Gêm o ddau fileniwm

Un o’m hanrhegion Dolig oedd y llyfr newydd o Wasg Carreg Gwalch, Mae hi’n gêm o ddau fileniwm (sy ddim ar gael o’u gwefan nhw – cei di drial Gwales dot com, ‘sbo, os oes digon o amynedd ’da ti. Haws jyst i ffonio dy siop lyfrau leol.)

Eniwei. Syniad y llyfr yw cael cyflwyniad at fardd “newydd” – h.y. rhywun sy ddim wedi marw – ac wedyn cael cyflwyniad gan y bardd hwnna at waith rhyw fardd arall. A fel gwobr arbennig, ti’n cael CD o waith y beirdd newydd. Dwi’n mynd ati i dorri y traciau ar y CD i lawr i MP3au er mwyn wneud CD dw i’n gallu defnyddio yn y dosbarth, felly dyma cwpl o gerddi i chi gael blas arno.

Twm Morys – Darllen y map yn iawn.

Elinor Wyn Reynolds – Syniad really dda am gerdd.

Posted in Heb gategori | Tagged

Milwr Bychain Oren

Soldaat van Oranje (1977) – DVD o’r llyfrgell. Un o ffilmiau gynnar Paul Verhoeven, wnaethpwyd yn yr Iseldiroedd cyn iddo fe fynd dros y môr i wneud ffilmiau “mawr”. Do’n i ddim wedi gweld unrhywbeth ganddo cyn Robocop, ac roedd hyn yn syrpreis dymunol. Mae cynicism arferol Verhoeven ’na o hyd, ond wrth ddweud stori go iawn (yn lle ail-ddweud stori sci-fi fel Robocop a Total Recall neu thriller bondigrybwyll fel Fatal Attraction) oedd yn golygu rhywbeth iddo fe’n bersonol mae rhywbeth dyfnach yna hefyd.

Dim lot o extras ar y DVD, ond rhestrau ffilmiau gan y cyfarwyddwr a’r prif actorion. Bach yn depressing i sylw mod i ddim wedi clywed o un o’r ffilmiau mae Rutger Hauer wedi wneud ers 1992, adeg sy’n cynnwys rhyw hanner o ffilmiau a cyfresi teledu.

Posted in Heb gategori | Tagged

Wooah!

The Matrix. Fi oedd y person ola yn y byd sy gyda peiriant DVD ond heb y disg yma. Nes i mi ffeindio fe yn Smiths Aberteifi am 4.99.

Wrth chwilio trwy’r pethau ’na, oedd cwsmer tu ôl i mi, dyn, yn siarad yn Gymraeg sir Aberteifi â’r ferch sy’n gweithio ’na. Wedyn, trodd i’w blentyn tair oed a siarad Saesneg â hi. Ystadegau trist mewn cnawd.

Roedd y ffilm yn wych, wrth gwrs, ond ti’n gwybod hynny.

Posted in Heb gategori | Tagged