Wrth chwilio am rywbeth arall, des i ar draws y trafodaeth hwn o Tithe an Oireachtais Iwerddon, o fis Hydref 1928, a hwnna’n trafod deddf i wneud Gwyddeleg yn orfodol i unrhywun a oedd am astudio’r Cyfraith:

If people so hate this country, so hate Irish and things Irish, that they are going to leave the country rather than study sufficient Irish to enable them to pass a law examination, one must say let them go, because these people are never going to make good citizens.

Donnie Darko (Richard Kelly, 2001), Theatr Mwldan. Ffilm llawn dop â syniadau, a fyddai unrhyw un ohonyn nhw yn ddigon i’r rhan fwya o’r ffilmiau. Mae’r hon fel tân gwyllt, a doedd hi ddim yn syndod i weld bod y cyfarwyddwr ond yn 26 oed. Lot fawr o hwyl.

Posted in Heb gategori | Tagged

Tipyn bach o nostalgia: themau cwmniau teledu o’r 60au trwy i’r 80au.

Am fwy o hwyl byth, cer ymlaen at y dudalen o sgrînau oedd yn ymddangos cyn rhaglenni ar gyfer ysgolion. Wyt ti’n gallu cystomeiddio enwau’r rhaglenni. Pa mor cwl yw hynny?

Posted in Heb gategori | Tagged

Dw i’n gwybod ei fod yn anodd i gael gwasanaeth yn ein hiaith ein hunan bob tro yma yng Nghymru, ond yn ôl stori hon mae pethau yn waeth byth yn Nunavut, Canada.

A Nunavut health card renewal form printed in English and French, and distributed to residents this past fall, instructed Nunavummiut in French to fill out the English side of the form.

[via Pat]

Cofia’r Alamo!

An American Werewolf in London (John Landis, 1981), fideo personol.

Dw i newydd deipio cofnod hir esbonio pam gwyliais i hon, a pham dw i wedi penderfynnu cynnwys ffilmiau dw i wedi eu gweld o’r blaen yn y rhestr o ffilmiau gwelwyd yn 2003, ond collodd MT y cyfan a dw i ddim am ail-deipio popeth.

Dylwn i ddweud bod Brotherhood of the Wolf yn edrych fel ffilm ddiddorol, ond dw i ddim yn mynd i wylio ffilm wedi’i dybio oni bai bod Godzilla ynddi hi.

Posted in Heb gategori | Tagged

Kdisbellan (ke Sandgren, 1993), fideo o’r llyfrgell. Wnes i ffeindio hon yn anodd: doedd dim byd yn bod ar y ffilm, ond oedd hi’n teimlo fel jigso, wedi’i wneud o ddarnau o ffilmiau eraill. Roedd y Jesper Saln yn dda iawn fel bachgen yn y prif rhan, ac oedd Stellan Skarsgrd yn ardderchog, fel arfer, ond doedd y ffilm ar y cyfan ddim yn gweithio i mi.

Arna i mae bai, siwr o fod.

Posted in Heb gategori | Tagged

Camgymeriad mwya yn hanes America?

Or what if, as the CIA predicted last fall, Saddam, concluding that a U.S. attack was inevitable, gave quantities of chemical and biological weapons to terrorists to attack the United States? In that case George W. Bush will have killed who knows how many human beings for worse than nothing, making his war not only a crime but a blunder, potentially the most catastrophic in American history.

TAITH Y CYFRIFIAD – Chwefror 17-27

[Datganiad Cymuned]

Gyda chanlyniadau’r Cyfrifiad yn cael eu cyhoeddi, ddydd Iau, Chwefror 13, mae Cymuned wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd lleol i drafod y canlyniadau. Ceir dadansoddiad cryno o’r canlyniadau yn seiliedig ar waith fydd wedi ei baratoi i Cymuned gan arbenigwr, ac yn sgil hynny cyfle i drafod y ffordd ymlaen.

Dyma fanylion y daith:
Continue reading

Yr hogyn yn y llun ar y dde yw fy nhad, Mike. Bydd e’n dathlu ei ben-blwydd yn 60 y mis ’ma. Happy Birthday, Dad.