llysieuyn campus hwn (ie, llysieuyn yw riwbob wrth gwrs – yr un fath ag mae tomato yn ffrwyth).

Do’n i ddim yn gwybod, er enghraifft, bod riwbob yn dod o Tsiena, bod y -barb yn yr enw Saesneg yn dod o’r un gwreidd a barbarian, a fod e’n perthyn i suran.

Ac mae mwy i goginio gyda riwbob na phwdin briwsion.

This entry was posted in Heb Gategori and tagged . Bookmark the permalink. Both comments and trackbacks are currently closed.
  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar