Solyaris (1972) – welais i hon ar fideo yn nhy fy rhieni dros y Sul a syrthiais i gysgu dwywaith wrth edrych. Nid bai y ffilm oedd hyn (mae ty fy rhieni fel ffwrn ar ôl ein hen dy drafftiog ni – dw i’n wastad yn cwympo i gysgu pan af i ’na) oedd does dim modd gwadu nad yw’r ffilm ’ma yn anhygoel o araf a hypnotig.
Sa i wedi gweld y fersiwn newydd gan Steven Soderbergh eto. A oes pwynt?