Esgusodwch fi am teitl y cofnod ’ma, ond mae wedi bod yn ddiwrnod eitha rhyfeddol. Aethon ni i Gaerdydd i ymuno â’r rali yn erbyn y rhyfel, a ffeindion ni oedd mwy o ffans gêm Rygbi League yn y dre na phobl heddychlon. Profiad od cerdded lawr strydoedd dw i’n nabod mor dda, cael beer monsters o Swydd Efrog esgus bod nhw’n fy saethu. Wnaeth un o griw dynwaredwyr Elvis (paid â gofyn) boeri ei gwrw drosta i wrth drial esbonio sut mae Iraquis i gyd moyn ein lladd ni.
Gartre wedyn, a sylwais i yn y papur bod BBC2 yn dangos rhaglen lle oedd über-consumer o Lundain yn treulio wythnos mewn ‘Welsh commune’. Dim ond un commune yng Nghymru mae cyfryngis yn gwybod amdano, ac ie, dyna fe – Brithdir Mawr. Welais i mo’r rhaglen i gyd, ond oedd yn neis gweld Tony Wrench esbonio fod hi yn bosibl i fyw ar £20 yr wythnos – ac yn edrych yn euog wrth gyfaddau fod e’n mynd i’r dre i brynu selsig weithiau.
Eniwei, nôl ym myd y blogwyr…
Dyma blog dw i wedi crybwyll o’r blaen, ond mae’n werth wneud ‘to, hyd yn oed os ydw i’n neud achos mod i’n joio teipo teitl y blog: Fuck Corporate Groceries.
Ac o fan ’na, ffeindiais i blog arall, un newydd y tro ’ma: Great Growing Experiment – blog am wneud gardd.