Morfablog

Jump to content.

Ti’n ffansio cebab?

Faniau cebabs y byd - gan gynnwys un tu mas i Siop y Pethe, Aberystwyth:

Reasonable Kebabs, bearing in mind you’re 3 hours fast driving from “Mr Brit’s No. 1 Kebab House in Birmingham”. Never tried them sober, so I can’t vouch for them personally, but they seem nice after a night on the seafront’s various pubs.

Iwtopia i’n ffrindiau gorau

Ynys y Cwn - gad dy gi fynd yn rhydd!

Metafilter

Breuddwydio mewn mapiau

Mapiau Oddens - miloedd a miloedd o ddolennau i fapiau y byd.

Dyma map Prydain adeg y Rhufeiniaid.

Llyfrau ar y camlas

A bibliophile on the cut - rhestr o siopau llyfrau ail-law sydd ar bwys camlesi Prydain. Dw i ddim un am fynd ar wyliau, ond mae’r syniad o hwylio yn hamddenol o un siop lyfrau i’r nesa a stopio wrth tafarn gwahanol bob nos yn apelio ataf, mae rhaid dweud.

QDB - dyfyniadau o IRC. Hiwmor nerdaidd.

* Bishi (~somebody@newt-news.com) has joined #zgeek-tech
<Bishi> op, op-me-do
<Bishi> you know, I’d op you
<Bishi> I’ll always be true
<Bishi> so ple-e-e-ease…
<Bishi> op me do
<Bishi> </beatles>
* RickBitch sets mode: +o Bishi

Hefyd…

<xterm> The problem with America is stupidity. I’m not saying there should be a capital punishment for stupidity, but why don’t we just take the safety labels off of everything and let the problem solve itself?

BMX yr adeiladwyr

WheelBarrow Freestyle - dau ddyn o Groesoswallt, a’u whilber.

Wel, mae gwanwyn wedi cyrraedd yn swyddogol nawr, achos heddi dw i wedi wneud cawl dail poethion am y tro cyntaf eleni. Edrych ymlaen at ei fwyta heno, gyda’r bara cartre dw i wedi wneud hefyd.

Heddiw yw’r diwrnod cyntaf am sbel lle dw i ddim wedi treulio bob munud sbar (h.y. bob munud dw i ddim yn wneud pethau anghenrheidiol) gan syrffio’r we, blogio, trafod ar Maes E. Mae e’n hefyd y diwrnod cyntaf mewn sbel i mi sefyll ar y clorian yn y stafell molchi. Mae cysylltiad rhwng y ddau beth ‘ma.

Mae’n amser i mi gymryd cam yn ôl o’r cyfrifiadur, dw i’n credu.

Linguabloggers yn erbyn y rhyfel

Newydd dod ar draws cwpl o ieithflogwyr newydd (i mi): mae gan NÈablog cofnod da am y rhyfel, sy’n sôn am Hedd Wyn wrth fynd heibio, a mwynheuais i gofnod gan Teresa Nielsen Hayden ar ei gweflog Making Light (sydd yn ymateb i nodyn gan Barry Tobin (Gwyddel sy’n byw yng Nghaerdydd) am America ar ôl Medi 11) - ei hateb yw, yn fras:

Anyway, I just wanted to say that America is still here, and weíre appalled.

Basgwyr Boise yn berwi

Erthygl dda am Martxelo Otamendi, gohebydd gyda’r papur newyddion Basgeg a gafodd ei gau gan lywodraeth Sbaen yn ddiweddar. Ydy e’n bosib bod y “Rhyfel yn erbyn brawychiaeth” yn cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau gormesu cymunedau ieithyddol lleiafrifol, tybed? Roedd Torïaid Cymru yn ddigon clou i gondemnio’r Cymry sy’n cefnogi hawliau dynol.

Newid enw yng Nghanada

Gwyddel yng Nghanada - stwff diddordol am newid enw i ffurf “traddodiadol”. Dw i’n meddwl am newid pethau fel cyfrifau banc a chardiau credyd rhywbryd. Oes unrhywun gyda’r profiad o wneud hyn?

Cysga, cysga

‘Na neis, MP3 o’r gân Play Si Hei Lwli Mabi.

Gwirionedd mewn bocsys bach

Mae Get Your War On newydd wedi dod mas, ac mae’n well nag erioed.

Ble mae’r pethau gwyllt

Straeon y Tylwyth Teg - fersiynau anodiadol o’r clasuron Ewrop, gyda dros 1000 o lluniau gan bobl fel John Batten (gweler isod), Walter Crane a Margaret Evans Price.

Aros mae

Ar ôl i mi sgwennu am safle Richard Bell mi ges i nodyn oddi wrth Richard lle oedd e’n sôn am hen fyfyrwraig iddo sy’n nawr yn canu yn y grwp gwerin Ffynnon. Mae MP3 o’u gosodiad o gerdd enwog Ceiriog, Aros mae mynyddoedd mawr sy’n anarferol ac eitha effeithiol. Mae’n swnio mwy Albaneg na Chymraeg i’m glustiau i, ond mae’n ddymunol digon,

Wrth chwilio am wybodaeth am y grwp, fe ffeindiais i’r adolygiad hwn ar wefan dw i ddim wedi dod ar ei thraws o’r blaen, sef y Green Man Review. Er mod i’n tueddu bod yn ddrwgdybus am bethau fel hyn (unrhywbeth gyda’r awgrymiad o joss-stick Celticism), mae hyn yn edrych yn ddiddorol, ac mae adolygiad o Terry Jones yn darllen Sir Gawain & The Green Knight (cyfieithiad Tolkien) wedi fy nghyhoeddu trial ffeindio’r tapiau.

Dyddiadur Natur

Swydd Efrog wyllt. Dyddiadur natur gan Richard Bell o Ddyfryn Calder yng ngorllewin Swydd Efrog. Mae bob cofnod yn cael ei oleuni gan luniau syml dyfrliw, fel yr un isod o Goedwig Coxley (o’r cofnod hwn).

[diolch i plep]

Slebog y silffoedd

Bookslut - i bobl sy’n hoffi llyfrau. Adolygiadau, erthyglau, gwegofiadur, popeth.

Hefyd, Bookfilter, safle sy’n defnyddio meddalwedd freefilter i greu Metafilter i lyfrpryfed. Bydda i’n dwyn llawer o ddolenni o fan ‘na, mae’n debyg.

Lluniau Edward S. Curtis

Brodorion Gogledd America gan Edward S. Curtis. Casgliad arbennig arall gan Llyfrgell y Gyngres yn Washington. Wrth pori ‘ma, y peth cyntaf des i ar ei draws oedd cyfri’r cofnod, sef llun o ddyn Hopi gwylio’r record o elenion wedi’u lladd gan ei lwyth.

Mwy gan Curtis yn y Smithsonian.

Os oes digon o arian ‘da chi, cewch chi brynu print. Prisiau’n dechrau o $1,500.

Gêm rhyfel plastig

Wnei di ei mentro hi. Bach yn drist mod i’n blogo fersiynau ar-lein o’r gemau rhyfel o’n i’n chwarae fel crwt, ond mae ‘na rhywbeth cysurlon am arglwyddiaeth bydol lle mae’r rheolau yn wir mor syml â hyn.

Drueni nad ydy’r deallusrwydd gwneuthuredig tu ôl i’r gêm ddim wedi’i ddatblygu yn well.

[Dodi eich hoff jôc George Bush yma.]

Dyna ti yn du a gwyn

Celf y côd bar. Wyt ti’n fwy na rhif?

Iaith, marwolaeth ac adfer

Language Death and Language Maintenance - llyfr newydd arall (sy’n costio €95 - archebu o’r llyfrgell?), astudiaethau o bedwar ban y byd yn y maes GSI (gwrthdroi shifft ieithyddol).

Languages are dying at an alarming rate all over the world. Estimates range from 50% to as much as 90% by the end of the century. This collection of original papers tries to strike a balance between theoretical, practical and descriptive approaches to language death and language maintenance. It provides overviews of language endangerment in Africa, Eurasia, and the Greater Pacific Area. It also presents case studies of endangered languages from various language families. These descriptive case studies not only provide data on the degree of endangerment and the causes of language death, but also provide a general sociolinguistic and typological characterization the language(s) under discussion and the prospects of language maintenance (if any). The volume will be of interest to all those concerned with the ongoing extinction of the worldís linguistic diversity.

Next Page »