Dosbarth newydd yn Chicago

Sa i’n gwybod os oes darllenwyr ’da ni yn y Ddinas Wyntog, ond bydd dosbarth newydd yn dechrau ’na wythnos nesa:

Welsh lessons for beginners/improvers- -(all ability levels welcome
although I intend to begin at the beginning)!
where? upstairs at the Red Lion pub, 2446 N. Lincoln Ave, Chicago,
IL 60614 tel: 773 3482695 (across from Biograph Theatre where John
Dillinger was shot)
when? Wednesday nights from 7 to 9, beginning Wed. Jan. 22

[via rhestr Clwb Malu Cachu]

28 Days Later (Danny Boyle, 2002) mewn Theatr Mwldan bron yn wag. Ffilm orau Boyle ers Trainspotting hen os na oni bai. Mae defnyddio camerau digidol yn helpu creu awyrgylch real ac afreal. Oedd yn f’atgoffa i o gyfres teledu’r 70au, The Survivors. Oedd y diweddglo heulog bach yn siomedig, ond dw i wedi clywed iddyn nhw ffilmio diweddglo arall a fydd ar y DVD.

Trac sain gwych, hefyd. Oedd clywed Grandaddy yn ystod yr olygfa yn yr archfarchnad (“Let’s shop!”) yn codi’r calon.

Fe wnes i freuddwydio am hyn trwy’r nos neithiwr; nid hunllefau, jyst breuddwydion bach yn drist.

Posted in Heb gategori | Tagged

Ali, Ali, Ali

Ali (Michael Mann, 2001), fideo o siop Hoffnant. Ddim yn ddrwg, ond dim byd newydd yn y biopic hon. Roedd Will Smith yn dda, ond ddim yn edrych yn ddigon mawr (pan oedd Ali a Joe Frazier yn cael eu pwyso, oedd Ali i fod yn fwy na Frazier – oedd Will Smith yn edrych hanner maint y llall.) Mae’r ffilm ddogfennol When We Were Kings yn lot well.

Posted in Heb gategori | Tagged

Tridiau yn yr anialwch

Holy Smoke (Jane Campion, 1999), fideo o siop Hoffnant. Cyfle arall i wylio pen-ôl Harvey Keitel mewn ffilm Campion. Mae Kate Winslett yn arddechog yn hon. Drueni bod llawer o’r cymeriadau mor denau (dyn ni wedi gweld y teulu o’r blaen yn Muriel’s Wedding, Strictly Ballroom, The Dish a.y.b) ond mae’r perthynas rhwng Winslett a Keitel yn ddiddorol tu hwnt.

Posted in Heb gategori | Tagged

Dwbl oh, who cares?

Die Another Day (Lee Tamahori, 2002), yn Theatr Mwldan. Hwyl ar y pryd, bach yn drist pan meddwl faint o arian wedi cael ei wario i wneud darn o fflyff fel ’na. Mae’r golygfa gyda Moneypenny a’r holodeck wedi lladd y difryn ola o ramant y 60au oedd ar ôl yn y cyfres.

Neis gweld traeth Penbryn reit ar ddiwedd y ffilm (pan mae Bond a Halle Berry yn “mynd i lawr” gyda’i gilydd). Es i lawr i Benbryn ar fy ffordd adre, dim ond achos mod i erioed wedi ymweld â lleoliad ffilm yn syth ar ôl gweld y ffilm, ac oedd hanner awr ’da fi i’w ladd.

Posted in Heb gategori | Tagged

Cronfa Siaradwyr Cymraeg y Brifddinas

Creu bas data o Siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd – syniad da o Menter Caerdydd:

Mae yna dros 25,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghaerdydd, ac maeín ymddangos ei fod yn anodd i gysylltu aír holl Gymry Cymraeg sydd yn byw yma. Mae Menter Caerdydd yn awyddus felly i sefydlu bas data o e-byst er mwyn hyrwyddo gweithgareddau cymdeithasol Cymraeg , megis cynlluniau Chwarae,clybiau ar ol ysgol, gweithgareddau teuluol, cyngherddau, dramau, tripiau, clybiau, hysbysu am swyddi, nosweithiau cymdeithasol a llawer iawn mwy.

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich e-bost byddwn yn danfon holiadur syml atoch tua canol mis Mawrth yn gofyn i chi beth yn union yw eich diddordebau a pha fath o weithgareddau a digwyddiadau y byddwch yn dymuno clywed amdanynt. Gall Menter Caerdydd wedyn ddanfon y wybodaeth atoch a fydd ond yn berthnasol i chi yn Ùl eich gofyn.

Mi fydd y wybodaeth yma yn eiddo i Menter Caerdydd yn unig ac ni fydd yn cael ei drosglwyddo at unrhywun arall, felly mi fydd yn gwbwl gyfrinachol.

Maes o law gobaith Menter Caerdydd yw datblyguín brif ffynhonnell hyrwyddo gwybodaeth ynglyn ar iaith Gymraeg yng Nghaerdydd…Gallwch elwa oír gwasanaeth rhad ac am ddim yma trwy gofrestru gydaích e-bost. Os oes diddordeb gennych danfonwch e-bost atom cyn gynted a syín bosib at:

sianlewis@mentercaerdydd.org

[Diolch i Mihangel Mac!]

MC Saizmundo

Mae gan Zool (gwefan Sony Playstation) fideo bach am MC Saizmundo o’r Bala. Bydd yn edrych yn well ar dy gysylltiad band llydan nag oedd ar fy modem clocwaith. Mae’n debyg bod angen fact checker ar bois Sony, hefyd.

22 year old MC Saizmundo lives in Bala, North Wales and is unique (yn wir?) in the Hip Hop community in the sense that all his lyrics and rhymes are in Welsh. While not as glamorous as the East Coast/West Coast vibe of American mainstream Hip Hop…

Am gywilydd! Not as glamorous? Wyt ti eriod wedi bod yn Y Bala, gyfaill?

Jyst rhag ofn dwyt ti ddim yn gallu ffeindio’r peth (mae’n safle Fflach, felly yn anodd i gysylltu yn uniongyrchol) dyma’r fideo.

[diolch i Gareth!]

Modrwy Dr Suess

Lord of the Rings gan awduron eraill gan gynnwys Hemingway, Mark Twain, a bardd mwya’r Amerig:

"Gandalf, Gandalf! Take the ring!
I am too small to carry this thing!"

"I can not, will not hold the One.
You have a slim chance, but I have none.
I will not take it on a boat,
I will not take it across a moat.
I cannot take it under Moria,
that’s one thing I can’t do for ya.
I would not bring it into Mordor,
I would not make it to the border."

Posted in Heb gategori | Tagged

Wedi tiwnio i sianel marw

Mae gwegofiadur gyda William Gibson. Mae’n fwy o ddyddiadur, ond still… William Gibson.

You could have sex relatively comfortably on a platform of books, but not on a platform of PDAís. Hardcover books. Paperbacks might start sliding around. Though Iíd still prefer paperbacks to a pile of PDAís.

Ac mae’r hen stori am ei fod e’n Luddite sy’n sgwennu popeth gan law gyda plu ostrich? Ddim yn wir, yn ôl y sôn.

[via boingboing, fel y rhan fwya o'r dolennau heddiw]

Posted in Heb gategori | Tagged

Hanes y Gymraeg

Heno, ar BBC Wales, ceir am y tro cyntaf hanes y Gymraeg, yn Saesneg. Mae hyn yn holl bwysig, dw i’n credu.

BBC presenter Huw Edwards, takes us on a personal exploration of the history, the present and the future of the Welsh language.

Nowadays Edwards spends most of his time in London, but the broadcaster says he is first and foremost a Welshman.

In this six-part series for BBC Wales, he argues that it is impossible to understand the power of the Welsh language to unite or divide without an appreciation of its central role in the history of Wales.

Yng ngheg gwallgofrwydd

In the Mouth of Madness (John Carpenter, 1995), ar y teledu. Sôn am erchyll pylp, dyma un o’r meistr Americanaidd, ac un o’i ffilmiau dw i heb weld o’r blaen. Ddim yn arbennig o dda, ac oedd golwg “pam yn y byd wedais i ‘ie’ i hon?” ar wyneb Sam Neill yr holl ffordd trwyddi. Ond alla i ddim maddau i ffilmiau sy’n defnyddio’r ystryw hunllef o fewn hunllef (American Werewolf, Nightmare on Elm Street ac ati) – dw i ddim yn gallu meddwl o unrhywbeth waeth na pheidio gwybod os wyt ti’n breuddwydio neu beidio.

Posted in Heb gategori | Tagged