Ble wyt ti ar y cwmpas gwleidyddol?

Dyma fy nghanlyniadau fi:

Economic Left/Right: -8.50
Authoritarian/Libertarian: -8.46

Wrth gwrs, ’sen nhw wedi gofyn am fy marn ar Saunders Lewis, fyddwn i wedi saethu ar draws i’r cornel arall ;-)

Kinoeye newydd sy’n edrych ar waith Miklós Jancsó, rhywun dw i erioed wedi clywed amdano, heb sôn am weld ei ffilmiau. Edrych yn ddiddorol.

MiklÛs JancsÛ suffers an unusual fate in film history. His name is frequently mentioned in film history books, he is a recognised giant of Hungarian, European and world cinema and his unique visual style and complex studies of power and the relationship between history and the individual have been feted. The trouble is that, despite the above, outside his native Hungary surprisingly few people have seenóor can even tell you the name ofóany of his films.

Dw i wedi bod yn fishi iawn

…gyda un peth a’r llall. Es i lan i’r gogledd dydd Gwener, i ddal bws o Groesoswallt i Lundain ar gyfer y Rali Fawr. Wedyn cawson ni barti teuluol i fy nhad (y bachgen golygus ’na ar y dde) sy’n dathlu ei benblwydd yn 60 oed heddi.

Hefyd, dw i wedi bod yn trial bennu y trosiad Cymraeg o’r meddalwedd phpBB (y pecyn dyn ni’n defnyddio ar maes-e.com. Yn lwcus iawn, mae defnyddiwr brwd sy wedi cynnig help llaw i fi, ac mae e’n wneud un o’r ffeiliau mwya. Sgwrs diddorol fan hyn ynglyn â a ddylen ni ddefnyddio ti ynte chi yn y trosiad.

Hefyd, dw i’n gweithio ar wefan cwbl newydd, ond mae hynny yn gyfrinachol am nawr.

Duw, dw i’n ddiawl bach bishi.

Catch Me If You Can (Steven Spielberg, 2002), Odean, Wrecsam. Es i â’m fam i weld hon. Y fath o ffilm ti’n gallu mynd â dy fam i’w gweld. Ddim yn arbennig o dda, a ddim yn arbennig o wael. Teitlau neis. Perfformiadau gweddol. Christopher Walken. Bach yn rhy hir. Plant oedd yn siarad trwy’r holl ffilm, ond ddim yn ddigon agos aton ni i fod yn broblem fawr.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

5{ita and Me (2002)” href=”http://us.imdb.com/Title?0303661″>Anita and Me (Metin H¸seyin, 2002), Theatr Mwldan. Ffilm ola o’r wyl ffilmiau, a ffilm ddigon bleserus i orffen gyda hi. Roedd y llun o fywyd y 70au gynnar yn canu cloch gyda’r hen ddyn ’ma, ac oedd yn braf clywed acenion y Black Country yn eu bro eu hunain (ac nid ar draeth Llangrannog am newid).

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Urga (Nikita Mikhalkov, 1991), fideo o’r llyfrgell. Ffilm dw i wedi gweld o’r blaen, yn Chapter, Caerdydd os ydw i’n cofio’n iawn. Mae’n wych, gwell byth yr ail dro, os rhywbeth. Ro’n i wedi anghofio llawer o’r manylion, yn enwedig yn y trydedd rhan o’r ffilm, a pha mor drist oedd yn y diwedd. Bendigedig.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Quiet American, The (Phillip Noyce, 2002), Theatr Mwldan. Addasiad o’r llyfr gan Graham Greene, gyda Michael Caine a Brendan Fraser fel y ddau ddyn mewn cariad â Do Thi Hai Yen. Byddai’n ddiddorol gweld y fersiwn gwreiddiol a wnaethpwyd yn 1958. Roedd y ffilm newydd yn dibynnu i ryw raddau, ar wybodaeth y cynulleidfa am hanes Viet Nam ar ôl y dyddiad hwnna (I think they’re called the CIA now).

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd