Dych chi’n barod? I unrhywun sy’n ddigon hen i gofio Protect and Survive fydd hyn ynswnio’n gyfarwydd, ond mae catchphrases newydd ’da nhw am y fileniwm newydd:

If you catch fire, do not run. Stop-drop-and-roll to put out the fire.

I’r rhai sy’n henach byth, falle bydd Duck and Cover yn canu cloch.

Jonestownville – tre “rhithiol” (dot com) i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg a chodi geirfa newydd. Mae’n bert iawn a phopeth, ond ydy hyn y ffordd gorau i ddefnyddio adnoddau prin?

O, peidiwch â gwrando arna i, dw i jyst mewn tymor drwg achos bod rhaid i mi ddysgu heno a dwi am gysgu.

Stori o’r bwydr yn erbyn tawelwch sy’n sôn am y profiad o wrando ar gân yn eich ail-iaith, tra bod chi’n dysgu’r iaith honno. Mae hyn yn atgoffa i o wrando ar Datblygu ar y Walkman ar ôl fy nosbarthiadau Wlpan yng Nghaerdydd. Teimlo fel y dylwn i ddeall bob gair, nawr, ond yn gwybod taw amser a ddengys.

Or, put another way, these songs are sad and tender and uplifting to me now, and I hope and expect they’re going to still be sad and tender and uplifting to me once I know what the words mean.

[via sylwadau ar Snailmusings, gwegofiadur â chwaeth]

Posted in Heb gategori | Tagged

Dysgu geiriau symudol – gwasanaeth newydd i ddysgwyr oddi wrth y BBC. Byddan nhw’n hala neges testun gyda ymadroddion Cymraeg i chi i ddysgu, tair gwaith yr wythnos.

A new service for Welsh learners from the BBC. A new Welsh phrase, and its translation, three times a week, direct to your mobile.

Adolygiad bach o Radio Cymru gan No Rock and Roll Fun:

Music and news in Welsh with Owain and Dylan. Everything they play sounds like a bad Eurovision Song Contest entry, with that caberet band backing feel to it. We know Wales is chock-full of decent musicians, so why is it their language station is stuck playing the local equivalent of Andrea True Connection?

Cwestiwn da, gyfaill.