Monthly Archives: Ebrill 2003

Fy enw i yw Scott

Sbel yn ôl, draw ar y Maes, ro’n i’n trafod gwisgo bathodynau sy’n dangos eich bod yn gallu siarad Cymraeg. Oedd rhai pobl yn erbyn y syniad, yn teimlo oedd e’n rhwystro eu hawliau dynol neu rhywbeth. Ro’n i’n meddwl bod unrhywbeth dyn ni’n gallu wneud sy ddim yn wneud pethau yn waeth, yn werth [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged | Comments closed

Wyt ti’n gwybod pwy oedd ’ma? Dim ond blydi Allen Riley, dyna pwy.
Posted in Eraill | Comments closed

Soch soch soch

Syniad syml tu ôl i bzzpeek yw dangos sut mae pobl y byd yn wneud y wahanol synau anifeiliaid a pheiriannau. Dw i wedi gweld pethau tebyg o’r blaen, ond nid gyda rhwngwyneb mor hwylus. Neis iawn. Daeth hyn, a’r dolenni isod, via boing boing.
Posted in Heb Gategori | Tagged | Comments closed

Cadw dy drwyn yn lan, gyfaill

Mae rhyw frith gof ’da fi mod i wedi blogo hyn o’r blaen, ond wnes i joio fe ‘to heddi: Trwyn. Sdim byd well, eh bois?
Posted in Heb Gategori | Tagged | Comments closed

Mr Tweakathon

Cei di oriau o hwyl gyda Mr Tweakathon. Bydd yn ofalus gyda’r cyhyr yn ei siwt nofio.
Posted in Heb Gategori | Tagged | Comments closed

Aw, del

Edrych ar y creadur bach isod. Wyt ti’n gwybod ble mae’n byw? Mae e’n byw yn dy flew amrannau. Croeso.
Posted in Heb Gategori | Tagged | Comments closed

Ba humbugi (malwoden endodermig)

Mwyseiriau mewn enwau biolegol. Sy’n f’atgoffa o’m hoff jôc mwyseiriol (sy ddim yn gweithio yn Gymraeg, wrth gwrs): I quite like puns, but only if they’re current puns. Mae mwysair yn air newydd i’r dysgwr hwn, felly nad oedd y cofnod hwn yn wastraff llwyr o amser pawb. Reswm arall: dydy’r geiriau endodermig a mwyseiriol ddim wedi ymddangos [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged | Comments closed

Riwbob, riwbob, riwbob

Bob blwyddyn y planhigyn sy’n edrych y gorau yn ein gardd yw’r riwbob; dau neu dri planhigyn gyda eu dail bendigedig (ond gwenwynllyd, cofia). A bob blwyddyn, dyn ni’n rhoi yr holl gnwd i ffrindiau achos dyn ni ddim yn bwyta’r blydi sdwff. Ond eleni, dyn ni’n mynd i fwya fe, o ydyn. Dw i wedi [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged | Comments closed

Gyoza – twmplenni o Siapan

Sut i wneud Gyoza, fath o dwmplenni wedi’u llenwi â chig moch a llysiau. via fcg
Posted in Heb Gategori | Tagged | Comments closed

Fuck Bovine Britain!

Esgusodwch fi am teitl y cofnod ’ma, ond mae wedi bod yn ddiwrnod eitha rhyfeddol. Aethon ni i Gaerdydd i ymuno â’r rali yn erbyn y rhyfel, a ffeindion ni oedd mwy o ffans gêm Rygbi League yn y dre na phobl heddychlon. Profiad od cerdded lawr strydoedd dw i’n nabod mor dda, cael beer [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged | Comments closed
  • Now Available in the Language of Your Choice (More or Less)

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar