Erthygl dda am Martxelo Otamendi, gohebydd gyda’r papur newyddion Basgeg a gafodd ei gau gan lywodraeth Sbaen yn ddiweddar. Ydy e’n bosib bod y “Rhyfel yn erbyn brawychiaeth” yn cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau gormesu cymunedau ieithyddol lleiafrifol, tybed? Roedd Torïaid Cymru yn ddigon clou i gondemnio’r Cymry sy’n cefnogi hawliau dynol.